Chwe phrosiect gan yr Urdd i ddathlu merched Cymru yn Euro 2025

Bydd Jambori'r Ewros yn rhoi cyfle i holl ddisgyblion cynradd Cymru ddod ynghyd i ganu a dathlu tîm menywod Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Urdd wedi cyhoeddi chwe phrosiect newydd i ddathlu a chefnogi tîm pêl-droed menywod Cymru ym mhencampwriaeth Euro 2025.
Bydd y prosiectau yn cyd-fynd ag ymgyrch #FelMerch yr Urdd - ymgyrch sy'n ceisio ysbrydoli a chefnogi menywod ifanc i gadw'n actif a chwalu rhwystrau o fewn chwaraeon.
Bydd tîm merched Cymru yn cystadlu yn Euro 2025 yn y Swistir yr haf hwn - y tro cyntaf erioed iddyn nhw chwarae yn un o'r prif bencampwriaethau.
Mae manylion y prosiectau yn cael eu cyhoeddi yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr ddydd Mawrth.
Maen nhw wedi derbyn nawdd trwy gronfa Euro 2025 Llywodraeth Cymru.

Bydd plant Cymru yn cyd-ganu'r anthem gyda band Eden, a'r cantorion Aleighcia Scott a Rose Datta
Jambori'r Ewros ydy un o'r prosiectau - digwyddiad rhithiol fydd yn rhoi cyfle i holl ddisgyblion cynradd Cymru ddod ynghyd i ganu a dathlu'r tîm.
Daw jambori yn sgil digwyddiad tebyg ar gyfer Cwpan y Byd yn 2022, ddaeth â dros 250,000 o blant at ei gilydd i ganu a chefnogi tîm dynion Cymru.
Ar y cyd â'r jambori mae'r prosiect Anthem Ewros #FelMerch.
Caryl Parry Jones fydd yn gyfrifol am gyfansoddi anthem newydd sbon i gefnogi'r tîm, a bydd plant Cymru yn ei chyd-ganu yn ystod y jambori yng nghwmni band Eden.
Bydd y cantorion Aleighcia Scott a Rose Datta - enillydd cystadleuaeth Y Llais 2025 - hefyd yn rhan o'r jambori.
Beth yw'r prosiectau?
Jambori'r Ewros - digwyddiad cenedlaethol i 250,000 o blant ysgolion Cymru i gyd-ganu, codi ymwybyddiaeth a dathlu merched Cymru yn yr Ewros, gan wahodd pob ysgol gynradd yng Nghymru i gymryd rhan;
Anthem Ewros - Creu anthem i ysbrydoli'r genedl i gefnogi Cymru, fydd yn cael ei dysgu gan holl ysgolion Cymru i gloi Jambori'r Ewros;
Gwerin #FelMerch – Arddangos talent cyfoes gwerin Cymru gan fenywod ifanc yr Urdd mewn cydweithredid â TwmpDaith;
Gŵyl Chwaraeon Ewros – Ail-frandio cystadleuaeth genedlaethol pêl-droed merched yr Urdd i ddathlu pêl-droed menywod a diwylliant Cymru;
Cynhadledd #FelMerch - Cynhadledd undydd a gynhelir fis Hydref 2025 fel gwaddol Ewros 2025;
Llysgenhadon #FelMerch – Ymweliad o lysgenhadon #FelMerch i ddigwyddiad yn y Swistir.

Mae Siân Lewis yn gobeithio y bydd y priosectau yn "tanio diddordeb ac yn ysbrydoli plant a phobl ifanc Cymru"
Dywedodd Siân Lewis, prif weithredwr yr Urdd: "Wrth i garfan menywod Cymru gystadlu ym Mhencampwriaeth Euro 2025 am y tro cyntaf erioed, daw cyfle diguro i ni fel mudiad ieuenctid mwyaf Cymru i blethu hyn oll â'n hymgyrch #FelMerch.
"Rydym yn edrych ymlaen at wireddu'r prosiectau hyn fydd yn tanio diddordeb ac yn ysbrydoli plant a phobl ifanc Cymru gydol yr ymgyrch, gan roi cyfle iddynt fod yn Gymry balch wrth gyd-ganu a chefnogi'r tîm, yn ogystal â chymryd rhan mewn digwyddiadau chwaraeon a chelfyddydau arbennig yma yng Nghymru ac yn y Swistir."
Dywed llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) fod "prosiectau'r Urdd, gyda chefnogaeth cronfa Euro 2025 Llywodraeth Cymru, yn enghraifft bwerus o sut y gall pêl-droed, creadigrwydd a diwylliant ddod ynghyd i ysbrydoli cenedl.
"Bydd y mentrau hyn nid yn unig yn tanio cefnogaeth i Gymru yn ystod y pencampwriaeth, ond hefyd yn ysbrydoli merched a menywod ledled Cymru i gymryd rhan ym mhêl-droed, ym mhob agwedd o'r gêm."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl