Gŵr athrawes gafodd ei thrywanu yn cyhuddo'r llywodraeth o 'wneud dim'

John Hopkin, 54, sydd hefyd yn athro yn Ysgol Dyffryn Aman, gyda'i wraig Liz tu allan i Llys y Goron Abertawe fis Chwefror
Disgrifiad o’r llun,

Liz a John Hopkin tu allan i Lys y Goron Abertawe ar ôl yr euogfarn fis Chwefror

  • Cyhoeddwyd

Mae gŵr un o'r athrawon a gafodd eu trywanu mewn ysgol yn Sir Gâr wedi cyhuddo'r awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru o "wneud dim" wedi'r digwyddiad.

Fe wnaeth John Hopkin, 54, sydd hefyd yn athro yn Ysgol Dyffryn Aman, ddod o hyd i'w wraig, Liz, mewn "pwll o waed" ar dir yr ysgol ar fore 24 Ebrill 2024.

Roedd hi - yn ogystal ag athrawes arall, Fiona Elias, a disgybl - newydd gael ei thrywanu gan ferch 13 oed.

Cafwyd y disgybl - nad oes modd ei henwi - yn euog o dri achos o geisio llofruddio yn Llys y Goron Abertawe fis Chwefror a chafodd dedfryd o 15 mlynedd.

Mae un undeb athrawon wedi dweud iddi fod yn "flwyddyn o frwydro" i drafod diogelwch staff mewn ysgolion ar draws Cymru ers y trywanu.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n trafod canfyddiadau adroddiad ar drais a diogelwch mewn ysgolion mewn uwchgynhadledd ymddygiad fis yma.

Ychwanegodd Cyngor Sir Gâr eu bod yn "parhau i gefnogi mewn ffyrdd unigol a phwrpasol", ac yn rhoi "cefnogaeth fwy cyffredinol ar draws y gymuned ysgol gyfan".

'Meddwl bod hi'n mynd i farw'

Mae John Hopkin yn dweud nad yw'n gallu cysgu'n dda ers y digwyddiad.

"O'n i'n mynd drwy'r drws, a gweld Liz yn eistedd ar y grisiau, gyda phwll o waed o gwmpas hi," meddai.

"Dyma Liz yn troi rownd a dweud 'I'm really sorry', a hwnna yw'r pwynt pan dwi'n sylweddoli bod Liz yn meddwl bod hi'n mynd i farw."

Cafodd disgyblion eu cadw'n ddiogel dan glo mewn ystafelloedd dosbarth am oriau, ac fe gafodd Liz ei chludo mewn ambiwlans awyr i'r ysbyty.

"Ma' Liz yn strugglo gyda mental health," dywedodd John, gan ychwanegu nad yw wedi dychwelyd i'r ysgol.

"Dwi'n cael sleepless nights – allan o bump noson mae tua tair noson gyda dim cysgu."

John Hopkin
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd John Hopkin fod y llywodraeth yn "aros i bobl anghofio beth sydd wedi digwydd yn yr ysgol"

Tra bod yr ysgol wedi bod yn gefnogol, dywedodd ei fod yn teimlo'n "rhwystredig" â'r ymateb gan awdurdodau.

"Yn meddwl Liz a fi, does dim byd wedi newid o gwbl. Mae Cyngor Sir Gâr a'r Llywodraeth wedi gwneud dim byd o gwbl," dywedodd.

"Mae'n dweud maen nhw'n aros am y trial i orffen, aros am y verdict, aros am y sentencing, ond jyst cico'r can lawr y ffordd bob amser."

Fe wnaeth yr achos cyntaf yn Llys y Goron Abertawe ddechrau ym Medi 2024, ond bu'n rhaid dymchwel yr achos yn sgil "anghysondeb o fewn y rheithgor".

Cafodd ail achos ei gynnal ddiwedd Ionawr.

Disgrifiad,

Cafodd y fideo CCTV yma o'r digwyddiad ei ddangos i'r llys

Ychwanegodd John: "Dim urgency, jyst dim gofal. Mae'n frustrating iawn, achos mae 'na bethau y gallai'r Llywodraeth wneud, ond maen nhw jyst yn aros i bobl anghofio beth sydd wedi digwydd yn yr ysgol."

Fe glywodd y llys bod y ferch, oedd yn 13 oed adeg y trywanu, wedi dod â chyllell i'r ysgol bob dydd ers yr ysgol gynradd, a'i bod wedi symud o ysgol uwchradd arall i Ysgol Dyffryn Aman.

Clywodd y llys fod cyllell wedi ei chanfod yn ei bag fisoedd cyn y digwyddiad.

"Mae'n rhaid bod fflagiau coch wedi codi," dywedodd John.

"'Dwi a Liz eisiau gwybod, a oedd pethau yn y gorffennol, efallai, [allai fod] wedi stopio'r digwyddiad."

'Cymryd blwyddyn i ddod rownd y bwrdd'

Mae Fiona Elias a Liz Hopkin wedi galw am weithredu ers i'r achos llys ddod i ben fis Chwefror.

Yn ystod y flwyddyn, fe ddaeth galwadau am adolygiad o ddiogelwch mewn ysgolion gan wleidyddion hefyd.

Er bod digwyddiadau eithafol o'r fath yn brin, dywedodd UCAC fod "sawl aelod" ar draws Cymru wedi cysylltu â'r undeb ynghylch "pryder bod yna beryg i'w bywyd nhw".

"Dwi 'di nodi sawl gwaith bo' fi'n siomedig bod y Llywodraeth wedi bod yn araf ar hyn," dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb, Ioan Rhys Jones.

"Ma'i 'di cymryd blwyddyn i ni ddod rownd y bwrdd. Dwi'n meddwl bod yr ysgrifennydd cabinet bellach wedi cael y neges bod 'na bryder yn y gymdeithas."

Ychwanegodd fod angen gweld "gweithredu effeithiol" gan Lywodraeth Cymru.

"Ma' rhaid i'r Llywodraeth sicrhau bod 'na gysondeb o ran disgwyliadau – o ran y ffordd mae awdurdodau yn ymateb i ddiarddel plant… ymyrraeth gynnar i sicrhau nad ydy disgyblion yn cyrraedd sefyllfa lle maen nhw'n beryg i bobl eraill… a'r niferoedd a'r lleoedd sydd i gael mewn canolfannau addysg amgen," ychwanegodd.

Fiona Elias a Liz Hopkin
Disgrifiad o’r llun,

Y ddwy athrawes a gafodd eu trywanu - Fiona Elias a Liz Hopkin - y tu allan i'r llys wedi'r dyfarniad

Mae BBC Cymru wedi gofyn am gyfweliad gydag ysgrifennydd cabinet Llywodraeth Cymru dros addysg, Lynne Neagle, ond fe gafodd y cais ei wrthod.

Mewn datganiad, dywedodd Ms Neagle: "Mae fy meddyliau gyda dioddefwyr yr ymosodiad ofnadwy hwn a'u teuluoedd.

"Mae sicrhau bod dysgwyr a staff yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu cefnogi yn ein lleoliadau addysgol yn hanfodol ac rydym yn cymryd camau i fynd i'r afael ag ymddygiad sy'n dirywio mewn ysgolion a cholegau.

"Mae adroddiad diweddar Estyn yn tynnu sylw at y problemau sy'n codi yn ein hysgolion uwchradd a byddwn yn bwrw ymlaen â'r argymhellion yn yr adroddiad ac yn eu trafod, ynghyd â chanfyddiadau'r drafodaeth am drais a diogelwch mewn ysgolion yn ein huwchgynhadledd ymddygiad y mis hwn."

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg a'r Gymraeg: "Wedi i'r treial ddod i ben, mae'r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol wedi comisiynu adolygiad amlasiantaeth, dan arweiniad annibynnol (sydd bellach ar y gweill) i sicrhau bod unrhyw arfer da yn cael ei amlygu a'i rannu a bod unrhyw wersi a ddysgwyd yn cael eu nodi i wella arferion a systemau yn y dyfodol.

"Fel yr Awdurdod Lleol, rydym wedi cefnogi dioddefwyr y digwyddiad, yn ogystal â'r gymuned ysgol ehangach, ac mae hyn wedi cael ei groesawu gan nifer.

"Rydym yn parhau i gefnogi mewn ffyrdd unigol a phwrpasol, yn ogystal â rhoi cefnogaeth fwy cyffredinol ar draws y gymuned ysgol gyfan, gan wneud defnydd effeithiol o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru."