Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel yn dod i ben

Syr Bryn Terfel
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Syr Bryn Terfel bod “cynnig Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel yn destun balchder i mi"

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Urdd wedi cyhoeddi bod Ysgoloriaeth Bryn Terfel wedi dod i ben a'u bod bellach wedi dechrau cynllun i roi cyfle i bobl ifanc fod yn Llysgenhadon Diwylliannol Rhyngwladol Ifanc.

Mae'n rhan o bartneriaeth newydd rhwng Urdd Gobaith Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru "i gynnig cyfleoedd anhygoel i rai o dalentau artistig mwyaf addawol Cymru".

Am 20 mlynedd, roedd chwe pherson ifanc yn perfformio'n fyw ar S4C i geisio ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel, gyda'r enillydd yn derbyn gwobr ariannol o £4,000.

Ymhlith yr enwau cyfarwydd sydd wedi ennill yr ysgoloriaeth mae Mirain Haf, Rhian Lois, Aled Pedrick a Steffan Rhys Hughes.

Ond mae'r Urdd bellach yn cydweithio gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru er mwyn cynnig sesiynau mentora a chyfleoedd rhyngwladol i'r bobl ifanc ddaeth i'r brig yn y prif gystadlaethau dan-25 yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn cael gwobr o £4,000

Dywedodd Cyfarwyddwr Celfyddydol yr Urdd, Llio Maddocks, ar raglen Dros Frecwast mai "bwriad yr ysgoloriaeth [Bryn Terfel] yn wreiddiol o'dd rhedeg am 10 mlynedd ond yn ffodus iawn mi gawson ni gefnogaeth Bryn Terfel eto i'w gynnal o am 20 mlynedd tan 2022".

"Mi o'dd o'n gynllun hyfryd sydd wedi rhoi gymaint o gyfleoedd i bobl ifanc ond penllanw'r Eisteddfod o'dd datgelu partneriaeth newydd efo Coleg Cerdd a Drama Cymru a 'da ni wedi bod yn lwcus iawn bod Bryn Terfel yn gefnogol iawn i'r cynllun yma hefyd."

'Cyfnod heriol yn ariannol'

Wrth gael ei holi am y ffaith na fydd gwobr ariannol ar gael, dywedodd Llio Maddocks bod yr Urdd yn "edrych arno fo mewn ffordd wahanol".

Dywedodd mai sesiynau mentora oedd bwysicaf i bobl ifanc yn dilyn ymgynghoriad: "Cael cyfle i ehangu eu cynulleidfaoedd ar draws y byd - felly'r gobaith ydi datblygu'r rhaglen yma a cynnig cyfleoedd anhygoel i'n perfformwyr gorau ni yn yr Eisteddfod."

"Mae'n gyfnod heriol yn ariannol i lot o sefydliadau celfyddydol ond y peth pwysig i ni fel sefydliadau cenedlaethol ydi dod at ein gilydd a rhannu adnoddau er mwyn gallu parhau i gynnig cyfleoedd i'n pobl ifanc ni."

Dywedodd llefarydd ar ran yr Urdd bod cyllid ar gyfer yr hen ysgoloriaeth wedi dod o gyngherddau gan y canwr opera yn 1998 a 2005.

Mewn datganiad gan yr Urdd, dywedodd Syr Bryn Terfel ei fod yn croesawu'r cynllun newydd.

“Mae'r 20 mlynedd ddiwethaf o gynnig Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel yn destun balchder i mi", meddai.

"Fel un sydd â chysylltiad agos i'r Urdd ac i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, rwy'n falch iawn o gefnogi y bartneriaeth newydd hon.

"Rwy'n credu'n gryf yn nhalentau perfformwyr y dyfodol, ac edrychaf ymlaen i ddilyn datblygiad y Llysgenhadon Diwylliannol drwy eu sesiynau mentora a theithiau rhyngwladol."

Disgrifiad o’r llun,

Nansi Rhys Adams yw un o'r llysgenhadon ar ôl ennill yr unawd sioe gerdd dan-25

Un o'r chwech sydd wedi eu dewis i fod yn llysgenhadon rhyngwladol ydy Nansi Rhys Adams o Gaerdydd.

Enillodd hi'r unawd sioe gerdd dan-25 yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn eleni. Mae hi ar ei hail flwyddyn yn astudio cwrs drama actio yng ngholeg Mountview yn Llundain.

Dywedodd Nansi ar raglen Dros Frecwast: "O'n i ddim yn gwybod bod e'n digwydd felly o'dd cael y teitl yn sioc.

"Fi mor ddiolchgar hefyd achos dwi methu aros i gael gwersi gan y Coleg Brenhinol yng Nghaerdydd achos fi yn mynd i ysgol ddrama ar y foment felly bydd unrhyw wersi yn fuddiol i fi."

Y pump llysgennad arall ydy Tomos Heddwyn Griffiths o Drawsfynydd, Owain Rowlands o Landeilo a Morus Caradog Jones, Eiriana Jones-Campbell ac Owain Siôn o Gaerdydd.

Bydd pob un yn derbyn dosbarthiadau meistr gan diwtoriaid Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn eu meysydd perthnasol, ac yn cael cyfle gan yr Urdd i arddangos eu talent i gynulleidfa fyd-eang.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llio Maddocks o'r Urdd mai'r bwriad ydy "datblygu talentau perfformwyr ifanc Cymru nawr ac yn y dyfodol”

Dywedodd Helena Gaunt, Pennaeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru: “Mae'n anrhydedd mawr cyhoeddi’r bartneriaeth hon gyda’r Urdd fel rhan o’n dathliadau pen-blwydd yn 75 oed.

"Bydd ein partneriaeth yn ein galluogi ni yn CBCDC i gysylltu’n ddyfnach â’r Gymraeg a gyda siaradwyr Cymraeg ifanc ledled Cymru, ac i gefnogi talent eithriadol o fewn y gymuned hon.”