Diogelwch yn y môr: Person osododd arwydd i arnofio yn 'arwr'

Katie Laurie (chwith) gyda Will Peckham, aeth hefyd i drafferthion yn Borth
- Cyhoeddwyd
Mae menyw aeth i drafferthion yn y môr yn 2022 wedi dweud fod arwydd yn atgoffa nofwyr i arnofio er mwyn goroesi wedi achub ei bywyd, a phwy bynnag wnaeth ei osod yn "arwr".
Yn ôl gwaith ymchwil newydd gan yr RNLI, byddai 73% o bobl yn anghofio ceisio arnofio yn lle nofio yn y môr mewn argyfwng.
Mae'r elusen yn ceisio annog pobl i ymweld â thraeth sydd ag achubwyr bywyd, ac i ddilyn ac ymarfer mesurau diogelwch yr RNLI.
Er bod disgwyl i'r tywydd oeri dros y diwrnodau nesaf, mae'r RNLI yn dal i ddisgwyl cynnydd mewn nifer yr ymwelwyr â'r arfordir ac yn ceisio addysgu cymaint o bobl a phosib am fesurau diogelwch.
Dywedodd llefarydd ar ran yr RNLI bod ymweld â thraethau gydag achubwyr bywyd yn bwysig iawn.

Aeth Katie Laurie i drafferthion ar draeth Borth yn 2022, pan gafodd ei llusgo allan i'r môr am 40 metr.
Meddai: "Roeddwn i'n mynd yn bellach ac yn bellach o'r lan ac roedd y cerrynt mor gryf. Roedd fel bod mewn peiriant golchi.
"Y cyfan y gallem ei wneud oedd ymladd digon i anadlu.
"Roeddwn i'n rhedeg allan o egni a chwilio am ffyrdd i beidio â marw, yna cofiais fy mod i wedi gweld arwydd gyda'r cyngor arnofio i fyw.
"Mae pwy bynnag a osododd yr arwydd hwnnw wrth fynedfa'r traeth yn arwr.
"Roeddwn i wedi blino'n lân erbyn i ni gael ein hachub. Dydw i ddim yn cofio llawer o'r daith yn ôl – erbyn hynny roeddwn i wedi blino'n lân.
"Pan ddes i allan o'r môr, allwn i ddim cerdded heb gymorth."
Cyngor ar sut i arnofio i fyw:
Cyngor yr RNLI i unrhyw un sydd mewn trafferth yn y dŵr yw arnofio i fyw:
Gorwedd gydag eich pen yn ôl gan gadw eich clustiau o dan y dŵr
Ymlacio a cheisio anadlu'n arferol
Symud eich dwylo a'ch coesau i arnofio
Mae pawb yn arnofio'n wahanol ac mae'r coesau yn gallu suddo rhywfaint
Os oes gyda chi egni, ceisiwch chwifio eich dwylo neu alw am help neu nofio at y lan.

"Os ydych chi yn y môr, neu'n gweld rhywun arall mewn trafferth, ceisiwch eu hannog i arnofio," medd Tirion Dowsett
Fe ddywedodd Tirion Dowsett, sy'n Swyddog Diogelwch gyda'r RNLI, bod ystyried ymweld â thraethau sydd ag achubwyr bywyd yn hollbwysig.
Dywedodd fod "pethau yn gallu digwydd ar fyr rybudd ond ni'n ceisio annog pobl i wybod beth i'w wneud mewn argyfwng".
"Os ydych chi yn y môr, neu'n gweld rhywun arall mewn trafferth, ceisiwch eu hannog i arnofio.
"Mae mynd i draeth gydag achubwyr bywyd yn gwneud byd o wahaniaeth neu wrth gwrs ffonio'r bad achub," meddai.
Ychwanegodd ei bod hi'n bwysig hefyd i "ymarfer y sgiliau yma yn eich pwll nofio lleol fel eich bod yn gyfarwydd".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2019
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd23 Mai 2018