Cyngor i ffermwyr atal cysylltiad agos rhwng ymwelwyr ag anifeiliaid

Person yn bwydo oenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aeth dros 200 o bobl yn sâl ar ôl ymweld â sesiwn bwydo anifeiliaid yng Nghymru yng Ngwanwyn 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae ffermwyr yn cael eu cynghori i atal ymwelwyr rhag dod i gysylltiad agos ag anifeiliaid yn dilyn cyfres o achosion o gryptosporidiwm.

Yn dilyn cyfres o achosion o'r haint, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn galw ar ffermydd i osgoi cynnig cyswllt agos ag anifeiliaid, fel sesiynau bwydo neu fwytho.

Mae cryptosporidiwm yn baraseit sy'n gallu achosi salwch gastroberfeddol, ac mae'n aml yn gysylltiedig ag anifeiliaid - yn enwedig anifeiliaid fferm ifanc.

Dywedodd Dr Christopher Williams, Epidemiolegydd Ymgynghorol ICC fod "risg sylweddol" y gallai plant a phobl ifanc ddal yr haint mewn digwyddiadau o'r fath, ac y gallai hynny "achosi salwch difrifol".

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd sy'n nodi fod pobl sy'n dod i gysylltiad agos ag anifeiliaid yn "llawer mwy tebygol o fynd yn sâl â chryptosporidiwm na'r rhai na wnaethant gyffwrdd â'r anifeiliaid".

Cafodd yr adroddiad ei lunio yn dilyn cynnydd yn nifer yr achosion o'r haint yng Ngwanwyn y llynedd.

Fe edrychodd y corff ar achosion yn gysylltiedig â digwyddiad oedd yn cael ei gynnig ar fferm benodol - oedd yn annog ymwelwyr i ddal a chofleidio ŵyn yn ystod sesiwn bwydo.

Aeth cyfanswm o dros 200 o bobl yn sâl, gyda 18 ohonynt yn mynd i'r ysbyty.

Roedd plant dan ddeg oed bedair gwaith yn fwy tebygol o fynd yn sâl.

Dr Christopher Williams, Epidemiolegydd Ymgynghorol Iechyd Cyhoeddus CymruFfynhonnell y llun, Ymchwiliad Covid-19 y DU
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyflwyno trefniadau diogelwch effeithiol yn "wirioneddol bwysig," meddai Dr Christopher Williams

Mae argymhellion eraill yr adroddiad, sy'n cael ei gyhoeddi ar faes y Sioe Frenhinol ddydd Iau, yn cynnwys darparu cyfleusterau golchi dwylo gwell a sicrhau fod arwyddion amlwg yn cynghori pobl i olchi eu dwylo'n rheolaidd.

Maen nhw hefyd yn awgrymu y dylai ymwelwyr sicrhau bod dillad yn cael eu golchi cyn gynted â phosibl ar ôl iddynt ymweld â'r safle.

Yn gynharach eleni fe gafodd dros 80 o bobl eu taro'n wael gan yr haint ar ôl mynd i sesiynau bwydo a rhoi mwythau i anifeiliaid ar fferm yn y de.

Nid oedd adroddiad ICC yn edrych ar yr achosion hyn ar Siop Fferm y Bont-faen ym Mro Morgannwg.

'Cryptosporidiwm yn lledaenu'n hawdd'

Dywedodd Dr Christopher Williams, Epidemiolegydd Ymgynghorol ICC ac un o awduron yr adroddiad: "Rydyn ni'n gwybod bod ffermwyr eisiau cynnal digwyddiadau diogel a phleserus i'r cyhoedd yn gyffredinol a bod digwyddiadau bwydo ŵyn yn fwyfwy poblogaidd, yn enwedig gyda theuluoedd.

"Fodd bynnag, mae cryptosporidiwm a chlefydau heintus eraill yn lledaenu'n hawdd iawn yn yr amgylcheddau hyn a gallant gael canlyniadau difrifol – yn enwedig ymhlith plant ifanc sydd fwyaf tebygol o fynd yn sâl."

Ychwanegodd ei bod yn "wirioneddol bwysig" bod trefniadau diogelwch effeithiol mewn grym yn y digwyddiadau hyn, gan fod yr haint yn "gyffredin iawn ymysg anifeiliaid ifanc".

"Mae'r adroddiad hwn yn argymell bod bwydo ŵyn neu loi yn cael ei oruchwylio a'i wneud gyda'r anifeiliaid wedi'u gwahanu oddi wrth yr ymwelwyr gan eu corlannau.

"Mae hyn yn golygu y gall pobl barhau i fwydo'r anifeiliaid â photel ond y gallant gael mwy o amddiffyniad rhag salwch."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.