Dylan Cernyw: 30 mlynedd o gyfeilio ac wedi mwynhau bob munud

Mae'r alawon sy'n rhaid eu chwarae wedi mynd yn fwy heriol, meddai Dylan
- Cyhoeddwyd
30 mlynedd ers cyfeilio yn yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf, mae Dylan Cernyw wedi dweud iddo "fwynhau pob munud".
Eisteddfod Bro Colwyn yn 1995 oedd y tro cyntaf i Dylan Cernyw gyfeilio yn y brifwyl.
Erbyn hyn, caiff ei adnabod fel un o gyfeilyddion mwyaf blaenllaw Cymru ag yntau'n cyfeilio mewn eisteddfodau'r Urdd, eisteddfodau cenedlaethol a'r Ŵyl Cerdd Dant.
Yn siarad gyda'r BBC, dywedodd hefyd bod cerddoriaeth wedi bod yn ddihangfa yn ystod cyfnod heriol yn ei fywyd.
'Angen magu mwy o gyfeilyddion'
Wrth hel atgofion am y 30 mlynedd ddiwethaf ar Dros Frecwast, dywedodd Dylan Cernyw: "Mae'n anodd credu. Dwi'n cofio'r Steddfod gyntaf yn '95... mae amser wedi fflio, dwi wedi mwynhau pob munud."
Ac er bod y gwmnïaeth a'r cyffro o gyfeilio wedi aros yn gyson, dywedodd bod newid ym mha mor heriol yw'r darnau gosod erbyn hyn.
"Mae'r alawon wedi mynd yn lot fwy heriol, mae'r cyfansoddwyr dyddie 'ma yn licio bod yn heriol, ac wrth gwrs efo'r delyn mae gen ti saith pedal hefyd felly mae 'na lot o waith o ran meddwl sut mae'n gweithio.
"Mae'r alawon wedi mynd yn fwy heriol, ond dal i ymarfer de!"
Yn ogystal â bod yn gyfeilydd, mae'n athro telyn, a dywedodd ei fod yn "galonogol" gweld nifer y disgyblion sy'n derbyn gwersi.
Er hyn, roedd o'r farn bod angen annog mwy o bobl ifanc i gyfeilio.
"Ma' isio magu mwy o gyfeilyddion, mae'r Urdd a'r Gymdeithas Cerdd Dant yn dda am annog."
O'r Archif: Wythnos Steddfod Cyfeilydd
Mae Dylan Cernyw wedi bod yn agored yn y gorffennol am ei iechyd meddwl, ac wrth edrych yn ôl ar ei gyfnod fel cyfeilydd, dywedodd pa mor bwysig oedd rhannu ei brofiadau.
Ychwanegodd bod cerddoriaeth a chyfeilio wedi bod yn ddihangfa iddo yn ystod y cyfnodau heriol.
"Mae o'n rhywbeth o' ti'n gallu neud, yn gallu switcho off o'r byd tu allan a dim poeni am bethau am 'chydig.
"Y peth gorau 'wnes i oedd agor allan.
"Dwi'n meddwl fod cerddoriaeth, ffrindiau, a gwybod sut i ddelio efo pethau fel 'na."
'Cymaint o bobl yn cefnogi'
Aeth ymlaen hefyd i sôn am ba mor braf yw bod ar y Maes.
"Hefyd yr awyrgylch ar y Maes, ma' gen ti gymaint o bobl sy'n cefnogi ti a wastad yna.
"Ma' pawb yn cael heriau bywyd, ond yn sicr, mae'r gwmnïaeth a'r bobl sydd yma yn help.
"Un o'r pethau gwnes i ddysgu o be' o'n i wedi bod trwyddo fo oedd bod angen siarad, mae 'na grŵp yn ochrau Conwy, ac mae 'na griw o'n ni ddynion yn dod at ein gilydd bob hyn a hyn i siarad.
"Dwi'n gwneud pethau 'swn i byth yn meddwl 'swn i'n gwneud o'r blaen."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst
- Cyhoeddwyd6 Awst