Sextortion: Bachgen o'r gogledd yn rhannu ei brofiad

BachgenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu wedi rhybuddio y gallai bywydau ifanc gael eu colli o ganlyniad i'r nifer cynyddol o achosion sextortion

  • Cyhoeddwyd

Mae bachgen 15 oed o'r gogledd wedi dweud y bu'n poeni y byddai ei fywyd yn cael ei ddinistrio ar ôl cael ei dargedu gan sgam a elwir yn "sextortion".

Roedd Jack - nid ei enw iawn - yn credu ei fod yn sgwrsio gyda merch ar-lein, ac wedi iddi hi yrru lluniau ato, fe yrrodd luniau noeth o'i hun yn ôl ati.

Ond yna daeth i'r amlwg mai twyll oedd y cyfan, ac fe gafodd ei fygwth y byddai'r lluniau ohono'n cael eu cyhoeddi ar-lein os na fyddai'n rhoi arian i'r twyllwyr.

Mae'r heddlu wedi rhybuddio y gallai bywydau ifanc gael eu colli o ganlyniad i'r nifer cynyddol o achosion o'r fath sy'n dod i'r amlwg.

Yng ngogledd Cymru roedd 98% o gynnydd yn nifer yr achosion a gafodd eu hadrodd i'r heddlu yn y flwyddyn ddiwethaf, gyda 349 achos rhwng Medi 2022 a 2023.

Gyda hynny'n agos at un y dydd, dywedodd David Williams o Heddlu'r Gogledd bod y ffigyrau yn "frawychus".

Beth ydy sextortion?

Fel arfer, mae dioddefwyr yn cael eu perswadio i yrru lluniau neu fideos anweddus at rywun maen nhw wedi'i gyfarfod ar-lein.

Ond maen nhw wedyn yn cael gwybod y bydd y lluniau'n cael eu gwneud yn gyhoeddus oni bai eu bod yn talu'r twyllwyr.

Gall unrhyw un gael eu targedu gan sgam o'r fath, ond mae bechgyn yn eu harddegau yn aml yn darged.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bechgyn yn eu harddegau yn aml sy'n darged i dwyll sextortion

"O'n i just yn meddwl bo' fi'n siarad efo merch ar-lein," meddai Jack.

"Do'n i ddim yn sylwi be' o'dd yn digwydd cyn iddi fynd yn rhy hwyr.

"O'dd gen i ofn - meddwl 'mod i nid yn unig yn difetha fy mywyd rŵan, ond yn y dyfodol hefyd."

'Mor bwysig eu cefnogi nhw'

Dywedodd mam Jack, Katie - nid ei henw iawn - ei bod yn ddiolchgar bod ei mab wedi gallu dweud wrthi beth oedd wedi digwydd.

"Dwi wedi cael sgyrsiau efo fo am flynyddoedd am ddiogelwch ar-lein. O'n i'n cymryd bod hynny i gyd wedi mynd mewn," meddai.

"Mae hi mor bwysig bo' chi yna i'w cefnogi nhw. Yn y pendraw, dioddefwr trosedd ydyn nhw."

Dywedodd Katie fod Jack wedi awgrymu y byddai'n anafu ei hun pe bai'r lluniau'n cael eu cyhoeddi.

"Dwi'n gw'bod bo' bechgyn yn gallu bod 'chydig yn ddramatig ar adega', ond roeddech chi'n gallu clywed yn ei lais ei fod o ddifri'.

"Os na fyddai o wedi gallu troi at rywun, dwi'n meddwl y gallai hynny fod wedi bod yn realiti iddo fo a phlant eraill."

Disgrifiad o’r llun,

Mae David Williams poeni nad yw'r nifer cynyddol o achosion yn adlewyrchu gwir faint y broblem chwaith

Dywedodd David Williams o Heddlu'r Gogledd, sydd wedi bod yn plismona am 44 mlynedd, fod achosion blacmel fel hyn yn arfer bod yn drosedd y byddai'n gweld "efallai dwywaith y flwyddyn".

Ond mae'n poeni nad yw'r nifer cynyddol o achosion yn adlewyrchu gwir faint y broblem chwaith, ac y gallai nifer fod yn dioddef yn dawel.

"A bod yn onest, 'da chi'n gweld bo' ni am golli rhywun - does 'na ddim amheuaeth am y peth," meddai.

Mae llinell gymorth y Revenge Porn Helpline, dolen allanol wedi cyhoeddi cyngor ar beth i'w wneud os ydych chi neu rywun rydych chi'n eu hadnabod wedi cael eu targedu gan sgam sextortion.

Mae mwy ar y stori yma ar raglen BBC Wales Live, sydd ar gael ar iPlayer.

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.