S4C i dargedu mwy o gynnwys digidol wrth i lai wylio ar deledu

Rhaglenni S4CFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae 10% o holl oriau gwylio S4C bellach yn digwydd ar BBC iPlayer, yn ôl yr adroddiad

  • Cyhoeddwyd

Bydd S4C yn targedu mwy o'u cyllideb i ddatblygu gwasanaethau digidol aml-gyfrwng yn hytrach na'r sianel deledu, yn ôl adroddiad blynyddol y darlledwr.

Mae llai o bobl yn gwylio'r sianel deledu gyda 306,000 yn gwylio yn wythnosol yn ystod 2024/25 o'i gymharu â 310,000 y flwyddyn gynt, yn ôl ffigyrau BARB, sy'n mesur cynulleidfaoedd teledu.

Mae hynny dal yn uwch na'r 300,000 fu'n gwylio yn 2021/22 ond tipyn yn is na'r 324,000 fu'n gwylio bob wythnos yn 2022/23.

Ond mae'r adroddiad yn dweud bod y ffigurau yn eithaf sefydlog o'i gymharu â chynulleidfaoedd pob sianel 'llinol' ar draws y Deyrnas Unedig, mewn sector sy'n 'heriol'.

Bu cwymp hefyd yn y nifer sy'n gwylio S4C drwy'r DU – 454,000 oedd nifer y gwylwyr wythnosol o'i gymharu â 602,000 yn 2021/22.

Roedd llai yn gwylio yn ystod yr oriau brig rhwng 19:00 a 22:00.

17,000 oedd y gynulleidfa ar gyfartaledd drwy'r DU yn ystod yr oriau hyn yn 2024/25 - i lawr o 20,100 yn 2023/24.

Y Llais - Yws Gwynedd, Aleighcia Scott, Bronwen Lewis, a Bryn Terfel, sef hyfforddwyr Y Llais, ar y setFfynhonnell y llun, S4C/Boom Cymru/ITV Studios
Disgrifiad o’r llun,

Mae Y Llais (uchod), ynghŷd â Cleddau ac Amour a Mynydd yn rai o lwyddiannau'r sianel

Roedd cynnydd sylweddol yn y nifer fu'n gwylio rhaglenni ar wasanaeth BBC iPlayer.

Mae'r platfform yn gyfrifol am 10% o holl oriau gwylio S4C.

Gyda Clic a YouTube, mae 14% o holl wylio S4C yn digwydd ar-lein.

Mae hynny, meddai'r sianel, yn adlewyrchu'r newid parhaus o ran arferion gwylio ac yn tanlinellu'r pwysigrwydd o fuddsoddi mewn presenoldeb ar y platfformau digidol.

Hynny, meddai S4C, ydy'r ffordd i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac amrywiol.

Roedd pobl wedi gwylio bron i 4.5 miliwn o oriau o raglenni S4C ar iPlayer a Clic, 300,000 yn uwch na'r flwyddyn flaenorol.

Adeilad S4C

Un o'r llwyddiannau mawr ydy cyfres Y Llais sydd wedi denu cynulleidfaoedd newydd, ifanc, a siaradwyr Cymraeg newydd, meddai'r adroddiad.

Roedd dros hanner y gynulleidfa dan 45 oed, gyda hynny'n wir am y gyfres Amour a Mynydd hefyd.

Y gyfres Cleddau ydy'r rhaglen ddrama iaith Gymraeg gafodd y nifer uchaf erioed o sesiynau gwylio ar iPlayer.

Rhaglenni chwaraeon oedd saith o'r 10 uchaf ar restr rhaglenni mwyaf poblogaidd S4C.

Fe wnaeth 440,000 o bobl wylio'r gêm rhwng tîm pêl-droed dynion Cymru a Gwlad yr Iâ yng Nghynghrair y Cenhedloedd ym mis Tachwedd.

Dywedodd S4C bod cynnydd o 75% yn yr ymwneud gyda'u prif gyfrifon ar Facebook, Instagram a TikTok.

"Parhau i gryfhau mae Newyddion Digidol S4C, gyda chynnydd o 28% eleni yn nifer o dudalennau'r gwasanaeth a welwyd," meddai S4C.

'Trawsnewid S4C'

Ond mae cwestiynau yn parhau ynglŷn ag ariannu darlledwyr cyhoeddus fel S4C.

Ers 2022, fe ddaw holl gyllid cyhoeddus S4C drwy'r Ffi Drwydded, trefn fydd yn parhau tan o leiaf ddiwedd Mawrth 2028.

Mae S4C hefyd yn derbyn tua £7.5m y flwyddyn o gyllid ychwanegol fydd yn cynyddu'n unol â chwyddiant.

Yn yr adroddiad blynyddol mae'r cadeirydd newydd, Delyth Evans, yn dweud bod y sicrwydd hynny yn cynnig cyfle i "drawsnewid S4C ar gyfer y dyfodol."

Fe gafodd Geraint Evans ei benodi'n brif weithredwr S4C fis Tachwedd 2024 ar ôl diswyddo Sian Doyle.

Pynciau cysylltiedig