'Dim angen am ymchwiliad ffurfiol' i Neil Foden
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-gyfarwyddwr addysg Gwynedd wedi dweud y cafodd wybod "nad oedd angen cynnal ymchwiliad ffurfiol" ar ôl i bryderon gael eu codi ynglŷn ag ymddygiad Neil Foden.
Dywedodd Garem Jackson, adawodd y rôl ym mis Medi'r llynedd am resymau personol, fod athro wedi awgrymu fod Mr Foden yn creu risg o fod yn destun cyhuddiadau oherwydd ei berthynas â rhai merched.
Roedd Neil Foden yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes.
Mae'n gwadu 20 o gyhuddiadau sy'n ymwneud â phum plentyn.
Mae'r honiadau'n dyddio o Ionawr 2019 hyd at Fedi 2023 ac yn cynnwys 13 o gyhuddiadau o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn.
Ar seithfed diwrnod yr achos yn erbyn Mr Foden, dywedodd Mr Jackson ei fod wedi derbyn e-bost gan athro yn gofyn i gael trafod mater ar frys, a bod y ddau wedi cwrdd yn fuan wedi hynny yn swyddfeydd y cyngor sir.
Yn ôl Mr Jackson, dywedodd yr athro dan sylw ei fod yn credu fod Mr Foden yn rhoi ei hun mewn sefyllfa ble y gallai wynebu cyhuddiadau difrifol oherwydd ei berthynas agos â rhai merched.
"Roedd yn poeni fod Mr Foden yn cwrdd â nhw [y merched] ar ei ben ei hun," meddai Mr Jackson.
"Doedd o ddim yn credu bod unrhyw beth amhriodol yn digwydd, ond ei fod yn creu risg o fod yn destun cyhuddiadau difrifol."
'Dim tystiolaeth o ymddygiad amhriodol'
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fod Mr Jackson wedi cysylltu gydag uwch swyddog lles Gwynedd ac wedi rhannu manylion yr achos.
Cafodd wybod wedyn, meddai, nad oedd angen cynnal ymchwiliad ffurfiol gan nad oedd unrhyw dystiolaeth o unrhyw beth amhriodol, a'r ffaith nad oedd unrhyw gyhuddiad wedi cael ei wneud.
Er hynny, fe gafodd Mr Jackson gyngor i gael "sgwrs ddifrifol" gyda Mr Foden.
"Fe wnes i ffonio Mr Foden y diwrnod hwnnw neu'r diwrnod wedyn," meddai, gan ychwanegu ei fod wedi trafod y pryderon, ac wedi dweud pwy oedd yr athro a rannodd y pryderon hynny.
"Nes i ei atgoffa o'r angen i gadw pellter addas, a bod angen goruchwyliaeth gyson ac ati," meddai Mr Jackson.
Wrth ddisgrifio ymateb Mr Foden, dywedodd Mr Jackson: "Fe wnaeth o wrando, ac fe fynnodd nad oedd un rhywbeth amhriodol wedi digwydd.
"Dywedodd fod yr athro yma, yn ei farn o, yn bod yn or-ddramatig ac yn gwneud mwy o'r mater nag yr oedd angen."
Gofynnwyd i Mr Jackson gan yr erlyniad a oedd wedi trafod ymhellach gyda'r athro a oedd wedi rhannu'r pryderon yn dilyn ei sgwrs gyda Mr Foden.
Dywedodd i ddechrau ei fod wedi gwneud hynny, cyn iddo ddweud nad oedd yn gallu cofio.
- Cyhoeddwyd29 Ebrill
- Cyhoeddwyd26 Ebrill
- Cyhoeddwyd25 Ebrill
Gofynnodd y barnwr Rhys Rowlands oes oedd Mr Jackson yn ymwybodol o'r ddeddfwriaeth yn ymwneud â chyfrinachedd, neu chwythu'r chwiban, ac yn enwedig mewn achosion lle mae rhywun yn rhannu gwybodaeth yn gyfrinachol.
"Rydw i'n ymwybodol o'r ddeddfwriaeth," meddai, gan ychwanegu ei fod yn credu ei fod wedi trafod hynny gyda'r athro.
"Nid dyna yw'r dystiolaeth yr ydyn ni wedi ei glywed," meddai'r barnwr.
"Meddyliwch yn ofalus... Un funud ry'ch chi'n dweud y bydden nhw'n ymwybodol, wedyn dy'ch chi ddim yn cofio. Beth yw'r gwir Mr Jackson?"
"Dydw i ddim yn gallu cofio'r hyn a wnes i," meddai.
Ychwanegodd nad oedd unrhyw gofnod ysgrifenedig o'r trafodaethau hyn, heblaw am yr e-bost gwreiddiol a gafodd ei yrru iddo gan yr athro.
Wrth gael ei groesholi, gofynnwyd i Mr Jackson a oedd wedi gofyn i Neil Foden gymryd “cyfrifoldebau ychwanegol" mewn ysgol arall tra’r oedd yn brifathro yn Ysgol Friars, sef Ysgol Dyffryn Nantlle yng Ngwynedd.
Atebodd ei fod wedi gwneud hynny, am “tua dau dymor ysgol”.
Mr Foden yn 'rhy agos'
Yn ddiweddarach ddydd Mawrth fe welodd y rheithgor dystiolaeth gan ferch a ddywedodd y byddai Mr Foden yn ei chyffwrdd mewn ffodd oedd "yn rhy agos".
Mewn cyfweliad gyda'r heddlu dywedodd y ferch, sy'n cael ei hadnabod yn yr achos fel Plentyn B, y byddai'n "gafael yn fy nwylo ar sawl achlysur".
Dywedodd, ar un achlysur, fod Mr Foden wedi gafael yn ei llaw am ddau i bum munud, pan yr oedd yn credu ei bod hi ar fin crio.
Ychwanegodd fod ei law ar ben ei chlun, a'i fod yn teimlo'n "rhy agos", a bod y digwyddiad wedi gwneud iddi deimlo'n "anghyfforddus dros ben".
Dywedodd fod Mr Foden wedi ei chofleidio ar achlysuron eraill, ac ar un achlysur fod "blaen ei gorff i gyd yn cyffwrdd fy nghorff i".
"Roedd yn teimlo'n od," meddai, gan ychwanegu ei bod hi "wedi tynnu i ffwrdd".
Bydd Plentyn B yn cael ei chroesholi gan yr amddiffyniad ddydd Mercher.
Mae'r achos yn parhau.
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.