37% o blant uwchradd yn absennol yn gyson

Disgyblion AnhysbysFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae absenoldeb cyson disgyblion yn parhau i fod bron dwbl y lefel cyn y pandemig

  • Cyhoeddwyd

Mae absenoldeb cyson mewn ysgolion yng Nghymru wedi gwella ychydig o'i gymharu â'r llynedd, ond mae'n dal i fod dros ddwbl yr hyn oedd cyn y pandemig.

Yn ôl ffigyrau swyddogol newydd, roedd canran y disgyblion ysgolion uwchradd oedd yn absennol yn gyson – sef plant sy'n colli mwy na 10% o'u gwersi - yn 37% yn 2023-24.

Roedd y ffigwr yn 40% yn y flwyddyn flaenorol, ond mae hynny fwy na dwbl y lefel cyn y pandemig.

Roedd 61.4% o blant uwchradd o gefndiroedd mwy difreintiedig yn absennol yn gyson yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf.

Mae hynny hefyd i lawr (o 64.3%) ond yn 2019-19, dim ond 35.5% o ddisgyblion oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim oedd yn absennol yn gyson.

Roedd absenoldeb cyson merched ychydig yn uwch na bechgyn.

Mae'r cynnydd cyfrannol mwyaf mewn absenoldeb ers y pandemig wedi bod yn Sir Fynwy a Bro Morgannwg.

Mae'r ffigyrau yn cael eu cyhoeddi'n flynyddol gan Lywodraeth Cymru, ond ni chafodd data ei gyhoeddi yn ystod y pandemig.

Yn Lloegr, dangosodd ffigyrau ar gyfer 2023-24 fod 26.7% o ddisgyblion uwchradd yn absennol yn gyson - dros 10% yn is na Chymru.

Pynciau cysylltiedig