Cath Ayers: Cyfres Netflix ac actio'n y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Pythefnos ers cael ei ryddhau ar Netflix, mae 36.9 miliwn o bobl wedi gwylio'r gyfres dditectif, Missing You.
Dyma'r rhifyn ddiweddara sydd wedi'i addasu o un o nofelau'r awdur Americanaidd poblogaidd, Harlen Coburn.
Un sy'n chwarae rhan Nia yn Missing You yw'r Gymraes, Cath Ayers.
Dyma eistedd i lawr gyda Cath wrth iddi egluro'r pwysau o fod yn rhan o gyfres sydd â disgwyliadau mor uchel.
Mae hi hefyd yn sôn am ba mor lwcus yw hi o fod wedi cael profiadau o weithio ar gynyrchiadau Cymraeg a pham fod Pencampwriaeth Dartiau'r Byd wedi golygu nad oedd hi'n gallu gwylio Missing You ar y diwrnod gafodd ei ryddhau.
Missing You
Mae Missing You yn gyfres o 5 rhifyn sy'n adrodd hanes y Ditectif Kat Donovan a'i hymgais am atebion wedi i'w chyn gariad ymddangos ar ap dêtio a hynny ddeng mlynedd ers iddo ddiflannu.
Wrth gwrs, gan mai addasiad o nofel Harlen Coburn yw hon, mae sawl trosiad cyffrous arall yn digwydd yn y gyfres.
Roedd y cynhyrchiad diwethaf o'i stabl o nofelau ar Netflix sef Fool Me Once gyda Michelle Keegan yn y brif ran wedi cael bron i 100 miliwn o wylwyr, felly roedd Cath yn ymwybodol wrth gerdded ar y set fod pwysau aruthrol ar yr actorion i wneud y gyfres weithio.
"Roedd 'na bwysau mawr. Roedd Fool Me Once mor boblogaidd, roedd y teimlad 'na ar y set fod lot o bobl yn mynd i fod yn gwylio'r gyfres yma.
"Dwi'n teimlo fod hon lot yn fwy tywyll na Fool Me Once ac unwaith eto roedd rhaid neud pob golygfa weithio.
"Roedd yr actorion oedd wedi'u castio i gyd yn anhygoel gan gynnwys y prif gymeriad sef Rosalind Eleazar, Richard Armitage a Lenny Henry," meddai Cath.
Cafodd Cath ei chastio yn y rhan ychydig cyn y Nadolig yn 2023.
Doedd dim llawer o amser rhwng iddi gael ei chastio a dechrau ffilmio ddiwedd Ionawr y llynedd.
"Ers cyfnod Covid mae gwneud clyweliadau yn llawer haws.
"Roedd teithio i Lundain i wneud clyweliadau yn aml yn gallu bod yn gostus, ond mae'r rhan fwyaf bellach yn golygu anfon self tapes.
"Rydych chi'n derbyn sgript ac yn ffilmio eich hun yn perfformio'r rhan cyn ei anfon yn ôl.
"Dwi'n eithaf lwcus achos dwi wedi gwneud spot bach yn y tŷ sydd wedi'i oleuo, gosod camera a microffon ac ati a dwi'n lwcus fod y ngŵr hefyd yn gyfarwyddwr ffilm a theledu felly mae o'n gallu rhoi adborth i mi," meddai.
Roedd y cwmni wedi cymryd amser maith i benderfynu ar y cast, ond pan ddaeth yr alwad roedd Cath mewn sioc.
"Mae gan fy ffrind siop ddillad ym Mhontcanna a dwi'n helpu mas yn weithiau.
"Dyna lle oeddwn i yn Kitty yn helpu mas a daeth yr alwad i ddweud fy mod wedi cael y rhan.
"Roeddwn wedi dychryn ac roedd scale y peth o ran maint yn dod yn fyw i mi.
"Bron a bod yn sydyn wedyn roedd y ffilmio yn dechrau yn ardal Manceinion," meddai.
Wrth gerdded ar y set, roedd Cath yn dweud ei bod yn teimlo'n hollol gartrefol a hyderus, ac roedd hynny meddai oherwydd y profiadau yr oedd hi wedi ei gael ar gynyrchiadau Cymraeg.
"Rydym ni'n hynod lwcus yma yng Nghymru a drwy weithio drwy'r Gymraeg.
"Mae rhai o'r cynyrchiadau dwi wedi bod yn rhan ohonyn nhw ers dwi'n 17 oed, dwi wedi bod mor lwcus i gael y platfform yma i neud hyn ers blynyddoedd yn y Gymraeg.
"Mae cymaint o actorion o Loegr sydd ddim yn cael yr un cyfleoedd yn dod ar job fawr a dim lot o brofiad ganddyn nhw cyn hynny.
"Mae lot o bobl yn gofyn i mi sut mae cymharu fod ar set cyfresi Cymraeg i gymharu â'r un Missing You?
"I fod yn onest does dim lot o wahaniaeth a hynny oherwydd yr holl gyfleoedd sydd ar gael i actorion Cymraeg, rydyn ni'n lwcus iawn," meddai.
Mae Cath hefyd yn cyfaddef mai dyma'r mwyaf o sylw mae hi wedi'i gael yn ei gyrfa wrth gerdded lawr y stryd.
"Mae'n different level o sylw, hwn yw'r mwyaf mae pobl yn dod ata i ar y stryd ers iddo gael ei ryddhau.
"Mae pobl i weld yn mwynhau."
Pan ryddhawyd y gyfres ar 1 Ionawr, ni wnaeth Cath wylio'r bennod gyntaf tan tua thridiau wedyn.
"Nes i ddim gwylio'r gyfres yn syth oherwydd roeddwn yn obsessed gyda'r Darts," meddai.
Roedd Pencampwriaethau'r Dartiau'r Byd yn yr Alexandra Palace yn Llundain yn cael eu cynnal dros gyfnod y Nadolig ac yn gorffen ar 3 Ionawr.
"Roedden ni wedi cael ffliw yn tŷ ni dros y Nadolig felly dyna oedden ni yn neud oedd gwylio'r Darts ac o'n i'n hollol obsessed, felly nes i ddim dechre gwylio Missing You nes i'r Darts orffen," meddai.
Beth nesaf yn 2025?
Roedd 2024 yn flwyddyn brysur i Cath. Roedd hi'n brysur yn ffilmio Missing You a chyfres arall i'r BBC o'r enw The Guest â oedd yn cael ei ffilmio yn ardal Caerdydd a Chasnewydd fydd yn cael ei rhyddhau nes ymlaen yn y flwyddyn.
"O ran gweddill y flwyddyn nawr dwi'n disgwyl am y gwaith nesaf."
Mae Cath yn edyrch ymlaen ar y dyfodol ac yn falch iawn ei bod wedi cael cyfle i weithio ar gynhyrchiad fel Missing You.
Mae'n ystyried y rhan yn un bwysig iawn i'w gyrfa.
"Ro'n i'n eistedd yma yn fy ystafell fyw un diwrnod ac yn syllu ar y silff lyfrau a sylwi fod gen i ambell i nofel Harlen Coburn ac mae'n wych meddwl fy mod wedi cael cyfle i fod yn un o'r addasiadau.
"Er iddo hedfan mas i Loegr i fod ar y set, ches i ddim cyfle i'w gyfarfod achos doeddwn ddim i fewn y diwrnod hynny.
"Ond ers hynny, ges i ping ar fy ffôn un diwrnod a neges Instagram yn dweud 'Harlen Coburn is now follwing you,' felly mae'n braf iawn cael cydnabyddiaeth fel 'na ganddo," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2019