Sefydlu caffi ar ôl ymddeol i annog pobl i siarad Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Dysgu'r Gymraeg wrth fwynhau paned a sgwrs yw bwriad menyw o Sir Fynwy sydd wedi sefydlu caffi pop-up dwyieithog.
Mae Rhiannon Davies yn dweud bod y caffi yn y Fenni yn denu siaradwyr rhugl, dysgwyr a rheiny sydd â diddordeb yn yr iaith.
Ms Davies sy'n coginio'r bwyd i gyd, ac mae'n dweud iddi gael y syniad ar ôl ymddeol.
"Rwy wrth fy modd yn pobi a choginio ac roeddwn i yn meddwl beth i 'neud â fy amser felly nes i feddwl am gaffi pop-up lle ma' cyfle i Gymry Cymraeg a dysgwyr gymdeithasu yn yr iaith," meddai.
Mae'r caffi yn cael ei gynnal unwaith y mis a'r bwriad yw annog mwy o bobl i siarad a dysgu'r iaith, ond hefyd codi arian at achosion da lleol.
Roedd neuadd Eglwys Priordy'r Santes Fair yng nghanol y Fenni dan ei sang ar gyfer caffi olaf y flwyddyn i ddathlu'r Nadolig.
Yn gweini a pharatoi'r coffi i'r cwsmeriaid roedd tair merch leol - Chris, Seren a Daisy - sy'n ddisgyblion yn Ysgol Gwynllyw ac yn gwirfoddoli yn y caffi.
Dywedodd Seren: "Mae'r tri ohonon ni wedi bod yn gweithio fan hyn ers misoedd ac yn mwynhau e'n fawr ac yn cwrdd â phobl Cymraeg, a ni'n credu bod e'n gyfle arbennig i bobl ddod yma a chael cyfle i siarad Cymraeg."
Mae Chris yn dweud, yn ogystal â chyfle i siarad Cymraeg, mae'r caffi hefyd yn rhoi "cyfleoedd gwaith er mwyn cynnig am swyddi yn y dyfodol".
Dywed Daisy bod poblogrwydd y caffi yn tyfu "ac mae cacennau Rhiannon yn boblogaidd iawn, yn enwedig y bara brith!"
Fe ddaeth Izzy Hill, sy'n byw yn lleol, â'i thelyn i'r caffi pop-up Dolig.
Mae hi'n fyfyrwraig ail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd.
"Ma'n neis i hyrwyddo'r Gymraeg yma hefyd a sgwrsio â phobl a chael amser da."
Eisteddfod wedi 'newid agweddau'
Agorodd Ysgol Gymraeg y Fenni yn 1994 ac erbyn hyn mae 280 o ddisgyblion yno gyda'r nifer yn cynyddu bob blwyddyn.
Daeth côr yr ysgol draw i ganu yn y caffi, a dywedodd yr arweinydd Rhodri Harries fod y caffi yn allweddol bwysig.
"Rwy'n meddwl bod yr Eisteddfod [Genedlaethol] yn y Fenni [yn 2016] wedi newid agweddau lot fawr o bobl yn yr ardal hon," meddai.
"Mae'r Fenni yn lle eitha' Cymreigaidd, chi'n synnu.
"Fe allwch chi glywed Cymraeg weithiau ar y stryd. Mae'r ysgol yn bwysig yma ac yn awyddus i 'neud pethau yn y gymuned, ac mae hynny hefyd yn bwysig iawn i'r plant sydd yma heddi'."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Awst
- Cyhoeddwyd18 Medi 2023
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2020