Gwrthdroi penderfyniad i godi tai ger cyn-bencadlys Cyngor Môn

Y bwriad oedd codi'r unedau ger hen Neuadd y Sir yn Llangefni, ar lannau Afon Cefni
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr wedi gwrthdroi penderfyniad i ganiatáu tai newydd ger safle cyn-bencadlys Cyngor Môn a gafodd ei ddinistrio gan dân.
Ym mis Gorffennaf 2024 rhoddwyd sêl bendith i godi'r adeilad tri llawr a oedd yn cynnwys chwe fflat, ar lecyn y tu ôl i Neuadd y Sir yn Llangefni, ar lan Afon Cefni.
Ond cafodd caniatád terfynol ei ohirio oherwydd methiant i gytuno ar delerau Cytundeb 106 rhwng y datblygwr a'r cyngor, sef swm a roddir i gefnogi prosiectau cymunedol a lliniaru effaith tai newydd.
Dros flwyddyn yn ddiweddarach, yn sgil rhwystredigaeth am y diffyg cytundeb, fe wnaeth aelodau Pwyllgor Cynllunio Cyngor Môn bleidleisio ddydd Mercher i wrthod y cais a oedd wedi ei gyflwyno gan Mr Tristan Haynes.
Clywodd cyfarfod y pwyllgor cynllunio y byddai'r awdurdod wedi bod yn ceisio cael swm o tua £50,000 tuag at ddatblygu tai lleol gan nad oedd tai fforddiadwy yn ffurfio rhan o'r cynllun.
Tân mawr yn un o adeiladau hanesyddol Llangefni
Mae cyn-bencadlys y cyngor, adeilad rhestredig Gradd II, yn dyddio'n ôl i ddiwedd y 19eg ganrif, ond cafodd ddifrod sylweddol yn sgil tân ym mis Rhagfyr 2023.
Ym mis Mehefin cafodd pedwar o bobl ifanc eu cyhuddo o gynnau tân yn fwriadol.
Cadarnhaodd Heddlu'r Gogledd fod tri o'r bobl ifanc wedi'u cyfeirio at Banel Troseddwyr Ieuenctid, lle gafon nhw orchymyn i dalu costau.
Bydd y diffynnydd arall yn ymddangos nesaf yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Gwener, 12 Medi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd20 Mehefin