Tomos Williams yn gadael taith y Llewod ar ôl anaf

Bu'n rhaid i Williams adael y cae yn syth ar ôl sgorio cais yn y fuddugoliaeth dros Western Force ddydd Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae mewnwr Cymru, Tomos Williams, ar ei ffordd adref o daith y Llewod yn Awstralia ar ôl cael anaf.
Bu'n rhaid i Williams adael y cae ar ôl sgorio cais yn y fuddugoliaeth o 54-7 dros Western Force yn Perth ddydd Sadwrn oherwydd anaf i'w linyn y gar (hamstring).
Bydd mewnwr yr Alban, Ben White, yn cymryd ei le yn y garfan o 38 chwaraewr.
Mae'n golygu mai dim ond un Cymro - y blaenasgellwr Jac Morgan - sydd ar ôl yn y garfan.
'Waeth na'r disgwyl'
''Mae hyn yn newyddion trist iawn i Tomos,'' meddai cadeirydd y Llewod a rheolwr y daith, Ieuan Evans.
''Mae'n gosod esiampl fel Llew ac fe gafodd dymor gwych ar ôl ymuno â'r daith fel chwaraewr y tymor yn y Premiership yn Lloegr.
"Fe oleuodd y daith hon gyda'i bersonoliaeth a'i dalent.''
Cadarnhaodd y prif hyfforddwr Andy Farrell fod anaf Williams "yn waeth na'r disgwyl".
''Mae'n chwaraewr rhagorol - mae wedi chwarae'n arbennig o dda,'' meddai Farrell.
''Ond fyddwn ni ddim yn colli'r chwaraewr yn unig, byddwn ni'n colli'r dyn.
"Mae e'n bopeth rydych chi eisiau ei gael ar daith sy'n ei gwneud hi'n anoddach i ni i gyd."
'Ergyd dorcalonnus'
Mae hyn yn ergyd dorcalonnus i Tomos Williams sy'n gadael glannau Awstralia heno fel mewnwr gorau'r daith hyd yn hyn.
Yn fywiog a thwyllodrus oddi ar y fainc yn erbyn yr Ariannin, roedd e'r un mor gryf yn erbyn Western Force gydag arddull tempo uchel Andy Farrell yn siwtio ei gryfderau.
Pan chi'n meddwl am fomentau cofiadwy yng nghyfresi'r Llewod, roedd gan Williams y potensial i oleuo gêm gyda'i ddawn.
Ar ôl methu'r Chwe Gwlad pedair blynedd yn ôl oherwydd anaf tebyg, roedd hwn yn gyfle euraidd i'r gŵr 30 oed.
Mae'n pwysleisio creulondeb y gêm broffesiynol; mewn amrantiad, mae ei gyfle wedi mynd.
Ac felly am y tro cyntaf ers 1903, un Cymro sydd gan Gymru ar y daith. Reg Skrimshire oedd y Llew bryd hynny, Jac Morgan yw'r unig un ar ôl eleni.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai