Uchelgais CPD Wrecsam i ddatblygu sêr eu hunain yn 'gyffrous'

Gus WilliamsFfynhonnell y llun, CPD Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Gus Williams ydy'r rheolwr newydd ar academi Clwb Pêl-droed Wrecsam

  • Cyhoeddwyd

Mae uchelgais perchnogion clwb pêl-droed Wrecsam, y sêr o Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney, i weld y clwb yn datblygu eu sêr eu hunain yn glir i'w weld.

Cafodd Gus Williams ei benodi'n ddiweddar yn rheolwr academi'r clwb o'r Bencampwriaeth, ac mae'n dweud bod y perchnogion yn barod wedi creu tipyn o argraff arno gyda'u hymrwymiad i ddatblygu talent iau.

"Roedd y neges yn gyson yn y broses gyfweld, mai'r academi oedd y prif ffocws gan Rob a Ryan y tu allan i weithredu tuag at y Premier League," meddai.

"Ond pan 'da chi'n clywed hynny, 'da chi'n gwybod bod o'n dod o'r galon.

"'Da chi'n gwybod dros y pedair mlynedd ddiwethaf be' maen nhw wedi gwneud i'r gymuned, be' maen nhw wedi gwneud i'r clwb.

"Y ffordd maen nhw'n siarad, mae o i gyd i wneud hefo datblygu a tyfu nid yn unig fel clwb ond Wrecsam fel cymuned.

"Mae'n dod o'r galon ac i mi mae hynna'n bwysig, a dyna'r peth pwysig am redeg yr academi ac i fod yn chwaraewr ac hyfforddwr - bod o'n dod o'r galon."

'Dyfodol yn edrych yn ddisglair'

Yn hanu o Ynys Môn, mae Williams, 54, wedi chwarae rôl amlwg drwy recriwtio sêr y dyfodol i Gymru.

Yn ei swydd flaenorol fel Rheolwr Llwybr Talent Cenedlaethol gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, roedd gofyn iddo ehangu cronfa dalent y wlad, a welodd chwaraewyr fel Ethan Ampadu, Daniel James a David Brooks, ymhlith eraill, yn cael eu datblygu.

Buodd hefyd yn gweithio fel rheolwr academi Wrecsam mewn rôl dros dro pan roedd Steve Cooper – aeth ymlaen i reoli Abertawe, Nottingham Forest a Chaerlŷr – yn bennaeth datblygiad ieuenctid yno.

"Dwi'n gyffrous ofnadwy," meddai Williams wrth iddo edrych ymlaen at y gwaith sydd o'i flaen gyda chlwb y Cae Ras.

"Be' dwi'n disgwyl o'r rôl ydy sicrhau bod y dyfodol yn edrych yn ddisglair i glwb pêl-droed Wrecsam ac unrhyw chwaraewr ac aelod o staff sy'n dod mewn, a bod nhw yn tyfu a datblygu ar hyd y daith.

"Dyna'r prif amcan i mi o fewn y rôl."

Cae RasFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Williams wedi cyfnewid ei swydd gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru er mwyn gweithio i glwb pêl droed hynaf Cymru – Wrecsam.

"Dyna un o atyniadau'r swydd – cydnabod bod 'na dalent yng ngogledd Cymru a talent sydd yn haeddiannol i fod ar y lefel yma," meddai.

"Mae'n bwysig ein bod ni yn sicrhau bod y strwythur recriwtio yn un cryf ac ein bod ni yn sicrhau bod pob un ardal yng ngogledd Cymru ac yn y canolbarth yn cael eu edrych dros gan staff academi Wrecsam – y scouts, yr hyfforddwyr, ac ein bod ni'n dibynnu ar gysylltiadau ni i gyd, nid jest un person.

"A defnyddio'r cysylltiadau a'r rhwydwaith sydd gennym ni i sicrhau bod enwau chwaraewyr yn dod atom ni yn gyntaf. 'Da ni eisiau bod y dewis cyntaf.

"Mae pob un person pêl-droed yng ngogledd Cymru yn 'nabod rhywun sydd wedi bod yng nghlwb pêl-droed Wrecsam neu wedi chwarae i glwb pêl-droed Wrecsam.

"'Da ni eisiau cael y neges allan - mae Wrecsam yn glwb sydd yn bodoli i sicrhau bod talent gorau gogledd Cymru yn dod yma cyn mynd dros y ffin."

Max CleworthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe chwaraeodd Max Cleworth i brif dîm Wrecsam am y tro cyntaf yn erbyn Solihull Moors yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr yn 2021

Mae Max Cleworth a Harry Ashfield yn ddau aelod o garfan bresennol y tîm cyntaf sydd wedi dod drwy'r academi, a'r gobaith yw y bydd rhagor yn eu dilyn.

"Dyna'r prif amcan i'r academi ac i'r clwb," ychwanegodd Gus Williams

"Pan ryda' chi'n rhedeg academi, hwnna 'di'r prif un – cael nhw i mewn i garfan y tîm cyntaf.

"Yn ail ydy sicrhau bod ganddyn nhw glwb pêl-droed yn rhywle arall, ac yn drydydd, os ydyn nhw eisiau gwneud rhywbeth gwahanol, ein bod ni'n gallu rhoi y cyfle yna iddyn nhw hefyd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.