Carcharu tri dyn am herwgipio yng Ngheredigion

Cafodd Mohammad Comrie, Faiz Shah ac Elijah Ogunnubi-Sime ddedfrydau o dros wyth mlynedd yr un
- Cyhoeddwyd
Mae tri dyn wedi cael dedfrydau o dros wyth mlynedd yr un dan glo ar ôl herwgipio cynhyrchydd cerddoriaeth Israelaidd yng Ngheredigion.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod y cynllwyn i herwgipio Itay Kashti wedi'i ysgogi gan resymau gwleidyddol a chrefyddol, yn ogystal ag er budd ariannol.
Roedd Mohammad Comrie, 23 o Leeds, Faiz Shah, 23 o Bradford, ac Elijah Ogunnubi-Sime, 20 o Wallington, wedi creu rhestr siopa o eitemau ar gyfer yr herwgipio, gan gynnwys mygydau a chyffion.
Yn wreiddiol roedd y tri wedi pledio'n ddieuog i herwgipio a chyhuddiadau o anafu'n fwriadol ac anafu'n anghyfreithlon.
Ar ddiwrnod cyntaf yr achos llys fis diwethaf fe newidiodd y tri eu ple gan bledio'n euog i herwgipio.
Cafodd Comrie a Shah eu dedfrydu ddydd Gwener i wyth mlynedd a mis yr un yn y carchar, tra bydd Ogunnubi-Sime yn treulio'r un cyfnod mewn sefydliad troseddwyr ifanc.

Roedd y tri dyn wedi denu'r cynhyrchydd cerddoriaeth i fwthyn yng Ngheredigion
Ar 14 Awst 2024, derbyniodd Mr Kashti neges gan ddyn o'r enw Lucas Winslow oedd yn honni ei fod yn gweithio i Polydor Records - cwmni cynhyrchu a recordio cerddoriaeth.
Roedd y negeseuon wedi cael eu hanfon gan y tri dyn.
Cafodd Mr Kashti ei wahodd ganddo i fynychu gwersyll recordio cerddoriaeth yng Nghymru ar 26 Awst.
Fe deithiodd Mr Kashti i'r lleoliad felly o dan yr argraff ei fod yn mynd i ddigwyddiad recordio cerddoriaeth dilys.
Dyma ddechrau ar gynllwyn "gofalus a chywrain" y tri, clywodd y llys.

Roedd y tri diffynnydd wedi sefydlu grŵp negeseua ar ap Telegram, lle wnaethon nhw drafod sawl elfen o'u cynllun mewn manylder, gan gynnwys rhestr siopa o eitemau oedd eu hangen i herwgipio Mr Kashti.
Roedd y rhestr yn cynnwys mygydau wyneb, menyg, ceir rhent, mwgwd llygaid a llety addas i'w logi - gyda'r eitemau yn cael eu ticio oddi ar y rhestr wrth iddyn nhw gael gafael ynddynt.
Cafwyd trafodaeth hefyd ai cyffion neu zip ties fyddai fwyaf effeithiol. Aeth y ddau beth gyda nhw i'r safle.
Yn hwyrach yn y broses gynllwynio, fe geisiodd y tri i gael gafael mewn ketamine hefyd er mwyn rhoi'r cyffur i Mr Kashti.
Dau gymhelliad tebygol
Clywodd y llys bod dau gymhelliad i'r cynllwyn.
Roedd yna gymhelliad ariannol, gyda sôn sut bydden nhw'n gwyngalchu'r arian yr oedden nhw am orfodi'r dioddefwr i roi iddynt.
Roedd yna gymhelliad gwleidyddol a chrefyddol y tu ôl i dargedu Mr Kashti hefyd, am ei fod yn dod o Israel.
Dan enw a manylion banc oedd wedi eu dwyn, cafodd eiddo'r 'Gatehouse' ym Mryn-teg yng Ngheredigion, ger Llanybydder, ei logi gan y tri.
Dywedodd yr erlynydd Craig Jones eu bod wedi ymchwilio i'r lleoliad "yn fanwl", gyda neges gan un ohonynt yn dweud: "Anywhere in Wales is calm, bro."

Heddlu yn yr ardal ar ôl y digwyddiad ddydd Llun, Awst 26
Cafodd tacsi ei drefnu ganddynt hefyd i gasglu Mr Kashti o'i gartref yn Llundain, wnaeth ei gludo i'r bwthyn ym Mryn-teg, ar 26 Awst.
Clywodd y llys fod y gyrrwr tacsi yn gwbl ddiniwed, a - fel Mr Kashti - ddim yn adnabod y tri diffynnydd.
Pan aeth Mr Kashti a'r gyrrwr tacsi, Mohammad Amowar i'r tŷ y prynhawn hwnnw, fe ymosodwyd ar y ddau.
Er iddo gael ei daro yn ei wyneb, llwyddodd y gyrrwr tacsi, Mr Amowar, i ddianc drwy'r drws ffrynt yn syth.
Ni lwyddodd Mr Kashti i ddianc. Cafodd ei ddal gan y tri ac ymosodwyd arno.
Llwyddo i ddianc
Clywodd y llys bod Comrie, Shah ac Ogunnubi-Sime wedi mynd â Mr Kashti a'i roi mewn cyffion yn sownd i reiddiadur yn un o'r ystafelloedd, gan fygwth ei ladd pe bai'n dianc.
Roedd y tri yn gwisgo mygydau i guddio eu hwynebau.
Yn ystod yr ymosodiad, derbyniodd Mr Kashti anafiadau i'w wyneb a'i ben.
Pan adawodd y tri yr ystafell, sylwodd Mr Kashti ei fod wedi cael ei roi mewn cyffion yn sownd i ryw fath o biben neu bolyn - llwyddodd i ddianc drwy godi ei ddwylo i fyny, gan ryddhau ei hun o'r lleoliad a rhedeg allan o'r bwthyn.
Yn gwaedu o'i wyneb a'n parhau mewn cyffion, cuddiodd Mr Kashti mewn llwyni a ffonio ei wraig.
Llwyddodd hi i gysylltu gyda'r heddlu ar ei ran, ac oedd y gyrrwr tacsi hefyd wedi cysylltu â'r heddlu.
Dihangodd Comrie, Shah ac Ogunnubi-Sime o'r lleoliad, ond daeth yr heddlu o hyd iddyn nhw yr un noson mewn caeau cyfagos ar ôl i hofrennydd gael ei ddefnyddio i chwilio amdanynt.
Cafodd Mr Kashti ei gludo i'r ysbyty gyda mân anafiadau.

Roedd Bryn-teg yn llawn plismyn wedi'r digwyddiad, medd Gillian Davies
Mae Gillian Davies yn byw ym Mryn-teg. Dywedodd fod heddlu'n drwch yn yr ardal wedi'r digwyddiad.
"Dod nôl adref yn hwyr y prynhawn nes i, a'r gŵr yn dweud bod tipyn o helynt wedi bod 'mlan 'ma," meddai.
"Tipyn o gerbydau heddlu, ceir, faniau a wedyn fe ddaeth hofrennydd.
"Yn amlwg, roedden nhw'n chwilio am rywun, neu fwy nag un person.
"Do'n i ddim yn siŵr ar y pryd beth oedd yn mynd ymlaen."
Wrth i ragor o fanylion ddod i'r amlwg yn yr achos llys am yr hyn oedd wedi digwydd mewn bwthyn gerllaw, dywedodd: "I ddweud y gwir, ni gyd mewn sioc.
"Mae Bryn-teg yn le bach diarffordd. Does dim byd yn digwydd yma.
"Ni'n glwstwr o dai ac un capel bach. Mae e'n lecyn bach tawel iawn.
"I glywed bod y bobl hyn wedi dod lawr ac ymosod ar y person yma, mae e'n codi sioc ac ofn arnoch chi i feddwl bod rhywbeth yn digwydd yn eich cymuned chi - mor arswydus o beth."
'Ei dargedu oherwydd ei dras Iddewig'
Yn dedfrydu'r tri, dywedodd y Barnwr Catherine yn Llys y Goron Abertawe bod "lefel y paratoi yn amlwg", a'u bod wedi cael eu "cymell gan ddigwyddiadau rhywle arall yn y byd".
"Does gen i ddim amheuaeth bod Mr Kashti wedi cael ei dargedu oherwydd ei dras Iddewig," meddai.
Cafodd gorchymyn atal - restraining order - ei gyflwyno hefyd, sy'n eu gwahardd rhag cysylltu â'r dioddefwr am 15 mlynedd.
- Cyhoeddwyd31 Awst 2024
- Cyhoeddwyd30 Awst 2024
- Cyhoeddwyd6 Medi 2024
Dywedodd Michael Cray o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Roedd y diffynwyr wedi cynllunio'r drosedd yn fanwl, ac wedi trafod beth oedden nhw am ei wneud, sut yr oedden nhw am ei chyflawni, a sut oedden nhw am ddianc gyda'r arian.
"Yn ffodus iawn, ni wnaethant lwyddo i gyflawni'r troseddau er gwaetha'r cynllunio manwl.
"Mae'n rhaid bod hyn wedi bod yn brofiad gwirioneddol ofnus i'r ddau ddioddefwr a oedd heb syniad mai trap oedd y cyfan.
"Hoffwn ddiolch iddynt am gefnogi'r erlyniad hwn, ac rydym ni'n gobeithio y bydd y ffaith bod y troseddwyr hyn wedi cael eu dwyn gerbron y llys yn eu helpu nhw i symud ymlaen gyda'u bywydau."