Cannoedd yn mynychu angladd Joshua Lloyd Roberts

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Daeth cannoedd o bobl i gofio Josh Roberts yng Nghaernarfon ddydd Gwener

Mae cannoedd wedi mynychu angladd dyn 19 oed o Gaernarfon a fu farw mewn gwrthdrawiad yn gynharach yn y mis.

Yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, roedd Joshua Lloyd Roberts hefyd yn bêl-droediwr dawnus.

Gyda'r hers yn cychwyn ei daith o'r Oval, sef cae pêl-droed Caernarfon, roedd mynychwyr yn cael eu hannog i wisgo crysau pêl-droed.

Cafodd y gwasanaeth ei gynnal yn Eglwys Llanbeblig y dref.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cannoedd wedi troi allan ar gyfer angladd Joshua Lloyd Roberts yng Nghaernarfon

Bu farw Joshua Lloyd Roberts, 19, yn dilyn gwrthdrawiad ger Caeathro, Gwynedd ar 2 Mehefin.

Mae dyn 32 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal, ac wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Joshua Lloyd Roberts yn y gwrthdrawiad ger Caeathro

Yn ôl ei deulu roedd Josh wastad â "gwên ar ei wyneb"

Yn yr wythnos wedi ei farwolaeth roedd dros 600 o bobl yn bresennol mewn gêm bêl-droed yn Bontnewydd er cof iddo, gyda thudalen casglu arian hefyd wedi hel dros £20,000 i'w deulu.

Cafodd y cwest i'w farwolaeth ei ohirio wrth i ymchwiliad Heddlu'r Gogledd barhau.

Pynciau cysylltiedig