'Pwysig bod prifwyl yr Urdd yn mynd i ardaloedd lle mae llai o Gymraeg'

Mae'n bwysig bod yr Eisteddfod yr Urdd yn denu siaradwyr newydd yn yr ardal, yn ôl Jeremy Miles
- Cyhoeddwyd
Mae'n bwysig bod Eisteddfod yr Urdd yn teithio i ardaloedd ble mae llai o siaradwyr Cymraeg, yn ôl yr ysgrifennydd iechyd a Llywydd yr Ŵyl eleni, Jeremy Miles.
A hithau'n ddiwrnod cyntaf Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, mae'r ŵyl wedi gweld 42% o gynnydd ers y llynedd yn nifer y dysgwyr sydd wedi cofrestru i gystadlu.
Gyda'r mwyafrif o'r rheiny'n dod o ranbarth Gorllewin Morgannwg, mae 37 o ysgolion yr ardal wedi cofrestru i gystadlu am y tro cyntaf.
Yn ôl Mr Miles mae'r ŵyl yn gyfle i bobl "ailgydio" yn y Gymraeg, mewn sir sydd wedi gweld gostyngiad yn nifer y siaradwyr.
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Mae sir Castell-nedd Port Talbot wedi gweld gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg dros y degawd diwethaf.
Yn ôl y cyfrifiad, aeth canran y siaradwyr Cymraeg o 15.3% yn 2011, i 13.5% yn 2021.
Mae'n bwysig bod yr Eisteddfod yr Urdd yn denu siaradwyr newydd yn yr ardal, yn ôl Mr Miles.
"Mae gwreiddiau'r Gymraeg yma'n rhai dwfn ac efallai ni ddim yn clywed gymaint o Gymraeg ar y stryd fawr â beth fydden ni wedi yn y gorffennol," meddai.
"Dyna pam mae'n bwysig bod yr Eisteddfod yn dod i gymunedau fel y gymuned hon.
"Mae'n rhoi cyfle i bobl ailgydio yn y Gymraeg neu brofi'r Gymraeg am y tro cyntaf."
'Profiad newydd i'r plant'
Un ysgol sy'n cystadlu am y tro cyntaf yw Ysgol Gatholig Dewi Sant yn ardal West Cross ger y Mwmbwls.
Mae disgyblion yr ysgol hon yn dod o 23 o wledydd gwahanol, a 70% ohonynt yn defnyddio Saesneg fel ail iaith.
Carys Mugford sy'n gyfrifol am gydlynu'r Gymraeg yn yr ysgol, a hithau wedi dysgu'r iaith ei hun dros y flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd ei bod yn bwysig i'r plant gael blas ar ddiwylliant Cymreig.
"Bydd hi'n brofiad newydd i'r plant. Maen nhw'n gyffrous ond tipyn bach yn nerfus!" meddai.
"Ni'n ysgol lle mae llawer o diversity. Mae'n bwysig bod plant sy'n dod o wledydd gwahanol yn gallu gweld eu hunan yn yr Eisteddfod."

Dywedodd Carys Mugford mai dysgu Cymraeg yw'r "peth gorau dwi erioed wedi gwneud"
Mae'r ysgol wedi gosod Eisteddfod yr Urdd fel eu thema am y tymor, a'r ysgol yn dysgu am elfennau gwahanol yr ŵyl.
"Rydym ni wedi bod i Barc Margam, rydym ni wedi dysgu am ba fath o gystadlaethau sydd yn yr Urdd, cwrdd â Mr Urdd!" meddai Ms Mugford.
"Ni wedi dysgu pam ydyn ni'n dathlu'r Eisteddfod a pham mae'n bwysig i ddysgu Cymraeg."
Mae Ms Mugford wedi bod yn dysgu Cymraeg dros y flwyddyn ddiwethaf drwy gwrs Cymraeg Mewn Blwyddyn.
Dywedodd mai dyma'r "peth gorau dwi erioed wedi gwneud".
"Does neb yn yr ysgol sy'n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Roedd hi'n bwysig i godi proffil y Gymraeg ac i roi hyder i staff a'r plant," meddai.

Mae Emanuel, Amelie ac Olanna wedi bod yn dysgu am Eisteddfod yr Urdd trwy'r tymor
I'r plant yn Ysgol Gatholig Dewi Sant mae'r profiad o gystadlu ar lwyfan cenedlaethol yn un "gwbl newydd", yn ôl Emanuel sy'n 10 oed.
"Bydd pobl yn gweld ein dawns ym Mharc Margam, bydden ni ar lwyfan enfawr a bydd e'n rili dda," meddai.
Mae Amelie, 10, ac Olanna, 9, yn edrych ymlaen at glywed pobl yn siarad Cymraeg ar y maes.
Meddai Amelie: "Dwi mor gyffrous achos ni'n siarad Saesneg yn yr ysgol ond maen nhw [athrawon] eisiau i ni ddysgu Cymraeg.
"Felly bydd e'n gyffrous iawn pryd ni'n clywed pobl yn siarad Cymraeg o'n cwmpas ni. Bydd e'n rili cŵl."