Pwysau ariannol ar ysgolion Sir Gâr yn 'argyfwng'
- Cyhoeddwyd
Mae'r pwysau ariannol sy'n wynebu nifer o ysgolion yn Sir Gaerfyrddin yn "argyfwng", yn ôl aelod cabinet y sir dros addysg.
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies ei bod yn hanfodol fod arweinwyr ysgolion yn cydnabod y sefyllfa.
Dywedodd adroddiad cabinet fod disgwyl i ysgolion y sir orwario o £10.8m y flwyddyn ariannol hon. Dyna oedd y sefyllfa ar 30 Mehefin.
Mae'r cyngor wedi anfon llythyr at arweinwyr a llywodraethwyr ysgolion yn egluro'r sefyllfa.
'Argyfwng'
Dywedodd y Cynghorydd Davies ei fod yn derbyn bod y sefyllfa ariannol yn gwneud pethau’n “anodd iawn, iawn” i lawer o ysgolion.
Ychwanegodd nad bod yn “amharchus mewn unrhyw ffordd” oedd bwriad y llythyr, ond yn hytrach, nodi “y ffeithiau moel”.
Dywedodd: “Rwy’n credu ei bod yn hanfodol bod ein hysgolion a’n cyrff llywodraethu yn ymwybodol o ddifrifoldeb y sefyllfa. Mae’n argyfwng.”
Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, yr aelod cabinet dros adnoddau, na allai or-ddweud pwysigrwydd y mater.
Ychwanegodd: “Fel un sydd â thri o wyrion ac wyresau bach mewn ysgolion cynradd lleol, rwy’n gwerthfawrogi’n llwyr fod ysgolion dan bwysau aruthrol," meddai.
Dywedodd y Cynghorydd Lenny nad oedd rhagamcanion y gyllideb yn cynnwys codiadau cyflog a phensiwn athrawon.
- Cyhoeddwyd1 Hydref
- Cyhoeddwyd27 Medi
- Cyhoeddwyd24 Medi
Dywedodd yr adroddiad fod y cyngor yn rhagweld gorwariant o £17.9m eleni, o ystyried pob ffactor.
Yn ôl y Cynghorydd Lenny, blynyddoedd o dan-ariannu llywodraeth ganolog sy'n gyfrifol am y pwysau cyllidebol.
Bydd y canghellor Llafur newydd, Rachel Reeves, yn cyflwyno ei chyllideb gyntaf ar 30 Hydref gyda gweinidogion Cymru yn nodi eu cynlluniau gwariant yn dilyn hynny.
Dylai hynny roi rhywfaint o eglurder i gynghorau ynghylch faint y byddan nhw'n ei dderbyn yn 2025-26.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Darren Price, fod y wasgfa sy’n wynebu Sir Gaerfyrddin yn berthnasol i holl gynghorau Cymru a bod “setliad digonol” gan lywodraeth ganolog yn hollbwysig.
'Lefelau uchel o ddiswyddiadau'
Fis diwethaf dywedodd Llywodraeth Cymru fod cyllid ar gyfer llywodraeth leol wedi codi 7.9% yn 2023-24 a 3.3% yn y flwyddyn ariannol hon.
Dywedodd llefarydd mai cyfrifoldeb cynghorau ydy talu costau athrawon.
“Lle bo angen rydym wedi sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael yn ystod y flwyddyn i awdurdodau lleol,” meddai'r llefarydd.
Dywedodd Nicola Fitzpatrick o Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru: “Mae cyllidebau ysgolion dan straen eleni ac rydym wedi gweld lefelau uchel o ddiswyddiadau o ganlyniad.
“Yn benodol, mae ein haelodau’n dweud wrthym fod heriau o ran cefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol a chyflenwi absenoldeb staff gydag athrawon cwbl gymwys.
“Wrth i Lywodraeth Cymru edrych ar y gyllideb mae’n bwysig cofio y bydd y sgiliau a’r profiadau a gaiff plant yn yr ysgol yn helpu i’w cynnal drwy gydol eu hoes.”