'Rhoi lan ar brynu tŷ lle cefais fy magu'

Owen Shires yn sefyll o flaen ei gartref, sydd yn dy cerrig gyda drws pren
Disgrifiad o’r llun,

Mae Owen Shires yn byw mewn tŷ cydweithredol, sy'n golygu bod cyfrifoldeb dros gynnal a chadw'r eiddo er nad yw'n berchen y tŷ

  • Cyhoeddwyd

Cymru yw'r lleoliad anoddaf ym Mhrydain i bobl brynu tŷ am y tro cyntaf yn eu hardaloedd lleol, yn ôl gwaith ymchwil newydd.

Mae rhai rhannau o Gymru yn fwy heriol nag eraill – yng Ngheredigion, Powys a Sir Benfro mae llai na 3% o'r boblogaeth yn gallu fforddio prynu eu tŷ cyntaf am y pris cyfartalog.

Mae chwech o'r 10 awdurdod lleol lleiaf fforddiadwy trwy Brydain yng Nghymru, ac yn cynnwys Caerdydd, Bro Morgannwg a Sir Fynwy.

Ceredigion yw'r ardal leiaf fforddiadwy gyda'r bwlch mwyaf rhwng cyflogau a phris eiddo, yn ôl gwaith ymchwil gan grŵp Skipton, ar y cyd gyda Oxford Economics.

Tai amryliw o flaen y traeth yn Aberystwyth gyda awyr las uwchben
Disgrifiad o’r llun,

Mae tai yng Ngheredigion yn gwerthu am £236,000 ar gyfartaledd

Mae Owen Shires, sy'n 40 oed, yn byw mewn tŷ cydweithredol ger pentref Eglwys Fach yng Ngheredigion.

Y gobaith yw symud yn nes adref at ei rieni ond mae hynny'n teimlo'n "amhosib" ar hyn o bryd.

Dywedodd: "Bydde fe'n dda cael rhywle sy'n rhoi sicrwydd neu rywbeth sy'n ddiogel yn ariannol, yn enwedig wrth i chi fynd yn hŷn, mae hynny yn hollol naturiol dwi'n meddwl.

"Mewn ffordd dwi wedi rhoi lan, mae'r sefyllfa yn ymddangos mor amhosib i rywun sydd mewn sefyllfa debyg i fi.

"Mae'n anodd gweld ffordd mas. Mae'r anghyfartaledd yn tyfu, nid lleihau."

'Addasu' y system gynllunio

"Dyw'r ffigyrau ddim yn synnu fi. Gorllewin Cymru yw un o'r mannau mwyaf tlawd yng ngogledd Ewrop ac mae gap mawr rhwng realiti economaidd y rhan fwyaf o bobl sy'n wreiddiol o Geredigion a'r system economaidd ehangach.

"Un peth bydde'n helpu yw bod mwy o ystyriaeth yn cael ei roi o fewn y system gynllunio i bobl leol.

Yn ôl Mr Shires, mae "modd addasu'r system gynllunio" er mwyn gwneud hi'n "haws i bobl aros yn eu cymunedau".

Mae'r gwaith ymchwil yn defnyddio data o amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys prisiau tai mewn ardaloedd awdurdodau lleol ac incwm cyfartalog yno i greu darlun o ba mor fforddiadwy yw tai ar gyfer prynwyr cyntaf yn yr ardaloedd hynny.

Mae'r mynegai yn dangos bod 11.5% o ddarpar brynwyr ar draws Prydain yn gallu fforddio prynu eiddo yn seiliedig ar eu sefyllfa ariannol.

Ond mae'r canrannau ar gyfer rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn llawer is – mae'r adroddiad fforddiadwyedd yn dweud mai dim ond "2.7% o'r rheiny sydd eisiau prynu tŷ am y tro cyntaf yng Ngheredigion yn gallu gwneud hynny".

Merch yn ei thridegau mewn sgarff borffor yn sefyll o flaen archfarchnad yn Aberystwyth.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ella Morton-Parker yn "lwcus" o allu byw gyda'i mam am gyfnod

Ar ôl cyfnod yn teithio, mae Ella Morton-Parker a'i phartner yn byw adref gyda'i mam ger Machynlleth ym Mhowys.

"Dwi'n gobeithio prynu tŷ ond maen rili anodd ar y funud. Mae'r savings i allu prynu tŷ yn enfawr.

"Mae'n grêt i fyw gyda mam i safio pres ond does gan bawb yr un oed a fi ddim y siawns yna.

"Mae'r deposit yn anodd ac wedyn mae'r morgais yn enfawr wedyn. Mae'r deposit mor anodd, i safio 10 mil pan chi'n rhentu ar yr un pryd - mae'n anodd iawn iawn."

Geraint Hughes yn sefyll o flaen ei siop sy'n gwerthu eiddo yng Ngheredigion.
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen adeiladu mwy o gartrefi sy'n addas i brynwyr cyntaf, yn ôl y gwerthwr eiddo Geraint Hughes

Yn werthwr eiddo yng Ngheredigion, barn Geraint Hughes yw bod angen adeiladu mwy o gartrefi addas ar gyrion rhai o'r trefi mawr.

"Yng Ngheredigion, mae 'na gyflogau isel iawn yn cael eu talu o'i gymharu â gweddill Prydain ac mae hynny yn cael effaith ar faint mae prynwr yn gallu fforddio ei dalu.

"Mae 'na brinder datblygiad newydd o dai sy'n golygu bod y demand yn gryf ond dim digon o stoc.

"Mae lot o dai mawr, tri neu bedwar llawr, ac mae hynny yn gallu bod yn rhy fawr ac yn rhy ddrud i brynwyr cyntaf.

Mae Mr Hughes o'r farn bod angen mwy o dai newydd mewn ardaloedd gweldig ar gyffiniau tref.

"Byddai hynny yn help mewn cadw'r iaith Gymraeg i fynd yn y cymunedau yma."

Y chwech awdurdod lleol yng Nghymru sydd yn y 10 uchaf o ran y llefydd lleiaf fforddiadwy yw:

  1. Ceredigion 2.7%

  2. Powys 2.7%

  3. Sir Benfro 2.9%

  4. Caerdydd 3%

  5. Bro Morgannwg 3.1%

  6. Sir Fynwy 3.3%

Tai o bob lliw ar y mor yn Aberystwyth gyda gweddill y dref i'w weld yn y cefndir
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tai sydd yn Aberystwyth yn aml gyda thri llawr a'n rhy ddrud i brynwyr cyntaf

Ar gyfartaledd, mae prisiau tai yng Nghymru yn is nag gweddill y DU.

Mae'r Mynegai Prisiau Tai diweddaraf yn dangos mai cost gyfartalog tŷ yng Nghymru yw £233,000 tra ei fod yn fwy na £267,000 ar gyfer y DU cyfan.

Ond mae prisiau tai yng Ngheredigion ar gyfartaledd yn £236,000 - sy'n uwch na chyfartaledd Cymru mewn sir lle mae incwm canolrifol ymhlith yr isaf ym Mhrydain.

Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion eu bod yn "ymwybodol o'r pwysau pan mae'n dod i brynu tai yn y sir" ac yn "gwario adnoddau sylweddol" i geisio gwella'r sefyllfa.

Yn eu datganiad, mae llefarydd yn dweud "bod gan y gwasanaeth cynllunio targed i gyflawni 20% o'r holl dai i fod yn fforddiadwy ar draws y sir ac wedi rhagori ar y targed hwn gyda 37% o dai a ganiateir a 33% o'r holl dai a adeiladwyd ers mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol yn fforddiadwy; Disgownt ar gyfer Eiddo Gwerthu neu Rentu Canolraddol.

"Mae'r Cyngor hefyd wedi cyflwyno Cynllun Tai Cymunedol, cynnyrch rhannu ecwiti, i gefnogi pobl i fynd ar yr ysgol dai.

"Fel awdurdod mae blaenoriaethu darparu tai fforddiadwy yn biler canolog yn ein Strategaeth Gorfforaethol ac rydym yn parhau i ymdrechu i ddod o hyd i ffyrdd i wneud y mwyaf o gyfleoedd tai ledled y sir."

Pynciau cysylltiedig