Gwahardd cyn-athrawes rhag dysgu wedi iddi regi ac yfed alcohol mewn gwers

Bydd enw Alice Ashton yn cael ei dynnu oddi ar gofrestr CGA am gyfnod amhenodolFfynhonnell y llun, Llun cyfryngau cymdeithasol
Disgrifiad o’r llun,

Bydd enw Alice Ashton yn cael ei dynnu oddi ar gofrestr CGA am gyfnod amhenodol

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-athrawes ysgol ym Mhowys wedi cael ei gwahardd rhag gweithio fel athro yng Nghymru ar ôl i bwyllgor Cyngor y Gweithlu Addysg [CGA] ganfod ei bod wedi yfed alcohol yn ystod gwers ac wedi rhegi ar ddisgyblion.

Cynhaliwyd gwrandawiad addasrwydd i ymarfer i honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol yn erbyn Alice Ashton, cyn-athrawes yn Ysgol Bro Caereinion ger y Trallwng.

Honnwyd bod Ms Ashton wedi bod o dan ddylanwad alcohol yn y gwaith ac wedi ymddwyn yn amhriodol - gan gynnwys honiadau ei bod wedi rhegi ar ddisgyblion mewn gwers ym mis Ionawr 2024.

Fe wnaeth y pwyllgor ganfod fod yr honiadau hyn wedi'u profi.

'Dim edifeirwch nac ymddiheuriad'

Wrth gyhoeddi penderfyniad CGA, dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Steve Powell, fod ymddygiad Ms Ashton mor ddifrifol fel bod angen gorchymyn gwahardd i amddiffyn dysgwyr a chynnal safonau proffesiynol.

Dywedodd y byddai enw Alice Ashton yn cael ei dynnu oddi ar gofrestr CGA am gyfnod amhenodol ac na fydd hi'n gallu gweithio fel athrawes yng Nghymru.

Ychwanegodd y gallai ailymgeisio ar ôl cyfnod o 2 flynedd, ond byddai'n rhaid iddi fodloni pwyllgor yn y dyfodol ei bod yn gymwys i gael ei chofrestru – nid oedd er budd y cyhoedd i'w henw gael ei gofrestru eto yn awtomatig, meddai.

Dywedodd Mr Powell nad oedd Ms Ashton wedi ymgysylltu â'r gwrandawiad o gwbl ac "nad oes unrhyw edifeirwch nac ymddiheuriad wedi'u mynegi."

Gall Alice Ashton apelio yn erbyn y penderfyniad i'r uchel lys.

campws uwchraddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Alice Ashton yn arfer bod yn athrawes yn Ysgol Bro Caereinion ger y Trallwng

Cyngor y Gweithlu Addysg yw'r rheoleiddiwr annibynnol, proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru.

Clywodd y bwyllgor dystiolaeth gan nifer o ddisgyblion, dirprwy bennaeth yr ysgol a swyddog a oedd wedi ymchwilio i'r honiadau cyn penderfynu bod yr hyn yr oedd Ms Ashton wedi'i wneud gyfystyr ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol.

Clywodd y panel o dri aelod hefyd fod Alice Ashton wedi'i heuogfarnu o yrru dan ddylanwad alcohol ym mis Medi 2023 yn Llys Ynadon Telford, am fod dros y terfyn cyfreithiol ar Awst 19.

Cafodd ei dedfrydu i orchymyn cymunedol 12 mis, 200 awr o waith di-dâl, a'i gwahardd rhag cael trwydded yrru am 28 mis.

Llys Ynadon TelfordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Alice Ashton ei dyfarnu'n euog o yfed a gyrru ym mis Medi 2023 yn Llys Ynadon Telford

Doedd Alice Ashton ddim yn bresennol yng ngwrandawiad y Cyngor Gweithlu Addysg.

Ond dywedwyd wrth y panel am e-bost a anfonodd yn flaenorol lle dywedodd nad oedd hi'n athrawes mwyach ac nad oedd hi'n byw yng Nghymru chwaith.

Wrth gyflwyno dyfarniad y panel, dywedodd y cadeirydd Steve Powell fod rhiant i un o'r disgyblion wedi cwyno i'r ysgol am wers a ddysgwyd gan Ms Ashton ar Ionawr 17eg 2024.

Ar ôl derbyn y gŵyn, fe wnaeth arweinwyr yr ysgol edrych ar luniau CCTV o'r wers ac ar Chwefror 19eg comisiynodd yr ysgol ymchwiliad annibynnol dan arweiniad Lorna Simpson.

Ymddiswyddodd Miss Ashton ar yr un diwrnod.

Llun o'r ysgol
Disgrifiad o’r llun,

Honnwyd bod Ms Ashton wedi bod o dan ddylanwad alcohol yn y gwaith ac wedi ymddwyn yn amhriodol

Siaradodd yr ymchwilydd â nifer o ddisgyblion a honnodd fod Ms Ashton yn arogli o alcohol ac yn ymddangos fel pe bai o dan ddylanwad alcohol yn ystod y wers a'i bod wedi rhegi a defnyddio iaith amhriodol arall.

Ystyriodd y panel hefyd dystiolaeth aelod arall o staff yr ysgol a siaradodd gyda Alice Ashton am 4.30 ar Ionawr 17eg.

Dywedodd yr aelod staff nad oedd hi'n gallu deall beth oedd Ms Ashton yn ei ddweud, ei fod yn swnio "fel cymysgedd o eiriau" a bod Ms Ashton wedi baglu wrth iddi fynd i bwyso yn erbyn wal.

'Rhan fwyaf o'r honiadau wedi'u profi'

Fe wnaeth y panel ganfod fod y rhan fwyaf o'r honiadau yn erbyn Ms Ashton wedi cael eu profi:

  • Bod yr euogfarn o yrru dan ddylanwad alcohol yn drosedd berthnasol ac yn torri cod ymddygiad Cyngor y Gweithlu Addysg sy'n disgwyl i athrawon fod yn fodelau rôl "yn y gweithle a thu allan iddo".

  • Bod Ms Ashton dan ddylanwad alcohol yn ystod y wers ar 17 Ionawr. Rhoddodd disgybl dystiolaeth ei bod hi'n gallu arogli alcohol ar Ms Ashton ac er bod Ms Ashton wedi gwadu ei bod hi wedi ceisio dawnsio gyda disgyblion yn y wers, gwyliodd y panel y lluniau CCTV a oedd yn gwrth-ddweud y gwadiad hwnnw.

  • Hefyd, nododd y panel fod dau athro arall wedi blasu hylif lliw oren yr oedd Ms Ashton wedi bod yn ei yfed drwy gydol y wers a daeth i'r casgliad ei fod yn cynnwys alcohol.

Mewn ymateb i ymchwiliad yr ysgol, dywedodd Ms Ashton ei bod hi wedi bod yn cymryd meddyginiaeth ar bresgripsiwn a allai achosi iddi gynhyrfu – ond dywedodd y panel nad oedd unrhyw dystiolaeth feddygol / presgripsiwn wedi'i ddarparu iddyn nhw i gefnogi hyn.

Yn ei hymateb ysgrifenedig i ymchwiliad yr ysgol, gwadodd Ms Ashton iddi regi yn y wers.

Ond roedd y panel wedi credu nifer o ddisgyblion a ddywedodd ei bod hi wedi rhegi a defnyddio iaith amhriodol ar sawl achlysur gan gynnwys defnyddio 'f**k' a 's**t', gan alw disgyblion yn 'divvys' a 'little s***s'.

Hefyd, derbyniodd y panel fod Ms Ashton wedi dweud wrth fachgen a geisiodd adael yr ystafell ddosbarth "Os wyt ti'n mynd mas i ddweud clecs arna i, fe wna i gael rhain i gyd i siarad amdanat ti".

Canfu'r panel nad oedd dau honiad wedi'u profi, sef yr honiadau nad oedd Ms Ashton wedi caniatáu i ddisgyblion adael yr ystafell ddosbarth, a'i bod wedi codi ei bys canol a/neu wedi gwneud arwydd "V" at ddisgybl.

Mewn sylwadau a gyflwynwyd o blaid achos Ms Ashton, clywodd y panel nad oedd ganddi unrhyw record o fod wedi cael ei disgyblu yn y gorffennol, a hefyd roedd hi wedi cyfeirio ei hun at Gyngor y Gweithlu Addysg cyn cael ei heuogfarnu o yrru dan ddylanwad alcohol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig