Wenna Bevan Jones i dderbyn Medal R Alun ym mlwyddyn gyntaf y wobr

Bydd Wenna Bevan Jones yn cael ei hanrhydeddu yn yr Eisteddfod am ei chyfraniad at ei hardal fabwysiedig
- Cyhoeddwyd
Bydd Medal R Alun, sy'n cael ei chyflwyno am y tro cyntaf erioed yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, yn cael ei chyflwyno i Wenna Bevan Jones.
Mae'n ennill y fedal am "wneud cyfraniad gwirioneddol i gefnogi, cynnal a chyfoethogi diwylliant ei hardal leol" meddai'r Eisteddfod Genedlaethol.
Mae'r fedal yn cael ei chyflwyno er cof am y diweddar R Alun Evans, ffigwr canolog yn natblygiad yr eisteddfod.
Bydd Wenna Bevan Jones yn cael ei hanrhydeddu mewn seremoni arbennig yn y pafiliwn ar faes yr eisteddfod brynhawn Sul, 3 Awst.
- Cyhoeddwyd5 Awst 2024
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
Yn wreiddiol o Faldwyn, mae Wenna wedi byw yn ardal Llandysul ers dros hanner canrif.
Am 25 mlynedd bu'n ynad heddwch ac yn gadeirydd ar Fainc Ceredigion.
Bu hefyd yn aelod o Fwrdd Rheoli Cwmni Theatr Arad Goch, yn llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Tregroes ac Ysgol Dyffryn Teifi, yn ogystal ag ysgrifenyddes Cymdeithas Rhieni ac Athrawon y ddwy ysgol.
Sefydlodd gylch darllen lleol a hi oedd trefnydd cyntaf cynllun 'Pryd ar Glud' yn ardal wledig Llandysul.

Am flynyddoedd roedd R Alun Evans yn wyneb cyfarwydd ar lwyfan Pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol
Wrth glywed ei bod am dderbyn y Fedal, dywedodd Wenna ei fod yn sioc ond ei bod yn gwerthfawrogi'r anrhydedd gan ei bod yn "cofio'r teulu yn Llanbrynmair – R Alun a'i ddiweddar dad, y Parchedig Robert Evans".
Roedd yn eisteddfodwr brwd yn ystod ei phlentyndod, yna fe aeth i nyrsio yn Birmingham cyn cwrdd â'i gŵr a symud i Landysul.
Ar ôl cyrraedd fe benderfynodd hi "fod rhaid dod i adnabod yr ardal, a dechreuais fynd i merched y wawr," meddai.
Tyfodd ei hymroddiad i'r gymuned o hynny ymlaen, ac mae hi bellach yn ysgrifenyddes a gohebydd y wasg i gangen Llandysul o Ferched y Wawr, yn aelod o gapel Carmel ac yn aelod o fwrdd golygyddol papur bro Y Garthen.
Fe gafodd Wenna ei derbyn i'r Orsedd yn 2009 am ei chyfraniad arwyddocaol i'w hardal leol.
Mae ei henwebiad ar gyfer y wobr yn nodi fod Wenna yn "gweithio'n dawel ac effeithiol heb ddisgwyl cydnabyddiaeth – a'r cyfan yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg".
'Y wobr yn cadw enw R Alun yn fyw'
Mae'r Fedal yn cael ei chyflwyno am y tro cyntaf eleni er cof am y diweddar Barch. R Alun Evans, a wasanaethodd ar gyngor yr eisteddfod am flynyddoedd lawer.
Bu farw ychydig ddyddiau ar ôl Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ddwy flynedd yn ôl, yn 86 oed.
Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol: "Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno'n flynyddol i unigolyn sydd, fel R Alun, wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol i gefnogi, cynnal a chyfoethogi diwylliant eu hardal leol am gyfnod sylweddol o amser.
"Bydd y wobr yn cadw enw R Alun yn fyw ar wefusau pobl Cymru am genedlaethau i ddod."
Fe groesawodd teulu R Alun y bwriad i greu'r wobr.
Dywedodd ei ferch, Betsan Powys: "Rydym wrth ein bodd gyda'r syniad gan y bydd yn cadw ei enw yn yr Eisteddfod Genedlaethol, bu'n rhan mor fawr o'i fywyd.
"Rydym yr un mor hapus fod y wobr i'w chyflwyno i rywun sydd wedi gwasanaethu ei bro a'i chymuned."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.