Dyfodol ansicr i wasanaethau cefnogi ysgolion

  • Cyhoeddwyd
athrawon
Disgrifiad o’r llun,

Mae adroddiad i'r gweinidog addysg wedi datgan pryderon gan awdurdodau lleol a phenaethiaid ysgol am werth gwasanaethau rhanbarthol i gefnogi ysgolion

Mae'r BBC ar ddeall bod ansicrwydd am ddyfodol gwasanaethau rhanbarthol i gefnogi ysgolion.

Mae pump gwasanaeth o'r fath ar draws Cymru sydd yn gweithio ar lefel rhanbarthol gydag awdurdodau lleol i ddarparu cymorth ac i wella safonau addysgol.

Ond wrth i Lywodraeth Cymru ystyried dyfodol cyrff o'r fath a modelau amgen o ddarparu cymorth, mae adroddiad i'r gweinidog addysg wedi datgan pryderon gan awdurdodau lleol a phenaethiaid ysgol sydd wedi cwestiynu eu gwerth.

Ymysg y sylwadau beirniadol oedd bod "llawer o'r ceisiadau gan yr haen ganol yn ddiangen, yn wrthgynhyrchiol ac yn ychwanegu biwrocratiaeth".

Mae'r BBC wedi clywed gan staff sy'n gweithio i un gwasanaeth yn y gogledd fod pryder am swyddi.

Dywed Llywodraeth Cymru na fydd unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud tan bydd ail gam yr adolygiad wedi ei gwblhau ym mis Awst 2024.

Bydd unrhyw drefniadau gweithio rhanbarthol presennol yn parhau yn ystod y cyfnod hwn.

'Disgwyl newid sylweddol'

Fe sefydlwyd GwE - Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Gogledd Cymru - yn 2013.

Cyngor Gwynedd yw cyflogwr cyfreithiol y corff ar ran y chwe awdurdod, ac mae gweithwyr GwE yn dod o dan delerau cyflogaeth y cyngor o ddydd i ddydd.

Yn ôl adroddiad archwilio 2022/23 roedd 39 aelod o staff GwE yn ennill dros £60,000 y flwyddyn, gyda'r corff wedi derbyn cyfraniadau o dros £4m gan gynghorau'r gogledd yn yr un flwyddyn.

Ffynhonnell y llun, GwE

Mae ebost i staff gan Fwrdd Rheoli GwE, sydd wedi ei weld gan BBC Cymru, yn nodi bod disgwyl "newid sylweddol yn y ffordd y mae trefniadau gwella ysgolion yn debygol o weithredu yn y dyfodol".

Gyda disgwyl "newidiadau i'r cyllid grant", dywed y llythyr fod "diffyg eglurder" am sut bydd y newidiadau yn effeithio ar y gwaith gwella a bod "angen gweithio drwy hyn".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y gweinidog addysg wedi darparu diweddariad ar y broses adolygu barhaus ym mis Ionawr "ac nad oes unrhyw newid wedi bod o'n safbwynt ni".

'Pryderon difrifol am eu gwerth'

Roedd adroddiad a gomisiynwyd y llynedd gan y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, yn edrych ar y pum consortiwm neu bartneriaeth rhanbarthol presennol mewn ymgais i "adolygu eu rolau a'u cyfrifoldebau".

Y pum consortiwm yw:

  • Consortiwm Canolbarth y De (CCD): Yn gwasanaethu Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg;

  • Y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA): Yn gwasanaethu Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen;

  • Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol Gogledd Cymru (GwE): Yn gwasanaethu Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam;

  • Partneriaeth: Yn gwasanaethu Sir Gâr, Sir Benfro ac Abertawe;

  • Partneriaeth Canolbarth Cymru (PACC): Yn gwasanaethu Powys a Cheredigion.

Yn ei lythyr dywedodd Dylan E Jones, arweinydd y tîm adolygu, fod "ysgolion yn wynebu heriau sylweddol ac mae'n hanfodol bod y system gwella ysgolion yng Nghymru yn darparu'r seilwaith gorau a mwyaf cost-effeithiol".

Nodwyd mai'r pum consortia rhanbarthol "oedd fwyaf cadarnhaol ynghylch sut yr oedd y system bresennol yn gweithio".

Roedd y cyrff yn cyfeirio at "eu heffaith o ran gwella canlyniadau Estyn, eu cefnogaeth i gydweithio rhwng ysgolion a hyd a lled y cymorth y gallent ei gynnig fel buddion allweddol gweithio rhanbarthol".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dylan E Jones wedi arwain arolwg ar ran Llywodraeth Cymru

Ond nodwyd nad oedd nifer o benaethiaid ysgol yn gytûn â'r farn honno, ac bod "pryderon difrifol" am y "gwerth a ychwanegir" ganddynt.

Roedd "rhwng 25% a 45% o arweinwyr ysgolion yng Nghymru", wedi ymateb i'r broses ymgysylltu, gyda'r tîm adolygu "wedi'u taro gan gryfder a chysondeb y safbwyntiau ar draws y sector ysgolion".

Ychwanegon nhw fod "llawer o bryder ynghylch y diwylliant o 'gwneud i' yn hytrach na 'gwneud gyda'", gyda phryderon hefyd am "yr amrywiaeth a'r diffyg cysondeb yn ansawdd y cymorth gan y consortia".

Roedd "lleiafrif yr ymatebwyr", serch hynny, wedi ymateb gyda "sylwadau cadarnhaol ar feysydd cymorth gan y consortia rhanbarthol".

'Symud i ffwrdd o'r trefniadau presennol'

Yn ei lythyr i'r gweinidog aeth Dylan E Jones ymlaen i ddweud: "Nododd yr arweinwyr ddymuniad i weld mwy o adnoddau'n cael eu dosbarthu'n uniongyrchol o fewn cyd-destun lleol, ac mewn modd amserol, i alluogi cydweithio sydd â ffocws mwy lleol.

"Roedd mwyafrif clir o'r awdurdodau o blaid archwilio symud i ffwrdd o'r trefniadau presennol ar gyfer cymorth rhanbarthol, neu maent eisoes wedi symud i ffwrdd ohonynt, i bartneriaethau rhwng awdurdodau lleol sy'n caniatáu dulliau mwy lleol."

Ymysg y tasgau i ail ran yr arolwg bydd ystyried y ffordd orau o gefnogi'r cydweithio rhwng ysgolion ar lefel leol.

Mae'r pum consortiwm wedi cael cais i ymateb ond mae Consortiwm Canolbarth y De wedi penderfynu peidio â gwneud sylw.

Fe gyfeiriodd Cyngor Gwynedd unrhyw ymholiadau at Lywodraeth Cymru.

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mae'r Gweinidog Addysg wedi darparu diweddariad ar y broses adolygu barhaus ym mis Ionawr "ac nid oes unrhyw newid wedi bod o'n safbwynt ni".

Pynciau Cysylltiedig