Taith un ysgol at bresenoldeb 'syfrdanol' o uchel

Dyn gyda gwallt llwyd byr yn gwenu ac yn gwisgo siaced lwyd pinstripe a thei streips coch a gwyrdd tywyll. Mae'n eistedd mewn swyddfa gyda desg tu ol iddo.
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfathrebu da rhwng yr ysgol, rhieni a'r disgyblion yn allweddol, meddai Lynn Griffiths

  • Cyhoeddwyd

"Maen nhw eisiau bod yn yr ysgol," meddai'r pennaeth am ddisgyblion Ysgol Gymraeg Caerffili, ble roedd presenoldeb fis Medi yn 98.2% ac ymhlith yr uchaf yng Nghymru.

Nid un rheswm yn unig sydd yna am yr ystadegau, ond mae'r berthynas gyda theuluoedd yn hanfodol, yn ôl Lynn Griffiths.

Ar ben hynny, mae cynnig "cwricwlwm cyffrous" a llu o gyfleoedd allgyrsiol i'r disgyblion yn eu denu bob dydd, meddai.

Ond mae presenoldeb ar lefel Cymru gyfan yn parhau i beri gofid ac yn is na'r gyfradd cyn y pandemig.

Mae presenoldeb yr ysgol bob amser wedi bod "yn dda iawn", meddai Lynn Griffiths, sydd bellach yn bennaeth rhan amser ar ôl gweithio yn Ysgol Gymraeg Caerffili ers dros 30 mlynedd.

Ond roedd y pandemig yn ergyd i bresenoldeb yr ysgol hon fel pob un arall.

Dywedodd ei fod wedi bod yn "dipyn o siwrne" i ddychwelyd i lefelau tebyg i'r rhai cyn i Covid-19 daro.

Ymhlith y ffactorau allweddol mae "gweledigaeth glir" a phartneriaeth rhwng rhieni, staff a disgyblion, ychwanegodd.

'Rhywle diogel'

Mae naw o bob 10 plentyn yn adran iau Ysgol Gymraeg Caerffili yn aelod o glwb allgyrsiol.

"Gwyddbwyll, llythrennedd, chwaraeon, dawns, drama - mae'r plant eisiau bod yn rhan o'r clybiau yma."

Dywedodd Mr Griffiths bod sicrhau presenoldeb eu plant "yn fwy o sialens" i rai teuluoedd ond bod swyddogion gan yr ysgol i'w helpu.

Rachel Warden yw swyddog lles ac iechyd llawn amser yr ysgol ac mae'n croesawu rhai o'r plant yn y bore i "rhywle diogel, rhywle gallan nhw jyst cael bach o chill gyda fi - s'dim disgwyliadau o ran gwaith".

Y pwyslais yw eu cael "yn gyfforddus ac yn hapus i ddod i'r ysgol", meddai.

Pum plentyn mewn gwis ysgol glas a gwyrdd gyda bachgen a merch yn sefyll yn y cefn a thair merch yn eistedd o'u blaenau.
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r plant yn dweud eu bod yn awyddus i ddod i'r ysgol i weld ffrindiau

Dywedodd Ivy, 9, ei bod yn hoffi mynd i'r ysgol achos "mae'r holl athrawon yn garedig i ni - os y'n ni'n drist maen nhw'n helpu ni".

"Mae lot o glybiau a ni'n gallu gwneud pa bynnag rhai ni eisiau," meddai Lili, 9.

Dywedodd Elliot, 10, bod disgyblion yn gallu mynd i eistedd yn yr hafan "a chael pum munud i ein hun".

'Dangos beth sy'n bosibl'

Ar draws Cymru, roedd presenoldeb ar gyfartaledd yn 90.9% ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25 - yn uwch na'r flwyddyn flaenorol ond yn is na 94.3% yn 2018/19.

Mae presenoldeb yn uwch mewn ysgolion cynradd, a hyd yma eleni mae wedi cyrraedd 93.4%, o'i gymharu â 90.3% ar gyfer ysgolion uwchradd.

Dywedodd yr arolygaeth addysg, Estyn, bod presenoldeb ysgolion uwchradd yn rhy isel ac maen nhw wedi rhybuddio y byddai'n cymryd mwy na degawd i ddychwelyd i'r lefel cyn y pandemig pe bai'n parhau i wella ar yr un gyfradd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Lynne Neagle, bod Ysgol Gymraeg Caerffili yn dangos "beth sydd yn bosibl pan glymir cymorth targedig gyda chynhwysiad cryf teuluol a chymunedol ehangach".

"Er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael mynediad i'r addysg y mae'n ei haeddu, mae'n rhaid i ni barhau i fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal dysgwyr rhag mynychu'r ysgol," meddai.

Menyw gyda gwallt coch i'w hysgwyddau, yn gwisgo sgarff werdd a chot lwyd yn sefyll ar stryd yng nghanol y dref
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jenny, sy'n rhiant i ddau, yn pwysleisio pa mor anodd oedd hi i rai plant ddychwelyd i'r ysgol ar ôl y pandemig

Yng nghanol tref Castell-nedd, dywedodd Jenny bod ei merch yn colli llawer o amser ysgol oherwydd problemau meddygol a'i bod yn bwysig i ysgolion ddangos dealltwriaeth.

"Mae'n anodd cadw ar y trywydd iawn gyda phresenoldeb," meddai.

Dywedodd rhiant arall, Rachel, bod pwyslais mawr ar bresenoldeb yn ysgol ei phlant a bod llythyrau yn dod gan y cyngor os oedd gormod o absenoldeb.

"Yn amlwg s'mo chi mo'yn i'r plant golli lot o amser ond fi'n credu bod prisiau gwyliau'r haf, gwyliau'r Pasg ac yn y blaen - ma' fe gymaint yn fwy, mae'n rhywbeth mae teuluoedd yn gorfod ystyried."

Yn Ysgol Gymraeg Caerffili dydy caniatâd ddim yn cael ei roi ar gyfer gwyliau yn hanner tymor cyntaf y flwyddyn academaidd "achos dyna'r amser gwaethaf i blentyn beidio bod yn yr ysgol".

Ond wedi hynny mae yna hyblygrwydd, ac yn ôl Lynn Griffiths mae'r ysgol yn annog y dysgu i barhau os yw'r plant i ffwrdd.

"Gall y plant wneud prosiect tra maen nhw ar wyliau a dod 'nôl a gwneud cyflwyniad i'w cyfoedion nhw," meddai.

"Dydy'r ysgol byth wedi rhoi dirwy i riant am beidio sicrhau presenoldeb eu plant.

"Mae'n well gennym ni fel ysgol ac fel corff llywodraethu i gyfathrebu, magu'r berthynas yna a chydweithio."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.