Dynes ag MS yn 'poeni'n ofnadwy' am newidiadau i fudd-daliadau
Mae Sara Sanderson Williams wedi dechrau busnes cacennau "achos dwi'n gallu gwneud hynna pan dydi'r MS ddim yn effeithio dwylo fi"
- Cyhoeddwyd
Mae dynes sydd â sglerosis ymledol (MS) yn dweud ei bod yn "poeni'n fawr" am newidiadau i fudd-daliadau a bod yr ansicrwydd yn "achosi stress mawr" iddi hi.
Mae Sara Sanderson Williams o Lan Ffestiniog, Gwynedd yn un o'r 275,000 o bobl o oedran gweithio yng Nghymru sy'n hawlio Taliad Annibynnol Personol (PIP).
Dywedodd y fam 35 oed bod yr arian yn hanfodol ar gyfer "day to day living efo prisiau popeth 'di mynd fyny" ac nad ydi hi'n gwybod eto sut fydd y newidiadau yn effeithio arni hi.
Daw ei sylwadau wrth i Ganghellor Llywodraeth y DU, Rachel Reeves, gadarnhau yn Natganiad y Gwanwyn y bydd yna doriadau pellach i'r wladwriaeth les.

Mae Sara wedi cael trafferthion gyda'i chefn oedd yn golygu ei bod hi wedi treulio cyfnod mewn cadair olwyn
Cafodd Sara Sanderson Williams ddiagnosis o MS pan oedd hi'n 21 oed.
Eglura ei bod hi'n "paralysed lawr un ochr" a bod y doctor yn meddwl i ddechrau ei bod hi wedi cael strôc.
Dywedodd: "Es i i'r ysbyty a wedyn aeth o i'r ochr arall felly o'n i'n paralysed o'r neck down ac o'n i yn yr ysbyty am fisoedd a misoedd.
"O'n i methu molchi fy hun, o'n i methu bwyta ac o'dd Mam yn gorfod 'neud popeth drosta i. Wedyn nathon nhw ffeindio allan ar ôl cael lumber puncture mai MS sydd gen i.
"Erbyn rŵan, maen nhw wedi deud mai relapsing remitting MS sydd gen i so mae'n gallu bod yn wythnosau neu fisoedd heb dim llawer o disability a wedyn mae'n ymosod arna chdi."

Dywedodd Sara ei bod hi "wedi cael relapse drwg ar ôl genedigaeth"
"Ym mis Awst nes i gael relapse a nath hynna effeithio ochr dde fi i gyd lle o'n i methu cerdded, methu gafael ar ddim byd a na'th hynna ddigwydd tra o'n i ar holiday yn Tenby mewn disgo.
"Mae o'n gallu effeithio chi unrhywbryd ond mae o'n numbio fi, paralysio certain area o'r corff neu'r corff i gyd.
"Ma' mor unpredictable. Weithia ma pobl yn edrych arnach chdi a meddwl bod dim byd yn bod arnach chi. Mae'n anodd."
'Dod lawr grisiau ar fy ngliniau'
Bellach yn fam i blant 8 a 5 oed, mae'n dweud fod effaith yr MS ar ei bywyd bob dydd yn gallu bod yn "rili rili ddrwg" a'i bod yn gorfod cymryd morffin er mwyn codi yn y bore.
"Routine fi yn y bore ydi deffro'r plant a wedyn dod lawr y grisiau ar fy ngliniau a dwi'n gorfod gwneud y plant yn barod ar fy ngliniau achos dwi methu codi ar fy nhraed tan o leiaf 11.
"Dwi'n gorfod cael ffon gerdded i fynd o gwmpas."

Bu'n rhaid i Sara gael triniaeth yn Ysbyty Walton, Lerpwl er mwyn rhoi plasma newydd yn ei llygad
A hithau'n hawlio PIP a chredyd cynhwysol, mae'n dweud bod yr arian "yn helpu ni efo popeth am fod prisiau popeth yn mynd fyny rwan".
"Dwi'n gorfod cael gwres uchel yn y tŷ achos dwi'n cloi fyny. Am bo fi methu mynd i siopa fel pawb arall, dwi'n gorfod ordro pethau online a cael petha' i'r tŷ, sy'n ddrutach.
"Mae council tax 'di mynd fyny - mae costau pob peth di mynd fyny.
"Mis yma dwi di cael chwech apwyntiad i fynd i Bangor i'r ysbyty a mae'r pres dwi'n gael yn helpu efo costau petrol, car a weithia dwi'n gorfod talu am dacsi."

Mae Sara yn fam i ddau o blant ac yn dweud ei bod hi'n gorfod mynd lawr y grisiau ar ei gliniau yn y bore
Fel nifer o bobl eraill, fe gafodd Sara wybod ddydd Mercher sut fydd y newidiadau i'r system les yn effeithio arni hi.
Cyn y cyhoddiad dywedodd bod "anxiety fi through the roof".
"Mae'n achosi stress mawr. I fi, mae gormod o stress yn creu relapses felly dwi'n gorfod trio peidio gwylio'r newyddion neu 'neud rhywbeth arall felly bo fi ddim yn poeni gymaint.
"Dwi 'di siarad efo lot o bobl o'r MS Society sydd efo MS a pobl sy'n mynd trwy claims nhw rŵan a ma' nhw'n poeni. Does neb yn gwybod be sy'n mynd i ddigwydd."

Mae gan Sara apwyntiadau ysbyty rheolaidd ers ei diagnosis ac mae wedi ei chludo i Ysbyty Walton, Lerpwl
Eglura Sara ei bod hi wedi dechrau busnes pobi cacenni fel ei bod hi'n "gwneud rhywbeth yn lle gorwedd yn gwely yn neud dim byd".
"Dwi'n gallu ista lawr yn neud hynna pan dydi'r MS ddim yn effeithio dwylo fi.
"Dwi'n berson determined, dwi'n trio bod yn positif am bopeth so dwi'n trio gorau fi achos dwi ddim yn un am fod yn ddiog... mae o fel therapi i fi."

Dywedodd Pauline Jones o Flaenau Ffestiniog bod "lot o bobl yn dibynnu" ar fudd-daliadau wrth i gostau byw gynyddu
Mae pobl yn Mlaenau Ffestiniog hefyd wedi dweud eu bod nhw'n poeni am gostau byw cynyddol.
Dywedodd Neil Elis: "Mae popeth yn codi rŵan dydi - prisiau electric a gas a phetha fel'na. Dyla pobl gael help efo hynna."
Roedd Gwenda Taylor wedi bod yn siopa ac yn dweud fod "pethau'n anodd ar hyn o bryd".
"Dwi ddim yn gwybod be sy'n mynd 'mlaen. Dwi newydd fod yn siopa a popeth yn mynd fyny."

Dywedodd Geoff McQuilling o Flaenau Ffestiniog ei fod yn poeni y bydd "pobl yn stryglo efo bywyd"
Wrth drafod toriadau i fudd-daliadau, dywedodd Geoff McQuilling ei fod yn poeni y byddai hynny'n effeithio ar fywydau pobl.
"Mae'n mynd i hitio rhai pobl mwy na lleill a fydd bobl yn stryglo efo bywyd.
"Dwi'n meddwl neith o hitio pobl go iawn."
Dywedodd Pauline Jones y bydd newid budd-daliadau yn "effeithio lot o bobl".
"Ma' lot o bobl yn dibynnu arno fo efo'r cost of living.
"Mae petha'n galed ar bobl yn barod dydi?
"Sa nhw'n gallu arbed arian drwy stopio fynd i wars."

Mae twf economaidd araf yn bryder mawr i fusnesau fel un Mark Astley
Dywed y Canghellor, Rachel Reeves ei bod hi'n parhau i geisio delio â thwf economaidd araf a chostau benthyca uwch.
Mae twf araf yn bryder mawr i fusnesau fel un Mark Astley, sy'n cyflogi 85 o bobl yn 'Bike Park Wales' ym Merthyr Tudful.
Dywedodd ei fod yn poeni am y cynnydd mewn trethi a chyflogau gafodd ei gyhoeddi yn y Gyllideb ym mis Hydref.
O fis Ebrill ymlaen, bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn cynyddu i bobl dros 21 oed, o £11.44 i £12.21 yr awr.
Yn ôl Mr Astley bydd hynny'n gynnydd o 6% mewn costau i'w fusnes sy'n "ergyd sylweddol".
O fis Ebrill hefyd bydd cyflogwyr yn talu mwy o Yswiriant Gwladol "sy'n gwneud popeth yn anoddach", meddai.
Dywedodd nad yw'n golygu codi prisiau i gwsmeriaid gan fod pobl yn gwario llai.
"Mae angen i'r llywodraeth gefnogi busnesau achos ar hyn o bryd mae'n teimlo mai ni sy'n dioddef fwyaf," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd17 Mawrth
- Cyhoeddwyd18 Mawrth