'Her rwyfo anodda'r byd - ti'n methu rhoi fyny'
- Cyhoeddwyd
Deunaw mis ar ôl rhoi aren i'w brawd mae Nia Baylis o Aberdyfi wedi cwblhau taith mae llawer yn ei alw'n 'her rwyfo anodda'r byd' gan rwyfo mewn cwch ar draws Yr Iwerydd.
Gan gychwyn yn Sbaen, gorffennodd Nia a'i ffrind, Pammie Tyson, y daith yn Antigua ar ddydd Sul 2 Chwefror ar ôl rhwyfo dros 3,000 o filltiroedd mewn cwch bach i ddau.
Ysbrydoliaeth
Roedd y syniad gwreiddiol am y ras wedi cychwyn rhyw bedair blynedd yn ôl yn ystod cyfnod Covid, fel mae Nia'n ei esbonio o Antigua lle mae'n dathlu diwedd y daith: "Oedden ni wedi mynd draw i'r Caribî i hwylio efo'r plant am bron i flwyddyn a chwrdd â hen ffrindiau oedd ishe 'neud o.
"'Nath y ras ffeindio fi mewn ffordd - oeddwn i o hyd wedi isio 'neud rhywbeth mawr fel ymdrech tîm. 'Nes i ddarganfod y ras yma ac wedyn dechrau o hynny."
Ond bu rhaid i Nia newid ei chynlluniau er mwyn rhoi aren i'w brawd Dafydd, oedd wedi bod ar dialysis ers pedair blynedd cyn y driniaeth ym Mai 2023, meddai: "Ddaru'r driniaeth roi o yn ôl blwyddyn ond dwi'n falch bod fi wedi gallu neud y ddau beth.
"Oeddan i wedi trainio cyn y llawdriniaeth ac wedyn ar ôl y driniaeth roedd tri mis o recovery – roedd hi'n cymryd amser i ddod yn ôl i normal ac i gryfhau eto."
Ac mi wnaeth y driniaeth ei ysbarduno i godi arian i Aren Cymru, gyda'r her - Lightship Atlantic - yn codi dros £30,000.
Yr her
Erbyn hyn mae Nia'n cytuno gyda disgrifiad y daith fel 'her rwyfo anodda'r byd': "'Na beth maen nhw'n dweud – dwi'n coelio nhw rŵan i ddweud y gwir!
"Yr amser oedd y peth anodda' – dydy bod ar y môr ddim byd newydd ac fel arfer os ti'n croesi'r Iwerydd yn hwylio ti'n cymryd pythefnos, tair wythnos falle.
"Ond o'n i 53 diwrnod so jest amser hir i fod 'na heb deulu, ffrindiau, pethau adref, y cŵn a'r pethau bach."
Felly a wnaeth Nia fwynhau'r daith?
Meddai: "Mae 'na amser pan ti'n mwynhau pethau tra bod ti yna ond mwy o sialens ydy o – profiad ydy o yn y diwedd.
"Ti'n dysgu cymaint o fod 'na. Dwi ddim yn siŵr os ti'n gallu mwynhau lot ohono fo.
"Y peth mwyaf ydy ti'n dysgu i fod yn resilient. Ti methu rhoi fyny.
"Yr unig opsiwn ydy cario mlaen. Hwnna ydy'r peth mwya'.
"Ti'n gallu cymryd hynny mlaen mewn i bywyd arferol adre' – ti'n dod fyny efo problemau ond ti'n gorfod cario mlaen a ffeindio ffordd rownd a ddim rhoi fyny.
"Rhoi'r ffocws ar beth bynnag ti'n 'neud ac mae popeth yn dod at ei gilydd. Ti'n gorfod canolbwyntio ar y pethau sy'n mynd i 'neud i ti gyrraedd diwedd y daith."
Croeso
A chyrraedd y llinell derfyn oedd yr uchafbwynt, meddai Nia: "Mae'r diwedd yn unbelievable ac yn rili sbeshal achos ti'n dod i'r diwedd o bopeth, pedair blynedd o baratoi ac wedyn ti'n cael croeso enfawr."
Ar ôl 53 diwrnod oedd yn cynnwys heriau fel stormydd, tywydd drwg, siarcod a tonnau tair metr o uchder, yr isafbwynt i Nia oedd cyrraedd hanner ffordd: "Oedd o'n teimlo fel bod o'n cymryd ages i gyrraedd hanner ffordd a ti'n clywed ''da chi hanner ffordd, jest lawr y rhiw o fan hyn'.
"Ac oedd hwnna'n deimlad, mae gyda ni mor hir i fynd! O'n i 'di meddwl fuasai fo wedi bod yn neisiach cyrraedd fan 'na ond oedd o'n anodd.
"Ond doedd o byth yn beryglus – mae'r cychod bach 'na yn anhygoel ac o'n i'n teimlo'n saff bob amser.
"Ond gafon ni dywydd drwg blwyddyn yma – gafon ni bopeth, oedd rhaid ni weithio am bob milltir. Oedd 'na ddim byd yn hawdd ond gafon ni ddigon o stormydd a tywydd drwg.
"Oedd rhaid ti weithio am hwn."
Yn gwthio Nia ymlaen oedd y ffaith fod Aren Cymru yn anfon negeseuon gan bobl sy'n cael eu helpu gan yr elusen: "Oedd o werth o, fyswn i ddim yn newid dim byd.
"Mae'n bwysig i ni ddeall lle mae'r arian yn mynd hefyd – pwy mae'n mynd i helpu a ffordd mae'n mynd i helpu."
Achub bywyd
Gyda Nia yn Antigua mae ei brawd Dafydd, sy' wedi gweld ei fywyd yn newid oherwydd yr aren newydd gafodd gan ei chwaer, fel mae e'n ei ddweud: "Dwi'n ddiolchgar iawn – s'na ddim gair i ddisgrifio'r peth.
"O fod ar dialysis am bedair blynedd i beidio bod angen machine i gadw rhywun yn fyw – s'dim cymhariaeth, mae dy gorff di mewn cyflwr lot gwell o dy wallt di i liw dy lygaid i dy groen.
"Mae Nia wedi rhoi bywyd yn ôl i fi mewn ffordd. Ac wedi 'neud y sialens yma ar ben o wedyn – mae'n gamp.
"Mae'n ddigon o gamp i roi aren ond i allu rhoi aren a 'neud hyn ddwy flwyddyn wedyn... mae'n anhygoel beth mae wedi 'neud."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd30 Awst 2024
- Cyhoeddwyd15 Awst 2023