Disgwyl i Rygbi Caerdydd fynd i ddwylo'r gweinyddwyr

Mae'r BBC ar ddeall y bydd cytundebau'r chwaraewyr yn cael eu parchu
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i Rygbi Caerdydd fynd i ddwylo'r gweinyddwyr, gydag Undeb Rygbi Cymru (URC) yn debygol o berchnogi'r rhanbarth.
Roedd staff, chwaraewyr a hyfforddwyr Rygbi Caerdydd mewn cyfarfod brys gyda'r prif weithredwr, Richard Holland brynhawn Mawrth.
Fe fydd y clwb yn cyhoeddi hysbysiad o fwriad - dogfen gyfreithiol sy'n nodi yn swyddogol fod y cwmni yn bwriadu mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Nid oes modd i URC gamu mewn yn syth, ond mae disgwyl i'r undeb gefnogi Caerdydd gyda'r gwaith o gynnal y clwb o ddydd i ddydd.
Daw'r newyddion ddydd Mawrth gyda disgwyl i Undeb Rygbi Cymru gyhoeddi cytundeb newydd gyda'r pedwar rhanbarth.
Y gred yw y byddai'r Cytundeb Rygbi Proffesiynol yn sicrhau parhad y pedwar rhanbarth, yn ogystal â chynnig arian ychwanegol i Gaerdydd, y Dreigiau, y Gweilch a'r Scarlets.
- Cyhoeddwyd20 Mawrth
- Cyhoeddwyd7 Chwefror
- Cyhoeddwyd18 Mawrth
Y grŵp buddsoddi Helford Capital Limited sydd wedi bod yn berchen ar Rygbi Caerdydd ers mis Ionawr 2024 ar ôl prynu gwerth 84.55% o gyfranddaliadau yn y tîm rhanbarthol.
Cafodd buddsoddiad y grŵp yn y clwb ei arwain gan Phil Kempe a Neal Griffith sydd yn aelodau o fwrdd rheoli'r clwb.
Roedd 99.99% o aelodau mewn cyfarfod cyffredinol o blaid y pryniant ar y pryd, gyda chadeirydd y clwb, Alun Jones yn dweud y byddai'n cynnig "dyfodol disglair, cadarn a chyffrous i'r clwb".

Os ydy URC yn perchnogi'r clwb yn y tymor byr, yna mae'n bosib y bydd y clwb yn chwilio am fuddsoddwyr eraill ar gyfer y tymor hir.
Mae'r undeb wedi ceisio osgoi perchnogi rhanbarthau yn barhaol yn y gorffennol, gyda'r Dreigiau yn dychwelyd i ddwylo preifat yn 2023.
Mae gan Rygbi Caerdydd bedair gêm ar ôl yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig eleni, gyda thîm Matt Sherratt dal yn gobeithio sicrhau lle yn y gemau ail gyfle drwy orffen yn yr wyth safle uchaf.
Fe fydd eu gêm nesaf yn erbyn y Gweilch ddydd Sadwrn, 19 Ebrill yn Stadiwm Principality.
Mae'r BBC ar ddeall y bydd cytundebau'r chwaraewyr yn cael eu parchu, ac y bydd chwaraewyr sydd wedi cael eu harwyddo ar gyfer yr haf yn dal i ymuno â'r rhanbarth.
Yn wahanol i bêl-droed, nid oes disgwyl i'r rhanbarth golli pwyntiau fel cosb am fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Dywedodd URC mewn datganiad: "Rydym yn ymwybodol bod Clwb Rygbi Caerdydd wedi cadarnhau eu bwriad i benodi gweinyddwyr, ac rydym yn cydweithio'n agos gyda bwrdd y clwb a'r gweinyddwyr i ddiogelu dyfodol rygbi proffesiynol yng Nghaerdydd."