Tymor toreithiog: Hydref 2024 'yn wledd i'r llygaid'
- Cyhoeddwyd
A hithau'n ddiwedd Medi a'r haf yn swyddogol drosodd, mae'n gyfle i ni ddadansoddi cyflwr ein gerddi.
Un sy'n hoff o natur a chefn gwlad yw Tudur Davies o Lanelwy.
Mae Tudur wedi sylwi bod y cyfnod diweddar wedi bod yn un dra llewyrchus i'r ffrwythau yn ei ardd.
"Rydym yn byw yma yn Llanelwy ers 53 mlynedd (Awst 1971) ac mae’r hydref eleni yn un ffrwythlon iawn – ymhob ystyr!
"Credaf ei bod yn deg dweud bod yr hydref hwn yn un cynhyrchiol a thoreithiog iawn o safbwynt hadau, aeron a ffrwythau. Mae coed, llwyni a gwrychoedd (perthi, sietynnau, cloddiau) yn goferu o ffrwythau o bob lliw a llun."
Dywed Tudur fod hydref 2024 "yn wledd i’r llygaid... a’r bol!"
Felly, dyma ddetholiad o rai o’r ffrwythau sydd i’w gweld yn nyffrynnoedd Clwyd ac Elwy ar hyn o bryd.
Afalau Crabas

Afalau crabas, sydd hefyd yn cael eu galw'n afalau surion bach
Cnau castan

Cnau castan (concyrs) y castanwydd (castanwydden y meirch)
Eirin ysgaw

Eirin ysgaw y coed ysgaw (ysgawen, pren ysgaw)
Bochau cochion

Egroes rhosyn sef aeron y rhosyn gwyllt. Bochau cochion neu bochgoch medd rhai – hyfryd!
Cnau cyll

Cnau y coed cyll (collen)
Afalau'r drain

Aeron y drain gwynion (draenen wen). Afalau’r drain yn enw swynol ar yr aeron yma
Aeron criafol

Aeron y coed criafol (criafolen)
Mwyar duon

Mwyar duon (mafon duon)
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd17 Medi 2024
- Cyhoeddwyd12 Awst 2024
- Cyhoeddwyd23 Medi 2024