Yr actores Marged Esli wedi marw yn 75 oed

- Cyhoeddwyd
Mae'r actores, y gyflwynwraig a'r awdures Marged Esli wedi marw yn 75 oed.
Fe wnaeth ei theulu gadarnhau ei bod wedi marw fore Sadwrn yn Ysbyty Gwynedd yn dilyn cyfnod o salwch byr, gyda'i theulu o'i chwmpas.
Wedi'i magu yng Ngwalchmai ar Ynys Môn, roedd Marged Esli Charles-Williams yn fwyaf adnabyddus am actio cymeriadau fel Nansi Furlong yn y gyfres opera sebon Pobol y Cwm, a'r brif ran yn y ffilm Madam Wen ar S4C yn 1982.
Fe ymddangosodd mewn cyfresi comedi fel Porc Peis Bach, a bu'n actio hefyd mewn sawl rhaglen i blant gan bortreadu'r cymeriad adnabyddus Dwmplen Malwoden yn y gyfres boblogaidd Caffi Sali Mali, a chyflwyno rhaglenni fel Bilidowcar gyda Hywel Gwynfryn.
Ymddangosodd hefyd mewn cyfresi a ffilmiau Saesneg gan gynnwys Casualty a nifer o hysbysebion teledu yn fwy diweddar.

Roedd Marged Esli yn chwarae rhan Nansi Furlong ar gyfres Pobol y Cwm
Yn ogystal ag actio, roedd Marged Esli yn awdures a weithiodd ar gyfres Pengelli ar S4C ac wedi cyhoeddi hunangofiant yn ddiweddar.
Ynddo fe gyfeiriodd at y ffaith ei bod yn poeni am ddyfodol sianel S4C, gan ddweud bod angen sicrhau "parch dyledus i'n hiaith".
Yn athrawes gymwysiedig, roedd hi hefyd yn gweithio fel athrawes lanw dros y blynyddoedd.
Y tu hwnt i actio'n broffesiynol, bu hefyd yn gwirfoddoli gyda Theatr Fach Llangefni, yn actio ac yn rhan o bwyllgor y theatr ym Môn dros y blynyddoedd, ac roedd hi hefyd yn aelod o Orsedd Beirdd Môn.

Marged Esli yn cyflwyno rhaglen blant 'Strim Stram Strellach'
Roedd Marged Esli wedi troedio ar nifer o lwyfannau pan oedd hi'n iau, yn llefaru mewn amryw o eisteddfodau lleol ac mewn sawl cylchwyl ar yr ynys.
Aeth ymlaen i berfformio wedyn gan astudio yn yr adran ddrama yn y brifysgol ym Mangor.
Yn 2019, soniodd am yr adeg pan awgrymodd y bardd enwog Cynan, oedd yn ffrind i'w theulu, iddi fynd i astudio ym Mangor, a'i fod wedi canmol yr adran ddrama yn y ddinas.
Derbyniodd Marged Esli ysgoloriaeth berfformio gyda Chwmni Theatr Cymru ar ôl graddio, gan ddisgrifio'r cyfle yn "brofiad eithriadol".
Ymddangosodd mewn ffilmiau fel Teisennau Mair - a enillodd wobr am y ffilm orau yn Yr Ŵyl Geltaidd.
Bu'n byw ac actio yn Llundain a Chaerdydd yn ystod ei gyrfa, ond fe ddychwelodd i fyw llawn amser ym Môn yn y blynyddoedd diwethaf.
'Ffrind y medrwn i ddibynnu arni'
Un a fu'n cydweithio â Marged Esli ar sawl achlysur oedd yr actor John Pierce Jones.
Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd ei bod yn "gymeriad doniol" ac yn "ffrind y medrwn i ddibynnu arni".
"Oedd hi'n gymeriad agos atat os oedd hi'n licio chi, ond doedd hi ddim yn cymysgu geiriau chwaith, oeddech chi'n medru dibynnu ar Marged i ddweud y gwir wrtha' chi, bob amser".
Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd ei bod yn "golled fawr i mi a deud y gwir.
"Oedd hi ar fy list cyntaf i gael paned a sgonsan pan oedden ni'n mynd fyny i Fôn."
Gyda'r ddau wedi bod mewn amryw o gynyrchiadau efo'i gilydd, gan gynnwys y ffilm Madam Wen, dywedodd iddo gychwyn ei yrfa gyda Marged Esli "a byth ers hynny mi garion ni 'mlaen i weithio efo'n gilydd yn achlysurol yn bob man wedyn".
'Andros o golled ar ei hôl hi'
Wrth roi teyrnged, dywedodd Marlyn Samuel y bydd yn cofio Marged Esli am ei "hwyl a'r chwerthin".
"Ro'n i wrth fy modd yn ei chlywed hi'n adrodd, yn deud straeon am ei chyfnod yn actio hefo'r mawrion.
"Oedd hi'n ffrind triw iawn a bydd 'na andros o golled ar ei hôl hi.
"Ma' pobl yn deud 'oedd hi'n un mewn mil', ond oedd Marged yn sbesial a dwi'n meddwl oedd hi'n un mewn miliwn a deud y gwir 'de".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Medi 2023
- Adran y stori