‘Nabod rhai o’r bobl yma? Archif ‘anhygoel’ ymgyrchu gwleidyddol
- Cyhoeddwyd
Dros yr wythnosau diwethaf mae taflenni wedi eu gwthio drwy flychau post ar hyd a lled Cymru yn erfyn arnon ni i roi croes drws nesaf i enw penodol ar 4 Gorffennaf...
Ond mae rhannu dogfennau gwleidyddol cyn etholiad yn hen arferiad gyda channoedd ar gannoedd wedi eu casglu yn archif y Llyfrgell Genedlaethol - gyda’r hynaf yn dyddio yn ôl i 1837.
Maen nhw’n taflu goleuni ar agweddau a phynciau llosg y dydd, yn dangos llwybr gwleidyddol ffigyrau amlwg cyn iddyn nhw ddod yn adnabyddus - ac uchelgais sawl un na lwyddodd.
Erbyn heddiw mae timoedd bychain ymhob ardal yn casglu’r holl ddeunydd gwleidyddol sy’n cael eu cynhyrchu cyn etholiadau er mwyn eu cadw yn Yr Archif Wleidyddol Gymreig.
Yn ôl Rob Phillips, archifydd y casgliad - sydd ar gael ar-lein, dolen allanol: “Mae’n adnodd anhygoel.”
£1000 am wybodaeth gyfrinachol... Roedd pleidlais gudd yn un o brif ofynion y Siartwyr - ac fe gafodd hynny ei sicrhau gan ddeddf gwlad yn 1872.
Doedd y Rhyddfrydwr Lewis Pugh Pugh yn amlwg ddim o blaid hyn (uchod) - ac yn cynnig gwobr enfawr o £1000 yn 1880 (sydd gyfystyr a tua £100,000 heddiw) i unrhywun allai 'brofi dros bwy y Votiodd unrhyw Etholwr'.
Mae'r cwestiwn o ba blaid sydd fwyaf cyfrifol gyda'r coffrau cyhoeddus yn thema gyffredin. Roedd yn amlwg wrth i'r llywodraeth Lafur diwethaf ddod i ben yn 2010, ac mae wedi bod yn destun dadlau yn yr ymgyrch bresennol. O'r daflen uchod roedd yn bwnc llosg yn 1979 hefyd...
Dyma daflen hanesyddol yn stori Plaid Cymru, sefydlwyd yn 1925. Etholiad Cyffredinol 1929 oedd yr un cyntaf i gael ei gynnal ers ffurfio'r blaid newydd a dyma un o'i sylfaenwyr, Y Parch Lewis Valentine, yn gofyn am bleidlais etholwyr Sir Gaernarfon. Byddai dros 40 mlynedd yn mynd heibio tan i aelod seneddol Plaid Cymru gael ei ethol yn yr ardal.
Un o'r pynciau llosg gwleidyddol yn 1892 oedd dyfodol Iwerddon ac a fyddai'r wlad yn aros yn rhan o'r Deyrnas Unedig. Roedd barn y Ceidwadwr Syr Morgan Morgan ar y pwnc yn amlwg.
Er mai 1974 oedd blwyddyn fawr Plaid Cymru gan ennill tair sedd, roedd y ddau Dafydd wedi ymgeisio yn etholiad 1970 hefyd. Daeth Dafydd Wigley yn ail ym Meirionnydd - cyn ennill Caernarfon yn 1974, a daeth Dafydd Elis-Thomas (neu Tomas yn y daflen yma ganddo) yn drydydd yng Nghonwy - cyn cael ei ethol ym Meirionnydd yn 1974.
Dywedodd archifydd y casgliad bod nifer o daflenni difyr am yrfa wleidyddol ffigyrau amlwg - ond bod llawer mwy na hynny.
Meddai Rob Phillips.“Mae hefyd yn ffordd dda o weld pobl oedd ddim yn llwyddiannus. Os chi ond yn edrych ar bobl sydd wedi bod yn Aelodau Seneddol chi ddim yn gweld popeth.
"Mae’n ddiddorol er enghraifft i weld faint o ferched wnaeth sefyll yng Nghymru – ond ddim mynd fewn."
Un o'r rhain oedd Kathleen Smith (dde), y Ceidwadwr wnaeth geisio am Gaernarfon yn 1970. Fe lwyddodd Megan Lloyd George i gael ei hethol fel aelod Rhyddfrydol yn 1929 (chwith) - y fenyw gyntaf yng Nghymru i fynd i San Steffan.
(chwith) Tudalen flaen llyfryn o 1908 yn dadlau achos y sosialwyr gan R. Silyn Roberts, o Flaenau Ffestiniog. Roedd yr addysgwr, undebwr a'r llenor yn ddylanwad ar R.T Jones gafodd ei ethol i gynrychioli Bwrdeistref Caernarfon yn San Steffan yn 1922. Roedd etholiad arall flwyddyn yn ddiweddarach, ac ni fu'n llwyddiannus - er gwaetha procio cydwybod yr etholwyr gyda'r daflen uchod (dde).
Mae dogfennau yn yr archif yn dyddio yn ôl i 1837 - fel yr un yma sy'n dadlau achos y Rhyddfrydwr Syr James Williams. Mae popeth rhwng hynny a 1979 wedi eu digideiddio ac ar gael i'w gweld ar wefan Y Llyfrgell Genedlaethol.
Roedd neges gan wraig darpar aelodau seneddol y Blaid Lafur yn gyffredin yn yr 1950au, fel yr un yma gan Alice Howlett.
Neges gan ei fam oedd gan George Thomas, yn ddiweddarach Is-Iarll Tonypandy. Ar ôl cynrychioli Canol Caerdydd yn 1945, daeth yn Aelod Seneddol ar Orllewin Caerdydd rhwng 1950 a'i ymddeoliad o'r Tŷ Cyffredin yn 1983.
Ieuan Wyn Pritchard Roberts - Barwn Roberts o Gonwy yn ddiweddarach - yn gofyn am bleidlais etholwyr Conwy yn 1970. Fe gipiodd o'r sedd gan y Blaid Lafur bryd hynny a dal arni tan iddo sefyll lawr a mynd i Dŷ'r Arglwyddi yn 1997. Bu'n is-Ysgrifennydd Cymru yn Llywodraeth Margaret Thatcher am flynyddoedd.
Dau bamffled y Ceidwadwyr o etholiadau 1922 a 1923. Ar y chwith, mae cysgod y Rhyfel Byd Cyntaf yn amlwg mewn pamffled sy'n annog pleidlais i 'Your Neighbour and Old Servant' Major RC Roberts yn Etholiad Cyffredinol 1922.
Mae'r daflen ar y dde yn rhan o ymgyrch etholiad y flwyddyn ganlynol yn cefnogi polisïau'r darpar Brif Weinidog Stanley Baldwin i atal 'foreign manufacturers from taking wages out of the pockets of English workers by underselling them because of the low foreign wages and cheap foreign money' - dadl sydd yn dal i rygnu ymlaen.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Yr Archif Wleidyddol Gymreig., dolen allanol
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2023