'Pennaeth y Flwyddyn' wedi ymddeol dros doriadau parhaus i addysg

Ian Keith Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ian Keith Jones wedi cyfrannu yn gyson i raglen natur Galwad Cynnar ar BBC Radio Cymru - gan ddod ac ambell i greadur i'r stiwdio gydag o

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-enillydd Pennaeth y Flwyddyn yn dweud ei fod wedi ymddeol ar ôl cael llond bol o'r holl doriadau blynyddol oedd yn effeithio ar addysg y plant.

Ar ôl 30 mlynedd yn y swydd roedd ei waith yn golygu "rhoi tannau i ffwrdd" a delio gyda phroblemau cyllid, meddai Ian Keith Jones.

Dywedodd na allai "feddwl am broffesiwn gwell" nag addysg, ond bod ei fod wedi cael "llond bol" gyda "gorfod 'neud toriadau sydd ddim yn rhai hawdd eu gwneud".

Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw'n ceisio gwella ysgolion yn barhaus ac wedi rhoi arian ychwanegol i'r sector addysg.

Dywedodd Cyngor Sir Conwy bod problemau cyllidol yn effeithio ysgolion ar draws Cymru.

'Ro'n i 'di cael llond bol'

Dros gyfnod o dri degawd roedd Ian Keith Jones wedi denu sylw ar draws Prydain am ei waith blaengar fel pennaeth Ysgol San Siôr yn Llandudno.

Gyda'r pwyslais ar wella rhifedd a llythrennedd drwy ddysgu am natur a'r amgylchedd fe ddechreuodd yr ysgol werthu wyau i siopau.

Diolch i'w 150 o ieir, fe werthon nhw 125,000 o wyau a defnyddio'r elw i brynu 14 cwch gwenyn, cyn dechrau gwerthu'r mêl.

Roedd y plant hefyd yn cael cyfrifoldeb o edrych ar ôl anifeiliaid yr ysgol, gan gynnwys cameleon, crwban a brogaod.

Fe wnaeth niferoedd y disgyblion ddyblu yn ystod gyrfa Mr Jones ac fe enillodd deitl Pennaeth y Flwyddyn gan bapurau'r Daily Express a'r Daily Post, gwobr David Bellamy am gadwraeth, ac ymweliad i weld eu gwaith amgylcheddol gan y Tywysog Charles fel yr oedd ar y pryd.

Ond llynedd fe benderfynodd ymddeol yn gynnar gan fod y swydd wedi newid cymaint.

Tywysog Charles ac Ian Keith JonesFfynhonnell y llun, Eleri Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ysgol San Siôr yn cyfnewid dau bot o'u mêl gyda'r Tywysog Charles am flynyddoedd

Mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru dywedodd: "Erbyn y diwedd roedd o'n fwy o roi tannau i ffwrdd, trio sortio'r cyllidebau yma, trio cadw safonau mor uchel ag sydd bosib efo llai a llai o bres er mwyn prynu adnoddau, talu staff ac ati.

"So erbyn y diwedd ro'n i 'di cael llond bol. Mae'n biti deud gwir... mae'n broffesiwn anhygoel - alla i ddim meddwl am broffesiwn gwell. Dwn i'm be' 'di'r ateb deud gwir."

Yn ystod ei gyfnod yn rhedeg yr ysgol eglwysig fe ddyblodd niferoedd y disgyblion o 120 i 249.

Roedd dros 50 o blant eisiau dod i'r ysgol bob blwyddyn ond doedd dim ond lle i 30.

Roedd Ian Keith Jones yn bennaeth yn yr un ysgol am 30 mlyneddFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ian Keith Jones yn bennaeth yn yr un ysgol am 30 mlynedd

Dywedodd Mr Jones, sy'n 58, ei fod wedi mwynhau ei yrfa ond bod y swydd wedi newid gan fod cyllidebau yn isel ymhob ardal, a'r angen i wneud toriadau yn barhaus.

Meddai: "Be' ro'n i'n gorfod neud just cyn mis Mawrth, mis Ebrill oedd ffeindio sut o'n i'n mynd i ffeindio rhyw £30,000 - nid un flwyddyn ond blwyddyn ar ôl blwyddyn.

"Ar y diwedd 'da chi'n gorfod 'neud toriadau sydd ddim yn rhai hawdd eu gwneud.

"Ar ddiwedd y dydd mae addysg y plant am ddiodde' ond mae geno ni athrawon anhygoel.

"Llafur cariad ydi o i lawer o athrawon, yn rhoi eu hamser i wneud o weithio er bod ni ddim efo'r adnoddau."

£262.5m yn ychwanegol i'r sector addysg

Mewn ymateb i'w sylwadau fe ddywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn canolbwyntio yn barhaus ar wella ysgolion.

Ychwanegodd llefarydd: "Er mwyn diwallu anghenion ysgolion a dysgwyr, rydyn ni wedi darparu £262.5m ychwanegol ar gyfer y sector addysg.

"Mae hyn ar ben y cynnydd yn y cyllid i awdurdodau lleol i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion. Fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda'r sector i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'n dysgwyr."

Dywedodd Cyngor Sir Conwy nad oedd y cyllid oedd yn dod gan Lywodraeth Cymru yn ddigonol a'u bod yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd. Er eu bod yn ceisio lleihau unrhyw effaith ar fyfyrwyr, gall cyfyngiadau ariannol arwain at leihau neu ddileu rhai gwasanaethau.

Ychwanegodd y llefarydd: "Mae'n bwysig cydnabod nad yw'r cyfyngiadau ariannol hyn yn unigryw i'r ysgol hon, a bod hwn yn fater eang sy'n effeithio ar nifer o ysgolion ar draws Cymru.

"Rydym yn parhau i eirioli dros fwy o gyllid a chefnogaeth gan y llywodraeth er mwyn sicrhau bod modd i ni ddarparu'r addysg orau bosibl i'n dysgwyr.

"Yn y cyfamser, rydym yn ymrwymedig i wneud y mwyaf o'r adnoddau sydd gennym, ac mae ein gweithlu addysg yn parhau i weithio'n ddiwyd i ganfod ffyrdd arloesol i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc."

  • Gallwch wrando ar Beti a'i Phobol am 18:00 dydd Sul, 25 Mai neu ar BBC Sounds.

Pynciau cysylltiedig