'Pobl yn ynysig iawn' wedi chwe diwrnod heb drydan
- Cyhoeddwyd
Mae'r miloedd o bobl sy'n parhau heb drydan am chweched diwrnod yn dilyn Storm Darragh yn teimlo'n "ynysig iawn" yn ôl menyw o Sir Gâr.
Fore Iau roedd tua 2,500 o gartrefi yn parhau heb drydan yng Nghymru - y cyfan yn ardal y National Grid yn hanner deheuol y wlad.
Dyma'r chweched diwrnod yn olynol i'r tai fod heb gyflenwad ers y storm.
Mae Anwen Francis o ardal Castellnewydd Emlyn yn galw am gael systemau cyfathrebu gwell mewn lle, gan ddweud ei bod hi'n "anodd gweld be' sy'n digwydd yn y byd tu allan" heb drydan na band eang.
"'Naethon ni golli'r trydan bore dydd Sadwrn yn gynnar, a mae e yn mynd yn hir," meddai ar Dros Frecwast fore Iau.
"O'dd y rhewgell ddim yn gweithio, dim bwyd 'da ni, o'n ni'n disgwyl i'r archfarchnad ddod â bwyd i ni dydd Sadwrn, ond daethon nhw ddim achos yr hewl."
Ychwanegodd: "Ni'n teimlo yn ynysig, achos bo' 'na ddim signal ar ein ffôn ni, ddim yn gallu cysylltu hefo neb.
"Ni'n cael rhai negeseuon - o'n i'n gweld bod y cynghorydd sir Elizabeth Evans wedi bod yn rhoi diweddariadau ar Facebook.
"Ond os na' chi'n gallu cysylltu gyda Facebook i weld y neges yn iawn, ma'n anodd gweld be' sy'n digwydd yn y byd tu allan.
"Dwi yn gweld bod 'na ddiffyg strategaeth gyfathrebu o ran y cwmnïau mawr 'ma sy'n anfon diweddariadau ac yn anfon negeseuon ar Facebook.
"Os nag oes signal 'da chi i fynd ar Facebook, y'ch chi yn ynysig.
"Nes i gysylltu gyda'r cwmni Wi-Fi ddoe i ofyn 'plis allen ni gael Wi-Fi?', a'r neges ges i oedd bo' nhw'n anfon e-bost ata i.
"Wel, os nag o'n i'n gallu mynd a chyrchu fy e-byst, sut o'n i'n gallu gweld y neges?"
Symud ei mam i westy
Dywedodd Anwen fod y teulu wedi penderfynu symud ei mam i westy oherwydd y diffyg trydan.
"Mam druan. Ma' hi 'di colli mwyafrif o'i golwg a'i chlyw, ac erbyn nos Fawrth o'dd hi'n stryglan - ni gyd yn stryglan fi'n credu.
"Felly penderfynon ni fynd â mam lawr i westy yn Aberteifi er mwyn 'neud yn siŵr ei bod hi'n cadw'n dwym, a bod hi'n gallu cael rhyw fath o gynhesrwydd."
Bu'n rhaid i Anwen hefyd ganslo gwyliau i Wlad Pwyl oherwydd effaith y storm ac amgylchiadau ei mam.
Un arall sy'n parhau heb drydan ydy Wyn Thomas o ardal Drefach Felindre yn Sir Gaerfyrddin.
Bu'n rhannu ei argraffiadau o'r dyddiau diwethaf ar Dros Frecwast, gan egluro y bu'n rhaid iddo fynd am ddialysis ar ddydd Sadwrn y storm, ond y bu trafferthion gyda hynny.
"Bore dydd Sadwrn es i lan i Aberystwyth erbyn 07:30 i gael dialysis, ac es i lan yn o'reit. Roedd lot o annibendod ar yr hewl, ond oedd e'n iawn.
"Ar ôl cyrraedd Aberystwyth o'dd dim trydan o gwbl yn unman, felly gorfo' ni fynd nôl lawr i Gaerfyrddin.
"Chwarae teg, un o'r nyrsys, Fred, yn dod gyda ni - tri claf a Fred yn y car, ac off â ni lawr i Gaerfyrddin i iwsho eu peiriannau nhw.
"Fi mor ddiolchgar i'r holl staff sydd mor barod i fynd y filltir ychwanegol 'na i 'neud beth sy' rhaid."
Ar ôl rhannu'r hanes, a chanmol cymorth Fred ar y cyfryngau cymdeithasol, mae Wyn a Fred wedi derbyn negeseuon gan bobl ar draws y byd yn dymuno'n dda i'r ddau.
"Dyw Fred ddim cweit yn deall beth sy'n digwydd!" meddai Wyn.
"Mae e'n cael galwadau ffôn o Ghana. lle mae'n dod yn wreiddiol - yn dweud bod neb yn gwybod yn iawn be' sy'n digwydd, ond maen nhw'n gwybod ei fod e'n enwog!"
'Teimlo'n hir erbyn hyn'
Mae Wyn yn parhau heb drydan, ond yn dweud ei fod yn obeithiol y bydd hynny'n newid yn fuan gan fod cyflenwadau sawl ardal o'u cwmpas wedi cael ei adfer.
"Ni dal heb drydan am y chweched bore nawr, ac ydy, mae e'n teimlo'n hir erbyn hyn," meddai.
"Am ddiwrnod neu ddau mae dyn yn dod i ben â phethe', ond mae'n mynd yn hir erbyn hyn."
Ond ychwanegodd fod ganddo "ddim byd ond edmygedd i'r rheiny sydd mas yn gweithio ar ran y bwrdd trydan".
Hefyd yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Iau, dywedodd y prif weinidog Eluned Morgan fod y llywodraeth "wedi bod yn rhoi pwysau ar y gwasanaethau trydan i sicrhau bod nhw'n 'neud popeth posib i ailgysylltu pobl".
"Maen nhw wedi bod yn gweithio yn ddiwyd iawn dros y dyddiau diwethaf," meddai.
"Maen nhw wedi dod â phobl ychwanegol mewn o Loegr i helpu allan, ond dwi yn poeni yn arbennig am y rhai sydd yn hen, sydd yn dal i fod mewn sefyllfa nag ydyn nhw yn gallu rhoi'r gwres ymlaen.
"Gobeithio bydd pethe yn cael eu gwella ond dwi yn gwbod bod y busnesau yna yn cadw golwg.
"Mae rhestr gyda nhw o bobl sydd mewn sefyllfa fregus ac mae llywodraeth leol hefyd yn yr ardal sydd dal heb gyswllt yn cynnig help."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2024