Prifwyl Rhondda Cynon Taf am fod yn 'Eisteddfod wahanol'

Disgrifiad,

Dewch am daith o amgylch maes yr Eisteddfod cyn i'r safle agor

  • Cyhoeddwyd

Mae'r disgwyl bron ar ben, gydag Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ar fin dechrau.

Gyda diwrnod agoriadol y Brifwyl ddydd Sadwrn, mae 'na ddigon o edrych 'mlaen wedi bod, gyda bron i 70 mlynedd wedi mynd heibio ers i'r sir weld yr Eisteddfod ddiwethaf.

Parc Ynysangharad, reit ynghanol Pontypridd, fydd cartref yr Eisteddfod Genedlaethol dros yr wythnos nesaf.

Yn ara' deg mae'r man gwyrdd cyhoeddus hwn wedi ei droi'n faes Eisteddfodol, yn barod i groesawu Cymry a'r byd i Bontypridd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Pontypridd wedi bod yn paratoi ers peth amser i groesawu'r Eisteddfod

Mae'n rhaid mynd nôl i Eisteddfod Aberdâr ym 1956 i ddod ar draws yr Eisteddfod Genedlaethol ddiwethaf i ymweld â'r ardal hon o Gymru.

Oherwydd hynny mae tipyn o edrych 'mlaen wedi bod, yn ôl Louise Davies o Gyngor Rhondda Cynon Taf.

"Ni mor barod ym Mhontypridd," meddai.

"Mae 'na gyffro dros y sir i gyd, nid yn unig ym Mhontypridd ond dros y sir gyfan.

"Ni wedi bod yn edrych ymlaen ers bron i 70 mlynedd i'r Eisteddfod ddod nôl i Rondda Cynon Taf, a ni'n awyddus iawn i groesawu pawb i ŵyl ardderchog."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae 'na gyffro dros y sir i gyd, nid yn unig ym Mhontypridd," medd Louise Davies

Mae pobl Rhondda Cynon Taf hefyd yn edrych 'mlaen at groesawu'r Brifwyl.

"Dwi'n meddwl ei fod e'n anrhydedd", medd un person oedd yn cerdded trwy'r dref yr wythnos hon - "anrhydedd mawr".

"Mae'n grêt," ychwanegodd Patricia Cullis.

"Fe fydd e'n dod â phobl mewn i'r dre', a bydd pobl yn cael gweld pa mor grêt yw Ponty."

Disgrifiad o’r llun,

"Does dim gwell amser i agor adeilad celfyddydol nac amser Eisteddfod Genedlaethol Cymru," meddai Richard Hughes

Mae'r Eisteddfod eleni'n cael ei gwerthu fel Eisteddfod wahanol - Eisteddfod drefol.

Mae lleoliad y maes reit ynghanol tref hanesyddol Pontypridd, ac ma'r Eisteddfod wedi cymryd mantais o'r adnodd hwnnw.

Bydd canolfan Muni ynghanol y dref yn cynnal rhai gweithgareddau - adeilad sydd wedi ei ailddatblygu ac sy'n agor mewn pryd i'r brifwyl.

"Does dim gwell amser i agor adeilad celfyddydol nac amser Eisteddfod Genedlaethol Cymru," meddai Richard Hughes, prif weithredwr Awen - yr ymddiriedolaeth ddiwylliannol sy'n rhedeg y Muni.

"Mae'r ŵyl yn gyfan gwbl yn ymwneud â diwylliant, wrth gwrs, a dyna yw'r adeilad yma.

"Diwylliant i'r gymuned yma ym Mhontypridd, ac ma' siawns gyda ni i ddangos hwnna i Gymru gyfan drwy'r wythnos nesa' gyda'r rôl mae'n mynd i chwarae yn yr Eisteddfod."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd digwyddiadau'r Eisteddfod yn cael eu cynnal yn y Muni ynghanol Pontypridd hefyd

Pan fydd y maes yn agor dydd Sadwrn fe all yr ymwelwyr ddisgwyl Eisteddfod wahanol, yn ôl cyfarwyddwr artistig y Brifwyl Elen Elis.

"Mae mewn parc yn y dref ei hun ym Mhontypridd. Mae’n hyfryd, mae’n lliwgar," meddai.

"Mae 'na goed o’n cwmpas ni, 'da chi’n gweld y strwythurau, pentrefi gwahanol ar draws y maes, yn lliwgar iawn i'r llygad.

"Mae ‘na dros 1,000 o ddigwyddiadau yn mynd i ddigwydd dros yr wythnos a’r cystadlu ar ben hynny. Fe fydd ‘na ddigon o bethau i bobl fwynhau."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Elen Elis fod yr Eisteddfod yn "defnyddio'r dre'... i roi yr ŵyl orau posib i bobl"

Ychwanegodd: "Mae’r maes yn hyfryd a dydi o ddim bwys fod o 'chydig bach yn llai na’r arfer.

"Weithiau mae’r maes rhy fawr - dydi o ddim ots - 'da ni’n addasu i ffitio’r gofod sydd gyda ni.

"'Da ni wedi mynd allan i’r dre'. 'Da ni yn Muni yn y dre'. 'Da ni hefyd yn YMa ac felly yn fan 'na fydd rhagbrofion, fydd cyngherddau.

"Mae ‘na ambell i gyngerdd nos yn y Muni. Mae ‘na sioeau theatrig yn digwydd yma, felly ‘da ni’n defnyddio’r adnoddau sydd yn y dre' hefyd.

"Mi fydd ‘na ymarferion yn digwydd mewn eglwys leol, felly ‘da ni’n defnyddio'r dre' a’i phobl i gydweithio efo ni, mewn ffordd, i roi yr ŵyl orau posib i bobl."

Disgrifiad o’r llun,

Mae eisteddfodwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd y Maes

Mae'r Eisteddfod hefyd yn cael ei gwerthu fel Eisteddfod werdd eleni, a'r pwyslais ar ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd y maes.

"‘Da ni isio pobl i fod yn ddoeth wrth deithio i Bontypridd," meddai Ms Elis.

"Mae hi'n dref brysur felly ‘da ni wedi darparu gymaint â phosibl mewn sgwrs gyda’r cyngor sir o ran darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus.

"Mae ‘na fysys, mae ‘na fwy ohonyn nhw, maen nhw’n mynd yn hwyrach i’r nos.

"Mae ‘na drên. Mae’n agos iawn i un o’r pontydd sy’n dod mewn i’r maes felly mae ‘na ddwy bont i gerdded i mewn i’r maes - 'mond bo' nhw efo tocyn ar eu ffôn neu beth bynnag i ddod i mewn."

'Peidiwch trio dod â char i mewn'

Ychwanegodd: "Mae ‘na le i bobl efo bathodyn glas i barcio hefyd yn lle parcio St Catherine’s, felly mae ‘na ddarpariaeth i bobl, ond falle i bobl edrych o flaen llaw a pharatoi.

"Mae ‘na le parcio a dal bws neu dal trên hefyd yn cael ei ddarparu i bobl.

"Peidiwch trio dod â char i mewn. Defnyddiwch ddarpariaeth cyhoeddus sydd ar gael i chi, a mae’n well i’r amgylchedd beth bynnag."