Dyn wedi marw ar ôl gyrru'n fwriadol benben â bws - cwest

Yn wreiddiol o Dunstable yn Lloegr, roedd Mathew Chapman wedi bod yn byw yn Sir Benfro ers rhai blynyddoedd
- Cyhoeddwyd
Bu farw dyn yn Sir Benfro ar ôl gyrru ei gar yn fwriadol i gyfeiriad bws oedd yn teithio ar ochr arall y ffordd, mae cwest wedi casglu.
Roedd Mathew Chapman, 32, yn gyrru Mitsubishi du pan fu mewn gwrthdrawiad â'r bws, ar ôl iddo yrru i'r lôn gyferbyn ac i wyneb traffig ar yr A477 ger Pont Cleddau ar 5 Medi 2023.
Clywodd y cwest fod Mr Chapman wedi marw yn y fan a'r lle o ganlyniad i hunanladdiad, ar ôl dioddef o nifer o "anafiadau trawmatig" mewn damwain ffordd.
Fe wnaeth y crwner Paul Bennett ymestyn ei gydymdeimladau â theulu a dyweddi Mr Chapman, oedd yn bresennol yn y cwest.
Nifer wedi'u hanafu ar y bws
Clywodd y cwest fod gyrrwr y bws wedi'i gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Treforys yn Abertawe "mewn cyflwr difrifol" wedi'r digwyddiad, a bod nifer o'r 41 o deithwyr ar y bws - oedd ar wyliau o Cumbria - wedi dioddef anafiadau.
Yn wreiddiol o Dunstable, roedd Mr Chapman wedi bod yn byw yn Sir Benfro ers rhai blynyddoedd gyda'i ddyweddi Catrin Jones.
Clywodd y cwest gan Ms Jones, a ddisgrifiodd eu perthynas fel "stori dylwyth teg".
Ond yn yr wythnosau cyn y digwyddiad, roedd y cwpl wedi "anghytuno sawl tro", ac roedden nhw wedi trefnu sesiwn gwnsela i siarad am eu problemau ar 6 Medi - y diwrnod ar ôl y gwrthdrawiad.
Dywedodd Catrin Jones, sy'n cael ei hadnabod fel Katie, wrth y cwest yn Neuadd y Sir yn Hwlffordd bod y ffordd roedd y cwpl yn "ddelio â dadleuon yn wahanol iawn", a'u bod eisiau i'r cwnselydd eu helpu i "gyfathrebu'n well".

Dywedodd tyst bod sŵn y gwrthdrawiad fel "ffrwydrad"
Y diwrnod cyn y gwrthdrawiad, dywedodd Ms Jones ei bod wedi galw 111 i ofyn am gyngor iechyd meddwl ar ôl i Mr Chapman gael "pwl o banig".
Dywedodd Ms Jones: "Fe geisiodd adael y tŷ yn y car, ond fe wnes i ei atal achos ei fod wedi cynhyrfu cymaint."
Darllenwyd trawsgrifiad o'r alwad 111 lle dywedodd Ms Jones fod Mr Chapman yn dweud "gad i mi fynd, byddai pethau'n llawer gwell pe bawn i ddim yma".
Dywedodd Ms Jones ar yr alwad: "Dydw i ddim yn gwybod beth i'w wneud".
Dywedodd Ms Jones wrth y cwest ei bod wedi "gorliwio" yr alwad 111 fel y gallai dderbyn cyngor prydlon ar sut i ddelio â'r sefyllfa.
Clywodd y cwest fod y cwpl wedi cael sgwrs y noson honno ar sut i symud ymlaen, a'r bore wedyn roedd pethau "yn well na'r diwrnod cynt".
'Wedi cynhyrfu'
Ar ddiwrnod y gwrthdrawiad, dywedwyd Ms Jones fod Mr Chapman eisiau "siarad trwy" yr hyn oedd wedi digwydd, ond bod Ms Jones "angen ychydig o amser".
"Roedd wedi cynhyrfu gyda fi achos nes i ddim cymryd y diwrnod i ffwrdd o'r gwaith er mwyn i ni allu gweithio drwyddo," meddai.
Dywedodd Ms Jones iddi sylweddoli bod Mr Chapman wedi gadael eu cartref a'u bod wedi cymryd eu car ar ôl iddi ddod oddi ar alwad gwaith.
"Do'n i ddim yn meddwl ei fod eisiau cymryd ei fywyd, ond ro'n i'n gwybod nad oedd mewn cyflwr da yn feddyliol," meddai.
- Cyhoeddwyd7 Medi 2023
- Cyhoeddwyd6 Medi 2023
Clywodd y cwest fod wyneb y ffordd yn sych ar adeg y gwrthdrawiad.
Roedd lluniau dashcam gan dystion yn dangos y Mitsubishi yn tynnu allan i'r lôn gyferbyn, lle'r oedd y bws yn teithio, gan arwain at wrthdrawiad penben.
Mewn datganiad gan dyst, Deborah Baker, oedd yn gyrru o flaen Mr Chapman ar y pryd, fe ddisgrifiodd sŵn y gwrthdrawiad fel "ffrwydrad".
Dywedodd David Stacey - ymchwilydd fforensig gwrthdrawiadau gyda Heddlu Dyfed-Powys - wrth y cwest bod dau opsiwn o ran yr hyn allai fod wedi digwydd.
"Naill ai symudiad camamserol ar ran y Mitsubishi, neu ganlyniad uniongyrchol i benderfyniad ymwybodol i dynnu allan i lwybr y bws."
'Pawb yn ei garu'
Ar ôl adolygu lluniau o'r gwrthdrawiad, dywedodd Mr Stacey nad oedd "unrhyw dystiolaeth o geisio stopio neu symud y car cyn y gwrthdrawiad", er mwyn osgoi'r cerbyd oedd yn dod tuag ato.
Dywedodd fod y car yn teithio ar gyflymder o tua 40-45mya.
Wedi iddo arolygu'r dystiolaeth, daeth y crwner Paul Bennett i'r casgliad fod Mathew Chapman wedi marw o ganlyniad i hunanladdiad.
Fe wnaeth Mr Bennett ddiolch i'r gwasanaethau brys, a mynegodd ei gydymdeimlad "i bawb fu'n gysylltiedig" â'r gwrthdrawiad.
Dywedodd chwaer Mr Chapman wrth y cwest bod ei deulu yn gweld ei eisiau bob dydd.
Dywedodd Catrin Jones fod pawb oedd yn cwrdd â Mathew "yn ei garu" ac "roedd ganddo wên oedd yn goleuo pob ystafell y cerddodd mewn iddi".
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch chi, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.