Gethin Evans: Dwi'n stopio anadlu 17 gwaith yr awr

Mae Gethin Evans yn ddigrifwr stand-yp a chyflwynydd ar BBC Radio Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r digrifwr a'r cyflwynydd Gethin Evans wedi sôn sut mae cyflwr meddygol yn gwneud iddo stopio anadlu droeon pan mae'n cysgu.
Fe gafodd driniaeth am apnoea cwsg ac mae o bellach yn cysgu bob nos gyda masg ocsigen.
Pan gafodd asesiad meddygol fe ddangosodd y profion ei fod yn stopio anadlu bron i 20 gwaith bob awr.
"Dwi'n stopio anadlu pan dwi'n cysgu," meddai ar raglen BBC Radio Cymru Beti a'i Phobol.
"Dwi'm yn gwybod hynny [ar y pryd] ond pan dwi'n deffro yn y bore fasa Elin fy nghariad yn dweud 'ti'n stopio anadlu yn ystod y nos'.
"Mae gen i ap sy'n deud wrtha i faint o weithia dwi wedi stopio anadlu yn nos. Cyn hynny o'n i wedi gwneud rhyw arbrofion efo'r ysbyty a ro'n i'n stopio anadlu 17 gwaith mewn awr.
"Ond nath nhw ddeud wrtha fi mai mild ydi hynny! Mae 'na bobl sy'n stopio anadlu unwaith bob munud pan maen nhw'n cysgu."

Mae Gethin Evans, pedwerydd o'r chwith, yn chwarae drymiau i Fand Pres Llareggub
Y math mwyaf cyffredin o'r cyflwr ydy apnoea cwsg rhwystrol, sy'n cael ei achosi gan gyhyrau'r gwddf yn ymlacio ac yn rhwystro'r llwybr anadlu.
Mae hyn yn gallu arwain at chwyrnu uchel, stopio anadlu am gyfnod a bod yn gysglyd yn ystod y dydd.
Mae hefyd yn gallu arwain at broblemau iechyd mwy difrifol fel diabetes, pwysau gwaed uchel ac afiechyd y galon.
"Dwi'n meddwl bod 'na gysylltiad rhwng sleep apnoea a strôcs a ballu os na bod o'n gallu cael ei drin," meddai'r cyflwynydd.
"Be' dwi'n neud rŵan ydi gen i ryw fasg sy'n pwmpio aer i mewn i ngheg i a ma'n stopio fi chwyrnu a ma'n stopio fi rhag peidio anadlu.
"Felly mae gen i fasg ar fy ngwyneb ac mae hwnna yn cysylltu fi i beiriant. Wnaeth hwnna gymryd sbel i arfer efo fo ond dwi'm yn meddwl faswn i'n gallu cysgu hebdda fo erbyn hyn."
O'r Genod Droog i'r GIG
Yn y rhaglen mae'r digrifwr stand-yp a chyflwynydd Rhaglen Geth a Ger ar BBC Radio Cymru hefyd yn sôn am ei waith gyda'r Gwasanaeth Iechyd.
Mae'n rhan o brosiect £17m, wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, i ddigideiddio manylion cleifion o fewn gwasanaethau iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Y bwriad ydy symud i ffwrdd o gael cofnodion ar bapur er mwyn i'r holl wasanaethau ar draws adrannau allu eu gweld nhw, gwella'r gofal i'r claf a hwyluso gwaith y staff meddygol.
Mae o hefyd yn trafod ei gerddoriaeth a'i waith drymio i Fand Pres Llareggub a'i fandiau blaenorol, gan gynnwys y grŵp hip-hop Genod Droog.
Gallwch wrando ar Beti a'i Phobol am 18:00 dydd Sul, 29 Mehefin neu ar BBC Sounds.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2024