Lluniau: Yr aurora borealis yn goleuo'r awyr ar ddiwrnod cyntaf 2025
1 o 7
Diwedd yr oriau luniau
- Cyhoeddwyd
Cafodd pobl ar hyd a lled Cymru wledd ar Ddydd Calan wrth i storm solar daro'r Ddaear a chreu'r arddangosfa gref gyntaf o'r aurora borealis yn 2025.
Roedd y goleuadau - sydd hefyd yn cael eu galw'n Gwawl y Gogledd, Goleuadau'r Gogledd, Ffagl yr Arth neu Lewyrch yr Arth - i'w gweld o Sir Ddinbych i Hwlffordd.
Mae goleuadau porffor fel rhai yn y lluniau uchod yn llai cyffredin nag aurora gwyrdd neu goch ac yn cael eu hachosi gan wynt solar cryf yn peledu atomau nitrogen yn yr atmosffer.
2024 oedd un o'r blynyddoedd gorau erioed i'r ffenomen yng Nghymru wrth i'r cylch solar 11 mlynedd gyrraedd ei anterth.
Mae disgwyl iddo bylu rhywfaint eleni cyn codi eto yng nghanol y 2030au.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd11 Mai 2024
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2024