Castell-nedd: Dyn yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddio

Ffordd BeaconsfieldFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Georgina Dowey, 46, ei ganfod mewn cyfeiriad ar Ffordd Beaconsfield, Llangatwg, ar 7 Mai

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Gastell-nedd wedi pledio'n euog i ddynladdiad ond wedi gwadu llofruddio menyw ym mis Mai.

Fe ymddangosodd Mathew Pickering, 48, yn rhithiol o flaen llys fore Gwener wedi ei gyhuddo o lofruddio Georgina Dowey.

Cafodd corff y fenyw 46 oed ei ganfod mewn cyfeiriad ar Ffordd Beaconsfield, Llangatwg, ar 7 Mai.

Mae Mathew Pickering yn cael ei gadw'n y ddalfa tan y bydd yr achos yn dechrau yn Ionawr 2024.

Pynciau cysylltiedig