Menyw yn 'lwcus i fod yn fyw' ar ôl cael ei tharo gan gar

Aeth Jackie Davies yn sownd o dan y car ar ôl cael ei tharo fore Llun
- Cyhoeddwyd
Mae dynes a chafodd ei tharo gan gar wrth fynd â chi am dro yng Nghasnewydd fore Llun yn "lwcus i fod yn fyw", yn ôl ei theulu.
Aeth Jackie Davies, 63, yn sownd o dan y car ar ôl cael ei tharo, a bu'n rhaid i'r gwasanaeth tân ei thorri'n rhydd.
Roedd y gwasanaethau brys wedi cael eu galw i'r digwyddiad ar Rowan Way yn ardal Malpas y ddinas am 06:35.
Mae hi bellach mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty ar ôl dioddef anafiadau difrifol. Fe wnaeth ei chi, German Shepherd o'r enw Frisby, ddioddef man anafiadau, meddai ei theulu.
Dywedodd yr heddlu fod y bobl a oedd yn teithio yn y car - Volkswagen Passat arian - wedi gadael y lleoliad cyn iddyn nhw gyrraedd yno.
Mae Crimestoppers wedi lansio apêl am wybodaeth ddienw i ddod o hyd i ddyn o'r enw Ian Probert sydd wedi ei gyhuddo o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus.
Mae teulu Ms Davies wedi diolch i'r person lleol a'r nyrsys o gartref nyrsio gerllaw a aeth i'w helpu, a hefyd i roddwyr gwaed ar ôl iddi dderbyn trallwysiad wedi'r gwrthdrawiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr