Eisteddfod: Cynnal seremoni'r Cadeirio ddydd Gwener

Mae'r gadair yn adlewyrchu pedwar prif dirnod sy'n ymwneud â WrecsamFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gadair yn adlewyrchu pedwar prif dirnod sy'n ymwneud â Wrecsam

  • Cyhoeddwyd

Bydd enillydd Cadair Eisteddfod Wrecsam 2025 - os bydd teilyngdod - yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener.

Beirniaid y gystadleuaeth eleni yw Peredur Lynch, Menna Elfyn a Llŷr Gwyn Lewis.

Roedd gofyn i ymgeiswyr gyfansoddi awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol ar y testun 'Dinas'.

Fe fydd y buddugol yn cael cadair sy'n rhoddedig gan Undeb Amaethwyr Cymru, Gogledd Ddwyrain Cymru a £750 yn rhoddedig gan Goleg Cambria.

Gafyn Owen o Fangor, a'i bartner busnes, Sean Nelson, yw cynhyrchwyr y gadair
Disgrifiad o’r llun,

Gafyn Owen o Fangor, a'i bartner busnes, Sean Nelson, yw cynhyrchwyr y gadair

Mae'r gadair wedi cael ei dylunio a'i chreu gan Gafyn Owen a Sean Nelson.

Dywedodd Gafyn, sy'n dod o Fangor: "Mae pedwar prif nodwedd, sef hanes pyllau glo Wrecsam, pont ddŵr Pontcysyllte, bragdai'r ddinas a'u cariad at y tîm pêl-droed yn sail i'r cynllun, ac wedi ysbrydoli ein taith ddylunio i greu'r braslun."

Mae cefn y gadair yn adlewyrchu bwa traphont Pontcysyllte a'r ffenestri gwydr yn adlewyrchu eglwysi a chapeli'r ddinas.

Ychwanegodd Gafyn bod rhan uchaf y gadair wedi'i ysbrydoli gan siâp to stadiwm y Cae Ras, a'r sedd wedi'i gorchuddio mewn defnydd coch, sef lliwiau'r tîm pêl-droed.

Elfen arall bwysig yn nhreftadaeth y ddinas yw'r diwydiant glo, ac mae'r gadair yn cynnig teyrnged i'r ddamwain erchyll ym mhwll Gresffordd yn 1934 yn ogystal â nodi dylanwad pensaernïol bragdai hanesyddol Wrecsam.

Disgrifiad,

Carwyn Eckley: Ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn 'brofiad bythgofiadwy'

Enillydd y gadair y llynedd - y Prifardd Carwyn o'r Nant - fydd yn cyfarch y bardd.

Fore Gwener bydd y gorseddigion newydd er anrhydedd yn cael eu croesawu gan yr Archdderwydd Mererid.