Timothy Lewis, un o brif artistiad gwydr lliw Cymru, wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae Timothy Lewis, un o brif artistiaid gwydr lliw Cymru, wedi marw yn 84 oed.
Yn wreiddiol o Bontarddulais, fe gafodd ei hyfforddi yng Ngholeg Celf Abertawe cyn mynd ymlaen i astudio yn y Coleg Celf Brenhinol yn Llundain.
Roedd wedi bod yn byw gyda chlefyd Alzheimer.
Un o'i weithiau mwyaf enwog yw'r ffenestr i gofio criw bad achub y Mwmbwls a fu farw mewn storm ar y môr yn 1947, sydd yn Eglwys yr Holl Saint, Ystumllwynarth.
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2024
Tra'n astudio yn Llundain bu'n dysgu gan Laurence Lee - un o feistri'r grefft ym Mhrydain.
Fe ddychwelodd Mr Lewis i Abertawe ym 1963 ac erbyn 1972 daeth yn bennaeth yr adran ffenestri lliw pensaernïol yng Ngholeg Celf Abertawe.
Dan ei arweiniad, denodd yr adran fyfyrwyr o bob cwr o'r byd ac roedd ganddi enw da yn rhyngwladol.
Roedd Mr Lewis yn rhagori ar arddull appliqué, gan ddefnyddio glud oedd yn eithaf newydd ar y pryd i roi'r darnau o wydr ar ben ei gilydd yn hytrach na defnyddio'r plwm du trwm traddodiadol i gadw'r darnau yn eu lle.
Ym 1992 sefydlodd stiwdio ei hun - Stiwdios Glantawe yn Nhreforys – lle cafodd y rhan fwyaf o'i waith ei greu.
Mae ei waith i'w weld mewn llawer o eglwysi, amlosgfa Llangrallo ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac adeiladau cyhoeddus eraill.
Roedd hefyd yn gyfrifol am greu'r ffenestr liw ar un o brif goridorau Ysgol y Berwyn, Y Bala.
Roedd y ffenestr yn darlunio'r pum plwyf yn nalgylch yr ysgol.
Ond cafodd y ffenestr ei symud i storfa yn Ysgol Godre'r Berwyn yn 2019, pan ailwampiwyd yr hen ysgol uwchradd.
Ym mis Awst y llynedd, dathlodd Timothy a'i wraig Janet 55 mlynedd o briodas.