Pilsen newydd yn 'rhoi gobaith' i'r rhai ag endometriosis

Mae Cerian Rees, sy'n byw ag endometriosis, yn croesawu'r newyddion gan ddweud fod y bilsen yn "cynnig gobaith"
- Cyhoeddwyd
Mae rhai sy'n byw â chyflwr endometriosis yn croesawu'r newyddion bod pilsen ddyddiol er mwyn trin symptomau'r cyflwr wedi ei chymeradwyo.
Dim ond ar gyfer y rheiny sydd wedi sydd wedi trio'r holl opsiynau arall mae'r driniaeth newydd.
Mae endometriosis yn gyflwr sy'n effeithio ar 1.5 miliwn o fenywod yn y DU.
Mae'r cyflwr yn achosi poen a blinder difrifol o ganlyniad i feinwe yn debyg i leinin y groth mewn mannau arall o'r corff.
Mae'r bilsen newydd wedi ei chymeradwyo gan aseswyr cyffuriau y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE).
Yn wahanol i feddyginiaethau sydd eisoes yn bodoli, bydd modd cymryd y cyffur o adref.
Mae elusen Endometriosis UK yn dweud bod y bilsen yn rhoi mwy o ddewis i bobl, er mai ond nifer fach o bobl y bydd yn helpu.
Ar gyfer pobl sydd wedi trio triniaethau eraill
Cost y driniaeth newydd yw £72 ar gyfer cyflenwad 28 diwrnod, meddai NICE.
Mae'r bilsen yn gweithio drwy rwystro hormonau penodol sy'n cyfrannu at y cyflwr, wrth gynnig hormonau eraill sydd eu hangen.
Bydd y bilsen ond ar gael ar y GIG ar gyfer pobl sydd eisoes wedi trio'r holl driniaethau meddygol arall, sef tua 1,000 o fenywod y flwyddyn yn ôl NICE.
Mae hyn yn cynnwys trio triniaethau fel y bilsen hormonau, a dulliau atal cenhedlu yn y groth.

Bu'n rhaid i Cerian fynd yn breifat er mwyn cael llawdriniaeth endometriosis
Un sy'n croesawu'r cyhoeddiad am y bilsen newydd yw Cerian Rees o Gastellnewydd Emlyn.
A hithau wedi profi symptomau endometriosis ers ei bod yn 15 oed, fe gafodd hi ddiagnosis o'r cyflwr pan oedd yn 23.
Dywedodd iddi orfod mynd yn breifat "achos o'n i'n teimlo oedd dim pwynt i fi fynd i'r doctor achos doedd dim byd yn cael ei wneud".
Fe gafodd hi lawdriniaeth yng Nghaerdydd yn ddiweddar er mwyn cael gwared o'r meinwe ychwanegol "ar ôl blynydde o fod mewn poen".
'Cam ymlaen'
Dywedodd: "Fel rhywun sydd gydag endometriosis, ma' gweld bod pilsen newydd yn rhoi lot o obaith i ni sydd gyda fe."
Dywedodd bod cyflwyno'r bilsen newydd yn "teimlo fel cam ymlaen yn enwedig yng Nghymru, fod rhywbeth yn cael ei wneud".
Er bod Cerian yn defnyddio'r coil dywedodd "os ar unrhyw bwynt mae'n dechrau stopio gweithio, bydden ni'n sicr yn meddwl cael y bilsen newydd 'ma".
- Cyhoeddwyd25 Chwefror
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2024
Dywed Helen Knight, cyfarwyddwr gwerthuso meddyginiaethau NICE, fod y datblygiad hwn yn "gam posib o sut yr ydym yn trin endometriosis, gan roi rheolaeth yn ôl yn nwylo'r cleifion, wrth sicrhau gwerth i drethdalwyr".
Dywedodd y gallai'r driniaeth gael ei stopio, a'i gychwyn, yn haws nag unrhyw driniaeth arall, sy'n bwysig i'r rheiny sy'n gobeithio cael plant ac i reoli sgil-effeithiau.
Gallai'r bilsen leihau'r pwysau ar y GIG hefyd, meddai.
Fe wnaeth NICE wrthod y cyffur i gychwyn, ond fe wnaeth y manwerthwyr gyflwyno tystiolaeth newydd oedd yn dangos effeithiolrwydd y bilsen a'i werth am arian.