Dynes o Gaernarfon yn cyfaddef ymosod ar yr heddlu
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Gaernarfon wedi pledio'n euog i ymosod ar weithwyr yr heddlu yn dilyn digwyddiad yn y dref y llynedd.
Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth, fe blediodd Melanie Roberts, 46, yn euog i bum cyhuddiad.
Roedd y rhain yn cynnwys dau o ymosod ar ddau gwnstabl, un cyhuddiad o rwystro cwnstabl rhag gallu gwneud ei waith, cyhuddiad arall o ddefnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol ac un cyhuddiad arall o ymosod ar ddyn.
Roedd yn ymwneud â digwyddiad yn Galeri ar 10 Tachwedd.
Cafodd Melanie Roberts ddedfryd o orchymyn cymunedol i bara am 12 mis.
Ym mis Mehefin y llynedd, bu farw ei mab, Joshua Lloyd Roberts, yn 19 oed wrth gerdded adref o'i waith yng Nghaeathro ger Caernarfon.
Pan gysylltodd BBC Cymru â Heddlu Gogledd Cymru ym mis Chwefror eleni, dywedodd y llu fod yr ymchwiliad i'r farwolaeth bellach wedi dod i ben.