Mwy o bobl dan 20 oed yn boddi'n ddamweiniol
- Cyhoeddwyd
Er bod achosion o foddi'n ddamweiniol ar draws Cymru wedi gostwng am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, mae cynnydd wedi bod ymhlith pobl o dan 20.
Llynedd bu 48 o farwolaethau yn gysylltiedig â dŵr yng Nghymru - roedd 22 yn achosion o foddi damweiniol.
Er bod nifer y marwolaethau yn is na'r 26 a gofnodwyd y flwyddyn flaenorol, roedd pedair o'r 22 marwolaeth yn bobl dan 20 oed - y nifer uchaf ar gofnod.
Dywed y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wrth Newyddion S4C bod y ffigyrau yn rhai sy'n "peri pryder mawr" iddi.
Gyda 46% o farwolaethau o ganlyniad i foddi yn digwydd ym misoedd Mehefin, Gorffennaf ac Awst, mae 'na alw ar blant a phobl ifanc i gael addysg am beryglon dŵr.
Mae sioe lwyfan newydd, sy'n adrodd stori meddyg sy'n galaru wedi trasiedi 'tombstoning', sef neidio neu ddeifio o uchder i ddŵr, yn annog pobl ifanc i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.
"Mae lot o beryglon 'di pobl ifanc ddim yn ymwybodol ohonyn nhw," eglurodd Tom Blumberg, cyfarwyddwr sioe Y Naid gan gwmni Theatr na nÓg.
"Falle fod sioe fel hyn i blant blynyddoedd 5 a 6 yn teimlo yn eithaf ifanc ac yn ddwys, ond y bwriad yw ein bod ni'n cyrraedd y plant yma cyn eu bod nhw'n dechrau neidio mewn i'r dŵr."
Ers y sioe gyntaf bum mlynedd yn ôl mae'r sioe wedi teithio i nifer o ysgolion yng Nghymru, ac addaswyd y sgript i ffilm fer yn ystod y pandemig yn 2021.
Dywedodd Bethan Owens-Jones, o Awdurdod Harbwr Caerdydd sy'n un o gomisiynwyr y ddrama, eu bod nhw'n "cymryd hyn yn ddifrifol iawn".
"Mae'n bwysig fod pobl yn siarad am y peryglon ac mae'r cynhyrchiad yn ffordd o gyrraedd pobl ifanc yn benodol," meddai.
'Addysgu yn hollbwysig'
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: "Er bod gostyngiad wedi bod yn nifer yr achosion o foddi damweiniol yng Nghymru, mae'r cynnydd mewn marwolaethau boddi damweiniol ymhlith pobl ifanc yn peri pryder mawr.
"Rwy'n cydymdeimlo'n ddwys ag unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio gan ddigwyddiad mor drasig.
"Mae addysgu pobl ar sut i fod yn ddiogel ger dŵr yn hollbwysig a hoffwn ddiolch a llongyfarch pawb sy'n rhan o Theatr na nÓg am eu gwaith ar y cynhyrchiad addysgiadol."
Ar drothwy misoedd yr haf mae pwyslais ar bobl o bob oed i fod yn wyliadwrus o beryglon dŵr - boed hynny mewn dŵr agored, afonydd neu foroedd.
Yn ôl Tirion Dowsett o Wasanaeth Bad Achub yr RNLI, bod yn ymwybodol o'r peryglon yw'r flaenoriaeth.
"Ni eisiau i bobl gael hwyl ar y traeth," meddai. "Ond gall pethau ddigwydd yn y môr, yn enwedig ar draethau sydd heb achubwyr bywyd.
"Os mae rywbeth yn digwydd y peth pwysicaf yw galw 999 a gofyn am wylwyr y glannau.
"Ond os ydych chi yn y môr eich hunan, beth mae'r RNLI yn gofyn i chi wneud yw arnofio ar eich cefn ac arnofio i fyw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd28 Mai 2021
- Cyhoeddwyd13 Awst 2017