Drysau maenordy Llancaiach Fawr yn cau am y tro olaf
- Cyhoeddwyd
Mae drysau maenordy hanesyddol wedi cau i'r cyhoedd am y tro olaf yn sgil toriadau i gyllideb yr awdurdod lleol.
Roedd yna ymgyrch gymunedol i geisio achub amgueddfa Llancaiach Fawr, ger Nelson yn Sir Caerffili ar agor wedi i'r cyngor sir gyhoeddi cynlluniau i arbed £45m dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae 20 o staff cyflogedig a 18 o staff gwirfoddol yn colli eu swyddi o ganlyniad.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol mae Cyfeillion Llancaiach Fawr wedi "diolch pawb fu'n gweithio yno am ei wneud yn le arbennig, ac am adael atgofion melys i gymaint o bobl".
Ychwanegodd eu neges ddydd Sul bod ei meddyliau "gyda'r holl staff sy'n gweithio heddiw".
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd26 Awst 2024
Roedd y maenordy Gradd 1 wedi cael ei adfer a'i dodrefnu yn unol ag yn 1645, ac roedd staff a gwirfoddolwyr yn trefnu teithiau tywys a digwyddiadau ysbrydon.
Bwriad Cyngor Caerffili oedd i atal defnyddio'r adeilad "am gyfnod byr" ond ei gadw mewn cyflwr da, ar gost o £53,000, tra bod opsiynau eraill ar gyfer ei ddyfodol yn cael eu hystyried.
Ond er eu hymdrechion gorau i achub yr amgueddfa, daeth ymgyrchwyr i'r casgliad nad oedd modd cadw Llancaich Fawr ar agor heb nawdd blynyddol y cyngor o bron i £500,000.
Roedd y cyngor hefyd yn ystyried cau Sefydliad y Glowyr yn y Coed Duon erbyn diwedd y flwyddyn fel rhan o'r un cynlluniau i arbed arian.
Fe gafodd rali ei gynnal yn y dref ym mis Medi fel rhan o'r gwrthwynebiad i'r posibilrwydd, gyda miloedd yn llofnodi deiseb a'r aelod o'r Manic Street Preachers, Nicky Wire, yn datgan ei dristwch pe tai'r adeilad yn cau.
Ond ym mis Rhagfyr fe ddaeth i'r amlwg bod cais am arian wedi ei gymeradwyo gan Gyngor Celfyddydau Cymru er mwyn cadw'r adeilad ar agor tan fis Mawrth 2026.