Cyn-weinidog yn beirniadu tro pedol cynllun ffermio dadleuol
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-weinidog wnaeth arwain datblygiad system gymorthdaliadau amaeth newydd Cymru ar ôl Brexit wedi beirniadu newidiadau i'r cynlluniau.
Dywedodd Lesley Griffiths, dreuliodd wyth mlynedd fel ysgrifennydd amaeth, ei bod hi'n "bryderus" bod y rheol fyddai'n sicrhau bod gan fferm o leiaf 10% o orchudd coed wedi'i ddileu.
"Mae angen i ni blannu llawer mwy o goed drwy Gymru a mae ffermwyr yn y sefyllfa gorau i'n helpu ni wneud hynny," meddai.
Dywedodd y dirprwy brif weinidog, Huw Irranca-Davies, olynydd Ms Griffiths yn y briff materion gwledig, nad oedd y llywodraeth yn "cerdded i ffwrdd" o'i huchelgais i blannu mwy o goed, ond bod angen gwneud hynny mewn ffordd sy'n ennyn cefnogaeth pobl.
- Cyhoeddwyd28 Chwefror
- Cyhoeddwyd15 awr yn ôl
Yn lle mynnu bod bob fferm yn sicrhau bod coed ar 10% o'u tir, y bwriad bellach yw bod targed ar gyfer y cynllun cyfan - er nid yw'r ffigwr hwnnw heb gael ei benderfynu eto.
Bydd rhaid i ffermydd unigol gyflwyno cynllun plannu coed a chreu perthi, gan ddangos eu bod yn dechrau gweithredu erbyn 2030.
Wrth ymateb i ddatganiad Mr Irranca-Davies yn y Senedd yn amlinellu'r newidiadau, cwestiynu'r penderfyniad wnaeth Ms Griffiths.
Roedd y rheol 10% wedi'i ddewis yn wreiddiol fel modd o helpu'r llywodraeth gyrraedd targedau newid hinsawdd uchelgeisiol, meddai.
"Byddai'r cynnig gwreiddiol wedi bod yn haws ei fonitro, yn haws i wobrwyo ffermydd unigol am wasanaethau maen nhw'n eu cynnig ar ran y trethdalwr, ac yn haws hefyd i ddal taliadau yn ôl os nad yw'r hyn a gytunwyd arno'n cael ei weithredu," meddai.
Fe ofynnodd a oedd y llywodraeth wedi gofyn am gyngor gwyddonol o ran effaith "y newid sylfaenol yma" ar eu gallu i gyrraedd targedau plannu coed a lleihau carbon erbyn 2030.
'Ddim yn cerdded i ffwrdd'
Fe ddiolchodd Mr Irranca-Davies i'w ragflaenydd "am y gwaith y gwnaethoch chi wrth gyrraedd y pwynt lle'r oedd gennym ni gynnig clir i ymgynghori arno".
Roedd y cynigion blaenorol yn rhan o'r rheswm y gwelwyd protestiadau gan ffermwyr ar ddechrau'r flwyddyn, gan gynnwys y mwyaf erioed o flaen y Senedd ym mis Chwefror.
Ychwanegodd Mr Irranca-Davies bod dros 12,000 o bobl wedi ymateb i'r ymgynghoriad.
"Ar y cynigion plannu coed roedd yna adborth diddorol gan rai o'r cyrff amgylcheddol a natur o ran ffyrdd amgen y gallen ni fwrw ati â hyn mewn modd oedd yn ennyn cefnogaeth pobl," meddai.
"Does 'na ddim amheuaeth o gwbl mai plannu coed a chreu coetiroedd yw'r ffordd gliriaf a mwyaf amlwg o amsugno a storio carbon," ychwanegodd.
"Dy'n ni ddim yn cerdded i ffwrdd o gwbl o'r uchelgais yna gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd (sy'n cynghori'r llywodraeth) am 43,000 hectar o goedir newydd erbyn 2030."
Byddai ffermwyr nid yn unig yn gorfod creu mapiau yn dangos lle allan nhw fod yn plannu mwy, ond yn gorfod "dangos eu bod yn gweithredu bob blwyddyn", meddai.
"Bydd na lefel dewisol hefyd, lle allwn ni fynd yn bellach gyda'r plannu coed a byddwn ni'n sicrhau bod 'na gyllid pwrpasol ar gyfer hynny."