Amy Dowden: Dim cysylltiad rhwng anaf a salwch blaenorol

Amy DowdenFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Amy Dowden wedi cael cyngor i orffwys am ychydig wythnosau wedi anaf i'w choes

  • Cyhoeddwyd

Wedi iddi hi gyhoeddi na fydd hi'n cymryd rhan yng ngweddill cyfres Strictly Come Dancing eleni, mae Amy Dowden wedi pwysleisio nad ydi hynny'n gysylltiedig â'i phroblemau iechyd blaenorol.

Fe gafodd y ddawnsiwraig broffesiynol o Gaerffili ei chludo i'r ysbyty "rhag ofn" bythefnos yn ôl, ar ôl llewygu gefn llwyfan yn ystod un o'r rhaglenni.

Fe ddywedodd wrth y chwaer raglen 'It Takes Two' nos Fercher ei bod ag ysigiad (insufficiency stress fracture) ar ei chrimog (shin).

Roedd hi wedi dychwelyd i'r gystadleuaeth eleni ar ôl gorfod colli cyfres y llynedd wrth gael triniaeth canser y fron.

Dywedodd ei bod wedi ei "llorio'n llwyr" o fethu â pharhau i gystadlu yng gweddill cyfres eleni ond ei bod wedi cael cyngor "i orffwys am ychydig wythnosau".

Ffynhonnell y llun, BBC/PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r canwr JB Gill - oedd yn dawnsio gyda'r Gymraes yn y gyfres eleni - wedi ei chanmol

Mewn cyfweliad dagreuol, dywedodd bod y sefyllfa wedi "torri fy nghalon".

"Bod yn ôl gyda theulu Strictly oedd yr adferiad gorau," meddai, gan gyfeirio at y canser a'i ffaith ei bod yn byw gyda'r cyflwr Crohn's.

Ychwanegodd ei bod yn gobeithio y bydd "yn ôl yn dawnsio mewn rhyw fodd, o bosib mewn dawns grŵp, cyn diwedd y gyfres".

Lauren Oakley sydd wedi cymryd ei lle yn y gystadleuaeth fel partner dawsnio'r canwr JB Gill.

Pynciau cysylltiedig