Venue Cymru i dderbyn £10m gan Lywodraeth y DU wedi'r cwbl

Bydd y llyfrgell a'r Ganolfan Dwristiaeth leol yn cael eu symud i Venue Cymru, er mwyn creu hwb diwylliannol
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd Venue Cymru, Llandudno yn derbyn £10m yn dilyn pryderon na fyddai'r arian ar gael.
Roedd ofnau y byddai Venue Cymru, sy'n un o ganolfannau adloniant amlycaf y gogledd, yn colli nawdd ariannol sylweddol.
Ond mae'r llywodraeth bellach wedi cyhoeddi y bydd yr atyniad yn cael £10m o'r gronfa Codi'r Gwastad (Levelling Up).
Bydd yr arian yn cael ei wario ar adnewyddu'r ganolfan a symud gwasanaethau eraill yno.
Mae hynny'n cynnwys cynllun dadleuol i symud llyfrgell a Chanolfan Dwristiaeth y dref, er mwyn creu hwb diwylliannol.
Cyhoeddodd y llywodraeth hefyd y bydd Pont Gludo Casnewydd yn derbyn £5m o'r gronfa Codi'r Gwastad.

Mewn cyfarfod o un o gyfarfodydd Cyngor Sir Conwy ddechrau Ionawr, roedd yna gydnabyddiaeth gan gynghorwyr a swyddogion bod yr adeilad erbyn hyn yn edrych yn "llwm" ac yn "druenus"
Roedd yna gyhoeddiad fis Mawrth y llynedd y byddai Venue Cymru yn derbyn £10m o'r gronfa Codi'r Gwastad wedi i'r llywodraeth Geidwadol ddiwethaf yn San Steffan glustnodi £100m ar gyfer prosiectau diwylliannol.
Ond ers i'r Blaid Lafur ddod i rym ym mis Gorffennaf, roedd amheuon nad oedd yr arian bellach ar gael.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad y bydd y ganolfan yn cael £10m, dywedodd Jack Sargeant AS, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol fod hynny yn "newyddion arbennig i Venue Cymru ac i'r sector celfyddydau ac economaidd gogledd Cymru yn ehangach".

Bydd £5m yn cael ei wario er mwyn atgyweirio Bont Gludo Casnewydd
Fel rhan o'r cyhoeddiad ddydd Llun, bydd atyniad Pont Gludo Casnewydd yn derbyn £5m o'r gronfa Codi'r Gwastad.
Bydd yr arian yn cael ei wario er mwyn atgyweirio a chynnal a chadw'r bont, sy'n cael ei hystyried yn rhan allweddol o economi twristiaeth y de.
Y gobaith yw denu ymwelwyr i'r ddinas a rhoi hwb i swyddi yn lleol.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd Aelod Seneddol Dwyrain Casnewydd, Jessica Morden fod "pobl o bob cwr yn caru'r bont gludo" a'i bod yn "rhan eiconig o Gasnewydd".
"Rydw i'n falch iawn gweld bod Llywodraeth Lafur y DU yn cydnabod pwysigrwydd twristiaeth yr ardal a bod buddsoddi yn y bont yn rhan hanfodol wrth sicrhau bod y safle yn atyniad i ymwelwyr am flynyddoedd i ddod."
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens: "Mae Pont Gludo Casnewydd a Venue Cymru yn safleoedd eiconig yn eu cymunedau lleol ac rydw i'n falch y bydd arian gan Lywodraeth y DU yn rhoi hwb i dwristiaeth a diwylliant Cymru.
"Rydw i wrth fy modd bod gan Gymru ddwy lywodraeth Llafur sy'n blaenoriaethu twf economaidd fydd yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl. Bydd y bartneriaeth hon yn parhau i wasanaethu pobl yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Awst 2018
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd8 Ionawr