Emyr ‘Ankst’: ‘Ei anrheg olaf i’r byd’

Emyr Glyn Williams a Llwybr LlaethogFfynhonnell y llun, Emyr Williams/Ankstmusik
Disgrifiad o’r llun,

Y diweddar Emyr Glyn Williams, a record newydd un o'i hoff fandiau - Llwybr Llaethog - yr albwm olaf ar Ankstmusik

  • Cyhoeddwyd

Mae Ankstmusik wedi rhyddhau ei record olaf erioed diolch i waith gan un o ffigyrau amlycaf sin gerddorol Cymru cyn ei farwolaeth.

Roedd Emyr Glyn Williams wedi dechrau ar y dasg o ryddhau’r record dros flwyddyn yn ôl ond daeth yn amlwg oherwydd ei waeledd na fyddai’n gweld ffrwyth ei lafur.

Felly fe wnaeth cymaint o’r gwaith ag oedd o’n gallu cyn pasio’r awenau a rhoi cyfarwyddiadau manwl i sicrhau bod y record yn gweld golau dydd yn y ffordd roedd o’n ei ragweld.

Ac mae’n deilwng mai’r albwm olaf i gael ei rhyddhau gan y label eiconig ydi casgliad o ganeuon gan un o'i hoff grwpiau - a band o’r un dref ag o, Blaenau Ffestiniog - sef Llwybr Llaethog.

Tri Ankst yn ôl efo'i gilydd

Bu farw Emyr Glyn Williams, oedd yn awdur a gwneuthurwr ffilmiau ond yn bennaf yn cael ei gysylltu gyda cherddoriaeth, fis Ionawr eleni yn 57 oed.

Ers dyddiau cynnar recordiau Ankst, ac yn ddiweddarach gyda Ankstmusik, bu'n sbardun i nifer fawr o grwpiau gan roi'r cyfle cyntaf i artistiaid aeth ymlaen i fod yn enwau cyfarwydd yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Un fu’n gweithio gydag o am flynyddoedd yn Ankst oedd cyd-sylfaenydd y cwmni, Alun Llwyd, oedd wedi trafod yr albwm gyda’i ffrind.

“Fe soniodd wrtha i amdani rhai misoedd cyn iddo farw gan ddweud y byddai angen i mi o bosib gymryd gofal o ambell i beth ynghlwm â’r record," meddai. "Fe ysgrifennodd werthfawrogiad gwych o’r band ac fe gydweithion ni ar drafod rhai agweddau o ryddhau'r record cyn iddo farw.

“Yn arbennig hefyd fe gyfieithodd Gruffydd (Jones) y gwerthfawrogiad sef y tro cyntaf i’r tri ohonom weithio ar record ers degawdau a dyddiau Ankst - rhywbeth y gwirionodd Em arno.”

Ffynhonnell y llun, Barn
Disgrifiad o’r llun,

Emyr Glyn Williams, Gruffydd Jones ac Alun Llwyd yn nyddiau Ankst. Fe wnaeth y cwmni rannu'n ddwy yn 1997

Fe gafodd fersiwn feinyl o’r albwm ei rhyddhau ar 5 Ebrill, gyda'r fersiwn ddigidol allan ar 19 Ebrill.

Cyn ei farwolaeth roedd Emyr wedi gwneud yn siŵr bod popeth yn cael ei wneud yn unol â’i ddymuniad.

“Wrth i’r diwedd agosáu fe roddodd lythyr (hir a manwl yn null dihafal Em!) i mi gyda chyfarwyddiadau manwl am beth oedd angen ei wneud i archebu y feinyl, rhyddhau, stoc, ayyb ayyb,” meddai Alun.

“Fe dalodd am bopeth gan ddweud mai hwn oedd ei anrheg olaf i’r byd a gorchymyn bod hanner y stoc i fynd i Llwybr Llaethog werthu eu hunain a hanner i Fiona (ei wraig) a minnau eu rhoi yn anrheg i bawb oedd wedi bod yn rhan o siwrne Ankst / Ankstmusik.

“Dyna yw fy nhasg fawr nesaf. Fe gyrhaeddodd y recordiau rai wythnosau ar ôl yr angladd a’r teimlad mwyaf cymysglyd oedd (ar ôl checio bob popeth yn gywir!) gwybod y byddai Em wedi bod mor hapus a balch.”

Mae’r record yn gasgliad o sesiynau’r band i raglen BBC Radio 1 John Peel yn 1987 ac 1989.

Dros y blynyddoedd fe wnaeth nifer o fandiau Cymraeg recordio sesiynau ar gyfer rhaglen y darlledwr dylanwadol, gan gynnwys Datblygu, Gorky’s Zygotic Mynci a Melys.

Cyfnod cyffrous yr 1980au

Yn ôl Alun Llwyd mae rhyddhau’r casgliad o’r 1980au yn croniclo cyfnod pwysig yn hanes y band a pop Cymraeg, a hanes diwylliannol Cymru.

Meddai: “Roedd hi’n gyfnod o gerddoriaeth wleidyddol, arloesol lle gwelwyd cerddoriaeth Gymraeg yn teithio yn fyd-eang, diolch yn bennaf i waith Recordiau Anhrefn ac fe aeth artistiaid megis Llwybr Llaethog a Traddodiad Ofnus â hyn gam ymhellach drwy ryddhau recordiau ar labeli recordiau Ewropeaidd.

“Mae’r sesiynau yma yn adlewyrchu'r cyfnod hwnnw a hefyd yn rhoi ar gof a chadw dau sesiwn sydd yn nodedig am eu hegni, gwleidyddiaeth a’u cyffro.”

Ychwanegodd: “Mae’r geiriau ‘arloesol' a ‘gwleidyddol' yn mynnu dod i fy mhen wrth wrando ar yr albym a dyna yn union oedd gwaith Em, a dyna arwyddocâd ychwanegol y record i mi, sef ei bod yn ryw fath o dysteb i’r hyn a gyflawnodd Em yn ogystal â bod yn drysor arall o eiddo Llwybr Llaethog ac yn record y dylai pawb cael gafael arni.”

Ffynhonnell y llun, Huw Stephens
Disgrifiad o’r llun,

Alun Llwyd ac Emyr Glyn Williams

Ac mae’n amlwg o’r hyn wnaeth Emyr ei sgwennu ar gyfer yr albwm pa mor bwysig oedd o'n credu oedd y band i ddiwylliant Cymru:

“Nhw sy’n bennaf gyfrifol am chwistrellu rap, hip-hop, house, dub reggae a samplo cyt and paste gwleidyddol yn uniongyrchol i galon diwylliant cerddoriaeth Gymraeg fil o flynyddoedd oed. Mae’r traciau chwyldroadol cynnar hyn yn epistolau diwylliannol ac maen nhw mor gyfiawn ag y maen nhw’n rythmig.”

Ac wrth gloi ei erthygl, mae’n amlwg wedi gwerthfawrogi bod yn rhan o’r daith:

“Yn olaf, dwi’n caru LLWYBR LLAETHOG oherwydd fe gerddon ni’r llwybr llaethog gyda’n gilydd x os yw’r suon yn wir ac mai dyma fydd y peth olaf ar Ankst - yna ni allwn fod yn fwy balch.

“Y band gorau, y gerddoriaeth orau, ni biau’r anrhydedd. Xx Hwyl Fawr Ankst xxx”

Pynciau cysylltiedig