Cynghorwyr Gwynedd 'wedi'u camarwain' wrth newid rheolau ail gartrefi

AberdaronFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth Cyfarwyddyd Erthygl 4 i rym yng Ngwynedd ar 1 Medi 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Gwynedd wedi colli achos yn yr Uchel Lys dros fesurau a gafodd eu cyflwyno llynedd i'w gwneud hi'n anoddach i drosi tŷ yn ail gartref neu lety gwyliau.

Ym Medi 2024, Gwynedd oedd yr awdurdod cyntaf i wneud defnydd o'r rheoliadau sy'n cael eu hadnabod fel Cyfarwyddyd Erthygl 4, gyda'r bwriad o fynd i'r afael â'r hyn maen nhw wedi ei ddisgrifio fel "argyfwng tai" yn y sir.

Mae rheoliadau o'r fath yn cyflwyno tri dosbarth defnydd newydd - sef prif gartref, ail gartref a llety gwyliau tymor byr - ac yn golygu bod angen caniatâd cynllunio i drosi eiddo yn ail gartref.

Ond yn anhapus gyda'r mesurau - gan ddadlau byddan nhw'n dibrisio pob cartref yn y sir ac yn gwneud tai yn anoddach i'w gwerthu - fe wnaeth ymgyrchwyr lansio apêl yn erbyn cyflwyno Erthygl 4.

Fore Mercher, yn dilyn misoedd o drafod yn y llysoedd, daeth cadarnhad nad oedd cynghorwyr Gwynedd wedi derbyn y wybodaeth gywir cyn gwneud y penderfyniad.

Roedd y dogfennau a gyflwynwyd i gabinet y cyngor cyn pleidleisio dros eu cyflwyno, medd y barnwr, "wedi eu camarwain yn sylweddol" ar union natur y mesurau.

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod yn "hynod siomedig" gyda'r dyfarniad ac yn bwriadu apelio.

Bydd y mesurau Erthygl 4, meddan nhw, yn parhau i fod mewn grym yn ystod y cyfnod apelio.

Polisi wedi 'camarwain yn sylweddol'

Yn Hydref 2022 fe gafodd awdurdodau lleol ar draws Cymru ragor o rymoedd gan Lywodraeth Cymru i reoli niferoedd ail gartrefi.

Roedd Gwynedd - y cyngor cyntaf i fanteisio ar y grymoedd yma - wedi derbyn 3,902 ymateb i ymgynghoriad cyhoeddus, gan ddenu ymateb cymysg.

Mewn ardaloedd fel Aberdaron ym mhen draw Llŷn mae 30% o dai yn gartrefi gwyliau, ac fe bleidleisiodd y cyngor o blaid cyflwyno'r mesurau newydd ym mis Gorffennaf 2024.

Er fod perchnogion ail gartrefi yng Ngwynedd eisoes yn talu premiwm o 150% ar ben eu treth cyngor, fe ddisgrifiwyd Erthygl 4 fel "arf newydd i geisio rheoli effaith ail gartrefi a llety gwyliau".

Ond yn wrthwynebus i'r cynlluniau, penderfynodd y grŵp 'Pobl Gwynedd Yn Erbyn Erthygl 4' lansio her gyfreithiol yn erbyn y penderfyniad, gan honni byddai'r mesurau yn dibrisio pob cartref yn y sir ac yn gwneud tai yn anoddach i'w gwerthu.

Er iddyn nhw golli eu cais gwreiddiol am adolygiad barnwrol, ar apêl fe roddwyd caniatad iddyn nhw barhau ar y sail bod Cabinet Cyngor Gwynedd naill ai wedi eu camarwain neu wedi camddeall pan aethon nhw ati i newid rheolau cynllunio.

Yn sgil y gwrandawiad Uchel Lys yng Nghaerdydd, daeth cadarnhad fore Mercher bod eu ymgais i rwystro's mesur wedi llwyddo.

Arwydd 'Hawl i Gymunedau Barhau' yn ystod protest ynghylch y trafferthion rhai i brynu tai yn eu cymunedau eu hunain
Disgrifiad o’r llun,

Mae gallu prynu tŷ yn eu cymunedau eu hunain yn bwnc llosg i lawer o bobl ers blynyddoedd bellach

Yn ôl dyfarniad y barnwr, Mr Ustus Eyre, roedd adroddiad swyddogion Gwynedd a'r dogfennau cysylltiedig yn cyflwyno'r polisi i'r cabinet wedi "camarwain aelodau yn sylweddol".

Ychwanegodd nad oedd Erthygl 4 yn "fesur cyffredinol ar gyfer pob cartref gwyliau newydd, dim ond ar gyfer y rhai lle mae newid defnydd yn 'berthnasol', neu'n arwyddocaol".

Roedd marciau cwestiwn felly, os oedd y cabinet yn ymwybodol o hyn pan gafodd y penderfyniad ei wneud.

Arwydd ar werth
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai wedi bod yn dadlau bod llai yn awyddus i brynu ail gartref ym Morfa Nefyn ers i Gyngor Gwynedd gyflwyno mesur i fynd i'r afael ag ail gartrefi

Yn ymateb i'r penderfyniad, mewn datganiad dywedodd Pobl Gwynedd Yn Erbyn Erthygl 4 y byddan nhw bellach yn ceisio am ad-daliad o'u costau cyfreithiol gan y cyngor.

"Mae beth sy'n digwydd nesaf yn nwylo'r cyngor, mae'n bosib y byddan nhw'n ceisio apelio yn erbyn y penderfyniad.

"Os nad ydyn nhw am apelio yna bydd yn rhaid i ni ddisgwyl i weld os bydd y cyngor yn ail-ddechrau'r broses.

"Byddai hyn," ychwanegon nhw, "yn siomedig iawn i'r holl drigolion."

"Roedd y penderfyniad yn canolbwyntio ar ddealltwriaeth o sut y gellid cymhwyso Erthygl 4.

"Nid mesur cyffredinol mohono ar gyfer pob cartref gwyliau newydd..."

'Hynod siomedig'

Bydd gwrandawiad arall nawr yn cael ei gynnal yn dilyn y dyfarniad ysgrifenedig.

Yn y cyfamser, wrth i'r cyngor apelio, bydd y Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn parhau mewn grym.

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, sy'n dal portffolio amgylchedd Cyngor Gwynedd: "Fel cyngor, rydym wedi bod yn benderfynol o wneud popeth yn ein gallu i sicrhau fod gan bobl Gwynedd fynediad at dai addas yn eu cymunedau.

"I wneud hyn, rydym wedi cymryd camau rhagweithiol yn cynnwys cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 i reoli'r nifer sylweddol o gartrefi sy'n cael eu colli i fod yn ail gartrefi neu lety gwyliau tymor-byr.

"Dangosodd ymchwil cyn cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 fod 65% o aelwydydd Gwynedd wedi'u prisio allan o'r farchnad dai, gyda'r broblem yn hyd yn oed fwy difrifol mewn cymunedau lle mae cyfran uchel o dai gwyliau.

"Rydym yn hynod siomedig gyda'r dyfarniad, a byddwn yn bwrw ymlaen i gychwyn proses apêl er amddiffyn ein penderfyniad o gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yng Ngwynedd."

Pynciau cysylltiedig