Lluniau: Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2024
![Lemfreck gyda'i dlws](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/2799/live/cbf94d10-860b-11ef-9517-b3e6c6df6fa0.jpg)
Roedd Lemfreck, yr artist rap a chynhyrchydd o Gasnewydd, yn derbyn tlws a gwobr ariannol o £10,000
- Cyhoeddwyd
Roedd yn noson fawreddog yng Nghanolfan y Mileniwm ar 8 Hydref wrth i Lemfreck gipio Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2024.
Fe wobrwywyd artistiaid eraill yn y seremoni yng Nghaerdydd hefyd gan gynnwys enillwyr tlws Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig a gwobrau Triskel, sy'n rhoi cymorth i artistiaid ddatblygu eu gyrfa.
Dyma luniau o rai o uchafbwyntiau'r noson:
![Canolfan Mileniwm Cymru](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/2938/live/e34cb120-8604-11ef-822c-a50726bfda2e.jpg)
Roedd Canolfan Mileniwm Cymru wedi ei oleuo yn wyrdd - yr un lliw â logo'r gwobrau
![Cynulleidfa'r noson yn gwylio](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/0078/live/dbe84c00-8604-11ef-822c-a50726bfda2e.jpg)
Y seremoni wobrwyo oedd y digwyddiad cyntaf fel rhan o Ŵyl Llais eleni, sy’n rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd. Roedd 15 artist ar y rhestr fer
![Sian Eleri yn cyflwyno](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/2ef4/live/b9bc6ee0-8604-11ef-822c-a50726bfda2e.jpg)
Cyflwynydd y noson Sian Eleri, o BBC Radio 1. Rhain oedd y 14eg gwobrau i gael eu cynnal
![Enillwyr gwobr Triskel Wrkhouse yn perfformio](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/5033/live/d6a2f650-8604-11ef-9329-f30486eb2a33.jpg)
Enillwyr un o wobrau Triskel eleni oedd Wrkhouse, fu'n perfformio ar y noson. Caiff y wobr ei chyflwyno’n flynyddol i dri artist er mwyn rhoi cefnogaeth iddyn nhw ddatblygu eu gyrfaoedd cerddorol
![Eric Martin a DJ Jaffa yn derbyn gwobr](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/a15a/live/eb5aead0-8604-11ef-83dd-fbf1b9732cf0.jpg)
Yr arloeswyr hip-hop o Gymru, Eric Martin a DJ Jaffa, enillodd y wobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig, am eu cyfraniadau i’r sîn gerddoriaeth yng Nghymru drwy gydol eu gyrfa
![Eric Martin](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/54f8/live/f8ea71c0-8604-11ef-83dd-fbf1b9732cf0.jpg)
Mae Eric Martin - sy'n cael ei adnabod hefyd fel MC Eric neu Me One - yn gerddor o dras Jamaicaidd a gafodd ei eni yng Nghymru. Fe ddaeth i enwogrwydd gyda Technotronic o Wlad Belg ar ddiwedd yr 1980au a dechrau’r 1990au, pan gyd-ysgrifennodd y glasur o albwm Pump Up The Jam
![Lemfreck yn cael ei longyfarch gan Sian Eleri, gyda'i chyd-gyflwynydd Huw Stephens yn dod a'r tlws i'r enillydd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/3846/live/d24122d0-8604-11ef-83dd-fbf1b9732cf0.jpg)
Lemfreck, enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2024, yn cael ei longyfarch gan Sian Eleri, gyda'i chyd-gyflwynydd Huw Stephens yn dod â'r tlws i'r enillydd
![Y cyflwynydd Sian Eleri gyda Lemfreck wedi i enw'r enillydd gael ei gyhoeddi](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/03ec/live/cc1df040-8604-11ef-822c-a50726bfda2e.jpg)
Fe gafodd Lemfreck ei wobrwyo am ei albwm Blood, Sweat & Fears
![Lemfreck yn codi ei wobr](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/8600/live/b4326f10-8604-11ef-822c-a50726bfda2e.jpg)
Roedd Lemfreck yn fuddugol mewn cystadleuaeth gref oedd yn cynnwys artistiaid fel Gruff Rhys, Skindred, Cowbois Rhos Botwnnog, Slate, Alrighcia Scott a Pys Melyn
![Huw Stephens](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/2688/live/fd2ab380-8604-11ef-822c-a50726bfda2e.jpg)
Meddai'r DJ a'r cyflwynydd Huw Stephens, a gyd-sefydlodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2011: "Mae Blood, Sweat & Fears yn albym anghygoel sydd wedi derbyn clôd gan y beirniaid am ei weledigaeth ac uchelgais. Mae pob albym ar y rhestr fer yn unigryw, a gobeithiwn bod y wobr yn uwcholeuo gwaith gwych ein cerddorwyr"
![Lemfreck](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/bcf3/live/c4fe8360-8604-11ef-9329-f30486eb2a33.jpg)
Dywedodd Lemfreck ar ôl derbyn y wobr: “Diolch i fy mam a fy nhad – wrth dyfu i fyny fel person du ifanc, roedden nhw wastad yn dweud wrthyf fy mod i’n gallu gwneud unrhyw beth. Mae hwn i fy nghymuned yng Nghasnewydd"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd9 Awst 2024
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2024